Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd datblygiad proffesiynol yn y cnawd ac yn rhithwir i weithwyr addysg proffesiynol.

Dysgu Proffesiynol gyda Equal
Mae Dysgu Proffesiynol yn caniatáu chi i ddringo grisiau gyrfa mewn pwnc o’ch dewis – os yw hynny’n cymryd y cam cyntaf neu’n dringo i gyrraedd y brig!
Fel addysgwyr, rydym yn brwdfrydig am ddysgu gydol oes.

Cyrsiau ar gael i ysgolion, colegau a gwasanaethau gwella ysgolion:
- Asesu & Marcio
- Ymwybyddiaeth Awtistiaeth
- Dysgu Cyfunol
- Ymddygiad Heriol
- Her & Gwahaniaethu
- Rheoli Ystafell Ddosbarth
- Datblygu Meddylwyr Beirniadol
- Dysgu Seiliedig ar Ymholi
- Cyfarwyddyd dan arweiniad dysgwr
- Trin â Llaw
- Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Addysgu
- Cwricwlwm Newydd
- Sefydlu ANG yng Nghymru
- Cyfathrebu Cadarnhaol
- Diogelu Plant mewn Addysg
- Ymestyn disgyblion mwy galluog a thalentog
- Cefnogi Ceisiadau Prifysgol
- Addysgu gyda Thrawma
Rydym hefyd yn cynnal cyrsiau bob hanner tymor yn rhad ac am ddim i’r holl staff cyflenwi sy’n gweithio gyda Equal.
I ddarganfod mwy am weithio gyda Equal fel athro cyflenwi neu gynorthwyydd cymorth addysgu, cliciwch yma.
I gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau, costau ac i archebu DPP a hyfforddiant HMS ar gyfer eich ysgol, awdurdod lleol neu gonsortiwm rhanbarthol, ffoniwch ni ar 02920 697129 neu 01554 777749 neu anfonwch e-bost atom.
Rwy'n athrawes gyflenwi ac wedi bod yn gweithio gyda Equal ers fis Tachwedd 2020. Mae holl staff y cwmni yn broffesiynnol a chyfeillgar iawn ac wastad yn hapus am sgwrs. Mae nhw'n gwmni da sydd yn ymdrechu yn galed i ddod o hyd i waith rheolaidd ac yn parchu'r ffaith fod gen i gyfyngiadau weithiau gydag ymrwymiadau teuluol. Byddwn yn bendant yn argymell fod unrhyw un sy'n chwilio am waith cyflenwi yn ymuno gyda Equal.
Catrin
Athrawes Cyflenwi
Wnes i ymuno gyda Equal yn fis Ebrill pan gyfeiriodd ffrind fi at y cwmni. Roedd y broses o ymuno gyda’r cwmni yn ardderchog - mae’r holl dîm yn wych ac yn gyfeillgar iawn. Roedd y proses i ymuno ag Equal yn hawdd oherwydd roedd y tîm mor awyddus i helpu gyda phob dim. Ers i fi wedi dechrau gweithio ar gyfer Equal rydw i wedi llwyddo i gael gwaith cyson iawn, rydw i heb fod allan o waith o gwbl eto sydd yn ddelfrydol! Rydw i barod wedi cyfeirio ffrind i ymuno ag Equal, ac byddai’n parhau i argymell Equal i eraill oherwydd mae fy mhrofiad i wedi bod mor llwyddianus!
Abigail
Cynorthwyydd Addysgu
Newyddion Diweddaraf
Edrychwch ar rai o'n newyddion diweddaraf isod!