Trafodaeth ysbrydoledig gyda merched o Children’s International School yn Lagos, Nigeria
Ar Ddydd Mercher 3 Mawrth 2021, wnaeth dau hyfforddwyr STEM o raglen Global Teaching Labs (GTL) yng Nghymru 2021 gyda Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) Equal Education Partners cwrdd yn rhithwir gyda ferched Blwyddyn 10 ac 11 o Children’s International School (CIS) yn Lagos, Nigeria. Fe wnaeth y digwyddiad ysbrydoledig hwn alluogi sgwrs adeiladol am bwysigrwydd gwella cydraddoldeb rhywiol mewn STEM a brwydro yn erbyn yr ystrydebau cysylltiedig.
Wnaeth y ddau hyfforddwr o MIT, myfyrwyr ail flwyddyn Kanoe Evile a Maria Ascanio Alino, rhannu gyda’r dosbarth eu profiadau eu hunain fel menywod mewn STEM, ateb cwestiynau oed gyda’r merched a chynnig cyngor ac arweiniad i symud ymlaen yn academaidd ac yn broffesiynol ym myd STEM. I ddarllen mwy am Kanoe a Maria, ewch i https://gtlcymru.online/hyfforddwyr.
“Roeddwn wrth fy modd i weld ein merched CIS yn barod i chwalu drysau unrhyw ystrydebau STEM a pharatoi eu hunain yn emosiynol ar gyfer y siwrnai honno i gydio yn eu gyrfaoedd, gyda chefnogaeth ac anogaeth Maria a Kanoe.”
Dr Adam England, Prifathro, Children’s International School Lagos Nigeria