Rydym yn cyflwyno gweithwyr proffesiynol addysgu & chymorth addysgu i rolau dros dro, hirdymor a pharhaol

Rolau Addysgu & Chymorth Addysgu rydym yn cyflogi ar gyfer:
  • Athrawon ysgol gynradd cymwys
  • Athrawon pwnc ysgolion uwchradd cymwys
  • Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG)
  • Darlithwyr Coleg Addysg Bellach (AB)
  • Goruchwylwyr Llanw
  • Cynorthwywyr Addysgu
  • Arbenigwyr 1-i-1
  • Arbenigwyr ymddygiadol
  • Arbenigwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Personél gweinyddol
  • Aelodau’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth
  • Staff cyfleusterau (e.e. gofalwyr, arlwywyr)

Ble allech chi weithio gyda Equal?
  • Meithrinfeydd
  • Ysgolion cynradd
  • Ysgolion uwchradd
  • Ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Unedau Cyfeirio Disgyblion
  • Ysgolion annibynnol
  • Colegau Addysg Bellach (AB)
  • Awdurdodau Lleol
  • Llywodraethau a chyrff cyhoeddus eraill
  • Sefydliadau elusennol

Pam ddylai addysgwyr weithio gyda Equal?

Pam ddylai addysgwyr weithio gyda Equal?
Reason 1 Cyfraddau Tâl Ardderchog:
  • Isafswm o £30,742 y flwyddyn ar gyfer athrawon cymwys o’r diwrnod cyntaf
  • Telir pob Cynorthwyydd Addysgu uwchlaw’r Cyflog Byw
  • Rydym yn talu’n uniongyrchol trwy gynllun Talu Wrth Ennill (nid ydym yn defnyddio cwmnïau ymbarél costus)
Reason 2 Dysgu Proffesiynol
  • Hyfforddi a mentora ar gael i holl aelodau’r tîm
  • Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi’u hariannu gan Equal Talent Partners
  • Cyfleoedd rhwydweithio a chymorth ar gael i holl aelodau’r tîm
Reason 3 Cefnogaeth Ymroddedig:
  • Rydym yn mabwysiadu dull wedi’i bersonoli, gan ddod i adnabod pob aelod o’r tîm
  • Bydd ein Rheolwyr Recriwtio yn eich cefnogi o ddydd i ddydd
  • Rydym bob amser ar gael trwy ein gwasanaeth y tu allan i oriau
Reason 4 Cyfleoedd Eang
  • Rydym yn recriwtio staff adysgu a chymorth addysgu ar gyfer dros 100 o ysgolion a cholegau
  • Rydym wedi ein hargymell gan Lywodraeth Cymru i bob ysgol yng Nghymru
  • Rydym wedi ein hargymell ledled Lloegr gan yr Adran Addysg
Reason 5 Hyblygrwydd
  • Byddwn yn gweithio gyda chi i gyflawni eich amcanion a chyflawni’ch uchelgeisiau proffesiynol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir
  • Gweithiwch gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch – gadewch i ni gwybod eich argaeledd ddiweddaraf ac fe ddown o hyd i waith addas i chi
Reason 6 Dilyniant Gyrfaol:
  • Rydym yn rhagweithiol wrth sicrhau swyddi hirdymor a pharhaol i’n staff addysgu a chymorth addysgu
  • Rydym yn galluogi staff addysgu a chymorth addysgu i adeiladu perthnasoedd pwysig ar draws amrywiaeth eang o ysgolion a cholegau

Yn dibynnu ar eich nodau, byddwn yn cyflwyno chi i swyddi dros dro, tymor hir a / neu barhaol addas. Byddwn yn talu chi’n dda, helpu chi i archwilio ysgolion a/neu golegau amrywiol, cefnogi chi i adnabod eich cryfderau a galluogi chi i adeiladu perthnasoedd pwysig yn y sector addysg.

Daw dros 100 o ysgolion a cholegau at Equal Talent Partners i recriwtio staff addysgu a chymorth addysgu. Rydym yn cael ein hargymell i bob ysgol a choleg yng Nghymru gan fframwaith recriwtio addysg Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, felly bydd gennych fynediad i gannoedd o ysgolion a cholegau trwom ni. Rydym hefyd ar fframwaith recriwtio addysg yr Adran Addysg (DfE) yn Lloegr.

Yn ogystal â darparu gwaith, trwy ein Academi byddwn yn cynnig ystod eang o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol i chi er mwyn sicrhau eich datblygiad proffesiynol parhaus. Ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso, newidwyr gyrfa, y rhai sy’n adleoli a’r rhai sy’n dychwelyd i ddysgu, rydym yn darparu hyfforddiant a mentora wedi’u teilwra. I bawb, rydym yn cyflwyno cyrsiau effeithiol i sicrhau eich bod chi bob amser ar frig eich gêm!

Rydym yn recriwtio ar gyfer ystod eang o rolau ar draws amrywiaeth o leoliadau. I weld llawer o’n swyddi gwag cyfredol, ewch i’n bwrdd swyddi. Fodd bynnag, os nad ydych chi’n gweld yr hyn rydych chi’n chwilio amdano’n syth, cysylltwch â ni. Mae ein swyddi gwag yn newid yn gyson ac nid yw ein holl swyddi wedi’u rhestru ar ein gwefan. Gallwch gysylltu â ni trwy’r wefan, trwy ffonio 01554 777749 neu 02920 777749, neu drwy anfon e-bost atom ar hello@equaltalentpartners.com.

Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr moesegol. Rydym yn cynnig y cyfraddau cyflog uchaf yn y sector. Telir o leiaf £30,742 y flwyddyn i bob athro (£157.66 y dydd) o’u diwrnod cyntaf o weithio gyda Equal. Mae athrawon mewn swyddi tymor hir yn cael eu talu mwy na hyn ac yn unol â’u safle ar y brif raddfa gyflog. Mae ein Cynorthwywyr Cymorth Addysgu yn cael eu talu yn unol â chynorthwywyr cymorth addysgu a gyflogir yn uniongyrchol ac o leiaf ar Gyflog Byw Cenedlaethol y Sefydliad Cyflog Byw.

Fe’ch telir yn fisol trwy gynllun Talu Wrth Ennill yn uniongyrchol gan Equal trwy drosglwyddiad BACS. Mae’r holl dâl am waith hyd at a chan gynnwys dydd Gwener olaf y mis yn cael ei dalu erbyn diwrnod olaf y mis.

Nac ydym. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mai’r hyn rydym yn dalu i chi yn perthyn i chi (yn ddarostyngedig i dreth, yswiriant gwladol gweithwyr a didyniadau statudol eraill). Nid ydym yn cyflogi unrhyw gwmnïau ymbarél i weinyddu tâl ar ein rhan, gan arbed chi ffioedd ymbarél costus. Tra bo cwmnïau ymbarél yn didynnu cyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr o aelodau staff, ni sydd yn talu rhain am holl staff sy’n gweithio gydag Equal.

Ymunwch Nawr, ffoniwch ni ar 01554 777749 neu 02920 697129, neu anfonwch e-bost atom ar hello@equaltalentpartners.com. Mae ein hymgynghorwyr yn barod i helpu ac er bod ein safonau’n uchel, byddwn bob amser yn gwneud y broses yn llyfn ac yn ddi-dor ar gyfer addysgwyr o’r safon uchaf sy’n dymuno ymuno â’n tîm.