Mae Equal Education Partners yn falch o gyhoeddi ei bod yn ehangu drwy agor dwy swyddfa newydd, wedi’u lleoli’n strategol ym Mro Tawe a Neuadd y Farchnad Llandeilo yn y drefn honno. Mae’r swyddfeydd newydd hyn yn gam sylweddol ymlaen wrth i ni barhau i wella ein presenoldeb a’n cefnogaeth i’r gymuned addysg ledled Cymru yn dilyn y newyddion diweddar am ein lle ar fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer recriwtio addysg.

Bro Tawe, Cofleidio’r Dyfodol

Gyda’r swyddfa newydd ym Mro Tawe, mae Equal Education Partners ar fin darparu rhwydwaith cymorth cryfach fyth i addysgwyr ac ysgolion yn y rhanbarth a thu hwnt. Bydd y gofod mwy a mwy hygyrch hwn yn ganolbwynt i’n portffolio cynyddol o raglenni addysg yn ogystal â darparu’r adnoddau a’r gwasanaethau gorau posibl i addysgwyr a sefydliadau addysgol.

 

Roedd Liam Rahman, Prif Swyddog Gweithredol Equal wrth ei fodd o allu cyhoeddi’r newyddion:

 

“Rydym mor falch o ddatgelu ein swyddfeydd newydd ym Mro Tawe a Neuadd y Farchnad Llandeilo. Mae’r ehangu yma yn garreg filltir arwyddocaol i Equal Education Partners wrth i ni ymdrechu i ddarparu cefnogaeth eithriadol i addysgwyr ac ysgolion ledled Cymru.

 

Gyda’r lleoliadau newydd hyn, rydym mewn sefyllfa well nag erioed i hwyluso cydweithio effeithiol a grymuso’r gymuned addysg ar gyfer dyfodol mwy disglair.”

 

 

Anrhydeddu Gwaddol a Adeiladwyd yng Ngorllewin Cymru

Fel cwmni balch o’n gwrieddiau yn y gorllewin, mae agor swyddfa yn Neuadd y Farchnad Llandeilo yn gyfle i gynnal ein cysylltiad agos â’r ardal. Roedd y cyfle i sefydlu swyddfa o fewn y datblygiad newydd hwn yn benderfyniad hawdd ac roedd Carolyn Rahman, Cyfarwyddwr Gweithredol y Grŵp yn frwdfrydig wrth agor y swyddfa:

 

“Rydym yn falch iawn o agor swyddfa yn Llandeilo, yng nghanol ein hardal enedigol a hefyd fy nhref enedigol. Mae’r swyddfa hon yn ffordd well fyth o gefnogi ein hysgolion partner yng Ngorllewin Cymru a’n staff addysg.

 

Mae’n gam ymlaen sy’n golygu llawer iawn ar lefel bersonol ac ar lefel broffesiynol, ac rydym i gyd yn gyffrous i greu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio a thwf gyda’r ardal.”

 

 

Parhau i Gefnogi Rhagoriaeth Addysgol

Daw’r cyhoeddiad hwn yn goron ar flwyddyn sydd eisoes wedi bod yn eithriadol o brysur i Equal ac mae’n uchafbwynt arall i dymor yr haf sydd eisoes wedi ein gweld yn hwyluso saith ysgol haf Seren ac yn derbyn achrediad DPP ar gyfer ein cwrs eDdysgu Cwricwlwm i Gymru.

 

Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf a thu hwnt ac edrychwn ymlaen at eich gwahodd i un o’n swyddfeydd newydd!