Mae Equal Talent Partners yn ymgynghoriaeth recriwtio a hyfforddi addysg flaenllaw sy’n gweithio gydag ysgolion ac yn ffurfio partneriaethau Addysg Uwch arloesol ar draws Cymru, yn Lloegr ac yn rhyngwladol. Rydym yn galluogi sefydliadau addysg i ddenu, cadw a datblygu’r doniau addysgu gorau a darparu cyfleoedd heb eu hail i ddysgwyr dyfu. Rydym yn gwneud hyn trwy ein gwaith ar draws recriwtio addysg, hyfforddi athrawon, ymgynghori yn y sector cyhoeddus & rheoli prosiectau a thrwy ffurfio partneriaethau addysg uwch effeithiol yn rhyngwladol. Rydym yn cyfuno ein harbenigedd ni ac arbenigedd ein partneriaid â phŵer technoleg i gysylltu pobl ac i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol addysg a dysgwyr i ddatblygu eu hunain trwy ymgymryd â heriau newydd bob dydd!
Ein gweledigaeth a’n cenhadaeth
- Cysylltu gweithwyr proffesiynol addysgu rhagorol â’r cyfleoedd gorau.
- Darparu staff o ansawdd uchel trwy recriwtio diogel a chydymffurfiol i ysgolion.
- Cyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu.
- Bod yn bartner cefnogol i bawb ac i wasanaethu fel estyniad i swyddfa’r ysgol.
- I ddarparu cyfleoedd heb eu hail i ddysgwr.
Pam yr ydym ni’n gwneud yr hyn rydym yn ei wneud?
- Galluogi sefydliadau addysg i ddenu, cadw a datblygu’r dalent addysgu gorau.
- Ehangu’r ystod o gyfleoedd o ansawdd ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysgu ansawdd uchel.
- Cyflwyno cyfleoedd datblygiadol effeithiol ar gyfer twf proffesiynol a phersonol.
- Darparu cyfleoedd trawsnewidiol heb eu hail i ddysgwyr.
- I’w gwneud yn haws rhedeg ysgolion a sefydliadau llwyddiannus.
Ein gwerthoedd a’n hymrwymiadau
Rydym wedi ymrwymo i fod yn:
- Uchelgeisiol ar eich rhan
Gefnogol i’ch anghenion - Deallgar o’ch cyflawniadau a’ch nodau
- Teg a moesegol yn ein gwaith
- Yn benderfynol o ragori ar holl ddisgwyliadau
Beth yr ydym yn ddarparu?
- Gweithwyr proffesiynol rhagorol, wedi’u fetio yn llawn ar gyfer cyflenwi bob dydd, swyddi tymor hir a pharhaol.
- Cyfleoedd i weithwyr proffesiynol addysgu ddatblygu eu gyrfaoedd a chyflawni eu nodau.
- Profiadau addysgol heb eu hail i ddysgwyr.
- Cyfleoedd hyfforddi ar gyfer datblygiad proffesiynol a thwf personol i weithwyr proffesiynol addysgu a dysgwyr.
- Estyniad o swyddfa’r ysgol i helpu ysgolion i gyflawni eu nodau.
- Cefnogaeth ymroddedig i’n holl bartneriaid.
- Cynhwysoldeb ac awydd i ehangu ein cyrhaeddiad a’n perthnasoedd.