Mae’r Rhaglen Gwyddoniaeth a Pheirianneg ar gyfer Athrawon yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn ôl ar gyfer 2023! Dyma’r pedwar unigolyn o Gymru a fydd yn cynrychioli Cymru yn y rhaglen hon eleni.
Huw Smith
Helo! Fy enw i yw Huw Smith ac rwy’n gweithio i GwE, Consortiwm Ysgolion Gogledd Cymru, fel eu Cynghorydd Gwella STEM. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle cyffrous hwn i ymweld â Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) – Prifysgol STEM fwyaf blaenllaw’r byd – ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn eu Rhaglen Gwyddoniaeth a Pheirianneg arloesol i Athrawon (SEPT).
Bydd pedwar ohonom o Gymru yn gweithio gyda thros 50 o athrawon eraill o wahanol wledydd i ddatblygu mentrau addysgu y gallwn ddod â nhw’n ôl a’u rhannu gyda’n hysgolion. Mae’r rhaglen SEPT yn cynnwys darlithoedd gan wyddonwyr blaenllaw, cyfleoedd dysgu proffesiynol gan ddefnyddio’r dechnoleg addysg
ddiweddaraf sydd wedi’i datblygu yn MIT, a gweithdai ymarferol i ddatblygu sgiliau STEM ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
Rydw i wir yn edrych ymlaen at y cyfle cyffrous hwn!
Ellie Denscombe
Yn 2001 dechreuais fy ngyrfa newydd fel athrawes Gwyddoniaeth sy’n arbenigo mewn Bioleg. Erbyn 2023 rwyf bellach yn Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth ac yn addysgu Ffiseg yn bennaf, gan gynnwys ar lefel Safon Uwch. Fel athrawes anarbenigol ar lefel Safon Uwch mae Dysgu Proffesiynol wedi bod yn hynod bwysig i’m galluogi i gyrraedd fy lefel i.
Fel cyn Bennaeth y 6ed Dosbarth a oedd yn annog fy nisgyblion yn barhaus i ‘ymgeisio am bob cyfle – does dim i’w golli’ roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n rhagrithiwr enfawr pe na bawn i’n dilyn fy nghyngor fy hun!
Byddwn i’n dweud celwydd pe bawn i’n dweud nad ydw i’n nerfus am fynd i MIT. Ychydig iawn fu’r cyfleoedd i wthio fy hun yn broffesiynol ers y pandemig. Gan wthio fy nerfau o’r neilltu rwy’n gyffrous iawn am y cyfle hwn i ddysgu cymaint mwy gan weithwyr proffesiynol eraill o’r un anian a dod â chyfoeth o wybodaeth ac adnoddau newydd y gall fy nghydweithwyr a minnau eu defnyddio i yrru safonau ymhellach ar draws meysydd STEM.
Alun Rennolf
Alun ydw i, a fi yw Pennaeth Ffiseg Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe. Rwyf wedi bod yn addysgu yn yr ysgol ers gorffen hyfforddi yn 2018, ac rwyf wrth fy modd yn gweithio fel aelod o Adran Wyddoniaeth egnïol ac arloesol. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth sy’n digwydd ar flaen y gad yn y byd STEM ym MIT, a dod â’r hyn y byddaf yn ei ddysgu yn ôl i Abertawe!
Nathan Melly
Fel athro, rydw i bob amser yn awyddus i ddysgu pethau newydd, felly pan ddaeth y cyfle hwn roedd yn rhaid i mi wneud cais! Rwy’n dod i ddiwedd fy ail flwyddyn fel Athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac rwyf wedi cael profiad gwych hyd yn hyn.
Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd a phenderfynais ddilyn Gwyddoniaeth trwy gyflawni fy ngradd mewn Sŵoleg ym Mhrifysgol Abertawe gan raddio yn 2018. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn nid yn unig wedi datblygu fy niddordebau yn y pwnc trwy astudio, ond gwnes hefyd ennill cymwysterau mewn deifio scuba a dilynais gwrs maes rhyngddisgyblaethol i’r Himalayas.
Penderfynais mai Addysgu byddai fy ngham nesaf ar ôl gweithio mewn prosiectau marchnata, hamdden ac amgylcheddol gartref a thramor. Roeddwn i eisiau adeiladu ar gyfer y tymor hir wrth wneud gwahaniaeth i ddisgyblion yng Nghymru.
Fy nod bob amser oedd ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr trwy ddarparu profiadau bywyd go iawn sy’n berthnasol i’w bywydau, gan wella eu sgiliau allweddol a chaniatáu iddynt ymddiddori yn y byd o’u cwmpas. Rwy’n gyffrous iawn i weld sut mae pobl eraill o bob cwr o’r byd yn gwneud hyn, ac ni allaf aros i weld beth arall sydd gan y rhaglen hon i’w gynnig!
Safbwynt Equal
Fel cwmni, mae’n bleser pur cael bod yn rhan o raglenni fel SEPT a all fod o fudd gwirioneddol i addysgu pynciau STEM yng Nghymru fel rhan o waith datblygu’r Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Crynhodd Rebecca Martin, Uwch Gydymaith (Partneriaethau Rhyngwladol) gyda Equal Education Partners agweddau’r tîm tuag at y rhaglen:
“Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am y cyfleoedd sydd o’n blaenau ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith sylweddol y bydd y pedwar cynadleddwr eithriadol hyn yn ei chael ar addysg STEM yng Nghymru. Fel busnes, mae Equal yn parhau i fod yn ymrwymedig i feithrin arloesedd a rhagoriaeth mewn addysg, ac mae’r fenter hon yn dyst i’n hymrwymiad i rymuso addysgwyr a hyrwyddo datblygiad addysgol ledled y wlad.”
Dysgwch fwy am y rhaglen SEPT a swyddogaeth Equal ynddi yma.