Beth yw menter SEPT MIT?

Mae’r rhaglen gwyddoniaeth a pheirianneg ar gyfer athrawon o fewn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn rhoi cylfe i 55 o athrawon arloesol ac ymdroddedig o bob cwr o’r byd fynychu darlithoedd gan wyddonwyr blaenllaw, rhoi cynnig ar dechnoleg diweddar a ddatblygwyd ar y campws a rhwydweithio gyda grŵp rhagorol o addysgwyr angerddol.
Mae Llywodraeth Cymru, drwy Equal Education Partners, yn ariannu 4 o addysgwyr STEM o bob rhan o Gymru i fynychu a chymryd rhan yn y rhaglen i ddatblygu gwybodaeth am bynciau STEM, a hynny er mwyn cefnogi gwaith cyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, a chymhwysedd digidol ar draws pob maes pwnc

Sut mae Equal Education Partners wedi cefnogi Rhaglen SEPT 2023

Yn Equal, rydym yn falch iawn o gyfrannu at gynnig cefnogaeth i’r pedwar cynrhychiolydd rhagorol, gan eu galluogi i fynychu MIT, sy’n sefydliad mor uchel ei fri, fel rhan o’r rhaglen arloesol hon.

Fel rhan o’r fenter hon, mae Equal wedi hwyluso’r broses gyfan,gan gynnwys archebu teithiau awyr, cynorthwyo gyda threfniadau fisa, a sicrhau opsiynau llety
cyfforddus. Trwy wneud hynny, nod Equal yw helpu i rymuso’r cynrychiolwyr a’u harfogi gyda’r holl wybodaeth a’r adnoddau angenrheidiol sydd eu hangen i elwa i’r eithaf ar y cyfle gwych hwn a dod â’u profiadau yn ôl i Gymru i wella addysg STEM ledled y wlad.

The 2023 SEPT programme Welsh delegation

Bydd y pedwar cynrhychiolydd o Gymru a ddewiswyd i gymryd rhan yn y rhaglen SEPT yn ymweld ag MIT ac yn cymryd rhan mewn:

● Darlithoedd dyddiol gan wyddonwyr MIT ar feysydd newydd mewn ymchwil gwyddoniaeth a pheirianneg
● Gweithdai ymarferol gyda Lego DNA, gemau cyfrifiadurol ac efelychiadau, a thechnoleg a ddatblygwyd yn MIT
● Teithiau o amgylch labordai ac arddangosiadau dan arweiniad gwyddonwyr MIT
● Cyfle i ddysgu mwy am fentrau MIT K-12 ar gyfer myfyrwyr ac athrawon
● Adeiladu cymuned ymhlith y grŵp rhagorol o athrawon sydd eisioes yn ymwybodol o SEPT

O’r dechrau’n deg mae SEPT wedi cadw maint dosbarthiadau pob blwyddyn yn fach i sicrhau bod pob cyfranogwr yn elwa i’r eithaf ar eu profiad.

Mae SEPT yn cynnig cymhareb uchel rhwng adrannau a myfyrwyr, gyda maint dosbarth rhwng 50-60 ac yn ehangu pob blwyddyn.

Dysgwch fwy am y prosiect yma.

Gweithio gydag Equal

Members of the Equal team working at their desk

 

Os oes gennych chi brosiect tebyg sydd â’r nod o rymuso addysgwyr a meithrin rhagoriaeth mewn addysgu cysylltwch â’n tîm partneriaethau:


Cwrdd â chynrychiolwyr 2023

Archwiliwch gefndiroedd amrywiol, arbenigedd a straeon ein cynrychiolwyr arbennig ar gyfer 2023.

Huw Smith

Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle cyffrous hwn i ymweld â MIT- prif brifysgol STEM y byd- ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn eu rhaglen SEPT arloesol

Ellie Denscombe

Rydw i’n hynod o gyffrous am y cyfle hwn i ddysgu cymaint mwy gan weithwyr proffesiynnol eraill o’r un meddylfryd

Alun Rennolf

Rwy’n edrych ymlaen at weld beth sy’n digwydd ar flaen y gad yn y byd STEM yn MIT, a dod â’r hyn rwyf wedi’i ddysgu yn ôl i Abertawe!

Nathan Melly

Fel athro, rydw i bob amser yn awyddus i ddysgu pethau newydd, felly pan ddeth y cyfle yma roedd yn rhaid i mi ymgeisio!

Dychwelyd i Gymru

Yn dilyn eu profiad yn MIT, bydd Equal yn cydweithio’n agos â’r pedwar cynrychiolydd i sicrhau bod eu dysgu yn cael ei ledaenu’n eang. I gyflawni hyn, rydym wedi cynllunio cynllun cynhwysfawr sy’n cynnwys uwchlwytho adroddiadau myfyrio a fydd ar gael drwy lwyfannau Equal a Hwb. Bydd hyn yn galluogi addysgwyr o bob rhan o Gymru i gael mynediad at eu profiadau gwerthfawr a’u hintegreiddio yn eu harferion addysgu.

 

Ar ben hynny, bydd Equal yn trefnu digwyddiadau dysgu proffesiynol ym mhob un o ysgolion yr addysgwyr, gan eu galluogi i rannu eu harbenigedd newydd â chydweithwyr, gan ymhelaethu ar effaith eu profiad. Mae Equal hefyd wedi ymrwymo i drefnu a hwyluso digwyddiadau dysgu proffesiynol Cymru gyfan, gan sicrhau bod buddion eu dysgu yn ymestyn y tu hwnt i’w cymunedau ysgol agos.

 

I gofrestru eich diddordeb mewn ymuno â’r digwyddiadau dysgu proffesiynol, cysylltwch â’n tîm partneriaethau heddiw.


I ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan trwy bartneriaeth Partneriaid Addysg Equal gyda’r rhaglen SEPT, cysylltwch heddiw

Cysylltwch â ni

Newyddion diweddaraf

Edrychwch ar rai o'n newyddion diweddaraf isod!