Ymunwch â ni ddydd Iau, 27 Mehefin 2024 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Heol Dumballs, Caerdydd ar gyfer:

Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr: Meistroli Ysgrifennu Academaidd mewn Addysg Bellach

Cefndir

Mewn cydweithrediad â Choleg Sir Benfro, sicrhaodd Equal Education Partners arian gan Taith i anfon dirprwyaeth o gydweithwyr Addysg Bellach o bob rhan o Gymru ar ymweliad cydweithredol i Brifysgol Florida i ddatblygu cyfres o adnoddau a gweithdai yn ymwneud ag ysgrifennu academaidd ac ymchwil. Pwrpas y prosiect hwn yw gwella canlyniadau dysgwyr ar lefel AB trwy weithio i ddatblygu sgiliau dysgwyr ymhellach o gwmpas ysgrifennu academaidd ac ymchwil.

 

Mae’r gweithdy datblygiad proffesiynol hwn yn agored i gynrychiolwyr o golegau addysg bellach ledled Cymru.

 

Cofrestru digwyddiad

Ydych chi’n ddarparwr Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru neu’n ddarparwr Cymhwyster Prosiect Estynedig?

Ydych chi am ymgorffori ysgrifennu academaidd yn eich rhaglen alwedigaethol?

Ydych chi’n ymarferydd sydd am uwchsgilio yn eich darpariaeth academaidd eich hun?

 

Cofrestrwch i ymuno â ni ar gyfer ein gweithdy datblygiad proffesiynol Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr: Meistroli Ysgrifennu Academaidd mewn Addysg Bellach ddydd Iau 27 Mehefin 2024 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

 

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, cliciwch yma.

 

Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i 3 cynrychiolydd ym mhob coleg ar sail y cyntaf i’r felin, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl. Mae cofrestriadau’n cau ddydd Gwener 14 Mehefin 2024.

 

Amlinelliad o’r diwrnod

9:30yb Cyrraedd

10yb Croeso a chyflwyniad

10:30yb Ysgrifennu ar draws y disgyblaethau

11:30yb Ar y llwybr ysgrifennu: Ymchwil a methodoleg

12:30yp Cinio

13:15yp Darllen academaidd: Sgimio, sganio, syntheseiddio

14:15yp Perffeithio adolygiad cymheiriaid

15:15yp Casgliad, cwestiynau ac adborth

 

Mae’r gweithdai ar y diwrnod wedi’u cynllunio ar gyfer ymarferwyr, a gellir eu haddasu ar gyfer pob disgyblaeth, cymhwyster a lefel.

 

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Rebecca Booker (Uwch Gydymaith Partneriaethau Rhyngwladol, Equal Education Partners):