Yma yn Equal Education Partners, ein cenhadaeth yw cysylltu gweithwyr addysg proffesiynol dawnus â chyfleoedd rhagorol ar draws Cymru.

Rydym wedi llwyddo i leoli miloedd o weithwyr addysg proffesiynol mewn rolau ledled Cymru trwy ein lle ar fframwaith recriwtio addysg cenedlaethol Llywodraeth Cymru a chredwn mai un o’r ffyrdd gorau o ddod o hyd i ymgeiswyr gwych yw trwy argymhellion gan bobl fel chi!

Mae ein cleientiaid bob amser yn chwilio am ymgeiswyr o safon uchel, o Athrawon Cymwys a Staff Cymorth ar gyfer pob Cyfnod Allweddol, gan gynnwys y Blynyddoedd Cynnar, i Diwtoriaid ac addysgwyr ADY arbenigol mewn swyddi parhaol a llanw.

Hawlio eich bonws

Ydych chi’n adnabod athro, cynorthwyydd addysgu, neu rywun a fyddai’n wych mewn amgylchedd ysgol? Oes gennych chi ffrind neu gydweithiwr yn chwilio am gyfle newydd? Cysylltwch â ni heddiw gyda’u manylion

Unwaith y byddwch yn eu cyfeirio atom, ac os byddwn yn eu rhoi mewn rôl yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwobrwyo â thocyn anrheg o £100 fel diolch!

  • Nid oes angen i chi fod wedi gweithio gyda ni i atgyfeirio rhywun.
  • Mae’r wobr yn berthnasol p’un a yw eich gyfeiriad ar gyfer aelod o’r teulu, ffrind neu gydweithiwr.
  • Mae Equal Education Partners yn cwmpasu amrywiaeth o rolau ledled Cymru, felly mae croeso i chi anfon manylion unrhyw un sy’n chwilio am waith amgen neu ychwanegol ym myd addysg atom.


 

Telerau ac Amodau

Mae pob Cynllun Atgyfeirio yn eithrio ymgeiswyr sydd eisoes wedi cofrestru gyda ni (Equal Education Partners) ac sy’n chwilio am waith.

  • Ni thelir y wobr oni bai bod yr unigolyn a chyfeiriwyd wedi’i leoli gennym ni ac yn cwblhau unrhyw gyfnod prawf (rolau parhaol) neu wedi cwblhau 10 diwrnod cyflenwi.
  • Rhaid i’r parti sy’n cyfeirio hysbysu’r person a chyfeiriwyd a cheisio caniatâd i’w manylion gael eu trosglwyddo i ni.
  • Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer yr atgyfeiriadau y gall unigolyn eu gwneud.
  • Rhaid gwneud atgyfeiriadau atom ni cyn neu adeg cofrestru (yr ymgeisydd a gyfeiriwyd) – nid yw atgyfeiriadau a wneir yn ddiweddarach yn ddilys.
  • Dim ond unwaith y gellir cyfeirio ymgeiswyr. Os bydd ymgeisydd yn cael ei gyfeirio fwy nag unwaith, dim ond y person cyntaf i gyfeirio’r ymgeisydd hwnnw fydd yn gymwys ar gyfer y wobr o dan y cynllun hwn.
  • Mae Equal Education Partners yn cadw’r hawl i amrywio neu derfynu’r Cynllun Atgyfeirio cyfan neu ran ohono ar unrhyw adeg heb rybudd.