Un o’r asiantaethau gorau yn Ne Cymru. Mae Equal yn asiantaeth sy’n ymfalchïo ac yn gofalu am ei staff. Mae’r staff wedi helpu’n aruthrol gyda fy mlwyddyn sefydlu ANG trwy ddarparu help a chyngor a chyrsiau datblygiad proffesiynol. Trwy gydol y pandemig, ni allwn ddiolch digon i’r cwmni am ei gefnogaeth. Y peth rwy’n ddiolchgar iawn amdano yw y byddwn i’n cael galwad ffôn bob wythnos – nid o reidrwydd am unrhyw ddiweddariadau – ond sgwrs i sicrhau fy mod i’n iawn. Rwyf wedi argymell Equal i ffrindiau sy’n athrawon cymwys yn ogystal â’r rhai sydd eisiau newid gyrfa gan fy mod yn credu mai hwn yw’r cwmni i ddechrau’r siwrnai honno.
Ffion Athrawes Newydd Gymhwysoe-Ddysgu a thechnoleg addysg yn Equal Talent Partners
Os ydych chi’n rheolwr prosiect, yn arbenigwr pwnc, yn ddylunydd addysgol neu’n ddatblygwr, bydd ein tîm e-Ddysgu a thechnoleg addysg wrth eu bodd i glywed gennych.

Rydym yn recriwtio’r doniau e-Ddysgu a thechnoleg addysg canlynol:
- Awduron cyrsiau
Datblygwyr - Dylunwyr Cyfarwyddiadol
- Dylunwyr Addysgu
- Rheolwyr Prosiect
- Arbenigwyr pwnc (gan gynnwys ymarferwyr addysgu)
Gweler ein swyddi gwag cyfredol yma.
Cysylltwch â aelod o’n tîm yma.
Ymunwch â’n cronfa talent yma.

Mae cleientiaid e-Ddysgu a thechnoleg addysg yn cynnwys:
- Cwmnïau technoleg addysg
- Llywodraethau (gweinidogaethau addysg)
- Prifysgolion
- Gwasanaethau gwella ysgolion
- Byrddau arholi
- Ysgolion cynradd, uwchradd, ADY ac Annibynnol
- Colegau Addysg Bellach (AB)
- Academïau ac Ymddiriedolaethau Aml-Academi
Os ydych chi’n chwilio am dalent e-Ddysgu neu technoleg addysg, dywedwch wrthym am eich rôl(au) yma.
Rwy’n athrawes gyflenwi ac wedi bod yn gweithio gyda Equal ers fis Tachwedd 2020. Mae holl staff y cwmni yn broffesiynnol a chyfeillgar iawn ac wastad yn hapus am sgwrs. Mae nhw’n gwmni da sydd yn ymdrechu yn galed i ddod o hyd i waith rheolaidd ac yn parchu’r ffaith fod gen i gyfyngiadau weithiau gydag ymrwymiadau teuluol. Byddwn yn bendant yn argymell fod unrhyw un sy’n chwilio am waith cyflenwi yn ymuno gyda Equal.
Catrin Athrawes Cyflenwi