Mewn carreg filltir arwyddocaol arall i Equal Education Partners, rydym wedi cael y newyddion yn ddiweddar ein bod unwaith eto wedi sicrhau lle ar fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer recriwtio addysg.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn benllanw pedair blynedd o gydweithio llwyddiannus wrth ddarparu gweithwyr addysg proffesiynol o ansawdd uchel i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ledled Cymru drwy’r fframwaith presennol.

 

Roedd Kelly Whiteway, Cyfarwyddwr Cyswllt yn Equal wrth ei bodd â’r cyhoeddiad:

 

“Mae derbyn lle ar fframwaith Llywodraeth Cymru unwaith eto yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein tîm cyfan. Mae’r garreg filltir hon yn ein galluogi i ehangu ein cyrhaeddiad ymhellach, gan agor drysau i fwy o rolau a chyfleoedd gwaith i’n hymgeiswyr.

 

Mae hyn hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi ysgolion a cholegau ledled Cymru a darparu sicrwydd ansawdd yn ein holl waith. Mae twf ein tîm swyddfa, ynghyd â’r galw cynyddol am ein gwasanaethau, yn ein hysbrydoli i barhau i wthio ffiniau rhagoriaeth mewn recriwtio addysg.”

 

 

Cefnogi Twf Addysgol Cymru

Mae Equal Education Partnersl wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ysgolion ledled Cymru, gan recriwtio dros 1,500 o athrawon cymwys a chynorthwywyr addysgu hyd yma.

 

Amlygir ein hymrwymiad i ragoriaeth addysgu ac ymroddiad i ddarparu’r adnoddau addysgol gorau i’n staff addysgu a’n hysgolion trwy ein platfform dysgu proffesiynol ar-lein sy’n parhau i ehangu – Academi Ar-lein Equal Education Partners – yn ogystal â chyrsiau dysgu proffesiynol personol, sy’n cyfoethogi’r addysgu a’r profiad dysgu i addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

 

Rydym yn rhoi’r flaenoriaeth fwyaf i ddiogelu ac amddiffyn plant. Mae’r sefydliad yn falch o fod ag achrediad Addysg Archwiliedig y REC, sy’n dyst i’n hymlyniad at arferion gorau mewn protocolau diogelu. Mae ein cwrs Diogelu, sydd ar gael trwy’r Academi Ar-lein, hefyd wedi derbyn achrediad DPP. Mae’r ymrwymiad hwn yn sicrhau y gall pob ymgeisydd sy’n gweithio gydag EEP ymddiried bod eu diogelwch a’u lles yn hollbwysig.

 

Fel cyflogwr moesegol, rydym hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar gydymffurfio, gan sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin â pharch ac uniondeb, gyda mynediad at gyfleoedd DPP o ansawdd uchel. Mae’r cyhoeddiad diweddar y byddwn yn talu lleiafswm o £157.66 y dydd (cyfwerth â £30,742 y flwyddyn) i bob athro cymwysedig yn adlewyrchu ein hymroddiad i gyflog teg ac yn dangos ein bod yn cydnabod cyfraniad amhrisiadwy yr holl staff addysgu.

 

Cydnabod Ein Tîm a’n Partneriaid

Roedd Carolyn Rahman, Cyfarwyddwr Gweithredol Grŵp Equal, yn awyddus iawn i ganmol rôl staff addysgu Equal ac ysgolion partner yn y cyflawniad hwn:

 

“Rwyf am ddiolch o galon i’n tîm o athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu. Heb eich gwaith caled a’ch proffesiynoldeb ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl – chi fu asgwrn cefn llwyddiant Equal. Heb eich ymrwymiad i leoliadau tymor hir a gwaith cyflenwi, ni fyddai’r cyflawniad hwn wedi bod yn bosibl.

 

Hoffwn hefyd ddiolch am ymroddiad aelodau ein tîm addysgu ac ysgolion a cholegau partner, yn enwedig yn ystod cyfnod heriol pandemig COVID-19. Ar adeg mor ddigynsail, roedd cydweithio yn allweddol i helpu llawer o ysgolion i aros ar agor.

 

Alla’ i ddim aros i weld beth allwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf a thu hwnt.”

 

 

Ehangu Gorwelion

Wrth i Equal Education Partnersl barhau i dyfu a ffynnu, rydym yn dathlu agor swyddfa newydd, fwy ym Mro Tawe a hefyd swyddfa Gorllewin Cymru newydd yn Neuadd y Farchnad Llandeilo. Mae’r datblygiadau hyn yn cynrychioli ein hymrwymiad i wasanaethu’r gymuned addysgol yng Nghymru gyfan yn well yn ogystal ag aros yn driw i’n gwreiddiau yng ngorllewin Cymru, gan ddarparu gwell cymorth i ymgeiswyr ac ysgolion.

 

Os ydych chi’n addysgwr sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith yng Nghymru neu’n ysgol/coleg sydd angen gweithwyr proffesiynol cymwys, cysylltwch â’n tim Recriwtio heddiw.