Mae’r blog hwn yn trafod gwahanol enghreifftiau o ddatblygiad proffesiynol a sut y gall cyrsiau ein Hacademi Equal sydd ar gael yn rhad ac am ddim helpu gyda’ch datblygiad proffesiynol.

Beth yw Datblygiad Proffesiynol? 

Datblygiad proffesiynol yw’r addysg barhaus a’r hyfforddiant gyrfa y mae unigolyn yn eu dilyn er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am sgiliau a thueddiadau newydd a’u galluogi i ddatblygu eu gyrfa ymhellach. 

Gall datblygiad proffesiynol ddigwydd ym mhob sector a maes gwaith; yn yr achos hwn, byddwn yn trafod datblygiad proffesiynol yn y sector addysg. Ar gyfer addysgwyr, mae datblygiad proffesiynol yn hynod bwysig i’ch galluogi i ddod yn addysgwyr gwell a fydd yn arwain at ddarparu profiad dysgu gwell i’r myfyrwyr rydych chi’n eu haddysgu. 

A group of women sat together at a conference

Enghreifftiau o Ddatblygiad Proffesiynol 

Gall datblygiad proffesiynol fod ar ffurf llawer o weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol. 

Mae cyfleoedd datblygiad proffesiynol ffurfiol yn cynnwys: 

  • Cynadleddau 
  • e-ddysgu 
  • Rhaglenni hyfforddi 
  • Gweithdai 
  • Cyrsiau ar-lein

Gallwch hefyd fanteisio ar gyfleoedd datblygiad proffesiynol anffurfiol a all gynnwys: 

  • Eistedd mewn dosbarth cydweithiwr 
  • Derbyn adborth gan gydweithwyr 
  • Hyfforddi a mentora 
  • Gwerthusiadau perfformiad 
  • Trafod dulliau addysgu newydd a diweddariadau i ganllawiau 

I ddarllen mwy am ddatblygiad proffesiynol darllenwch ein blog Manteision Datblygiad Proffesiynol. 

A woman presenting in front of colleagues on a projected screen

Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol gydag Academi Equal 

Yn Equal Education Partners rydym yn angerddol dros addysg gydol oes a chyfleoedd dysgu. Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddi byw wyneb yn wyneb ac ar-lein, cymorth mentora a hyfforddi, a chynnwys wedi’i deilwra sydd ar gael bob amser o’n hacademi ar-lein. 

A man reading at a table in a library

Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Athrawon 

Mae ein Hacademi Equal ar-lein yn cynnig ystod o gyrsiau sydd ar gael bob amser ac sy’n rhad ac am ddim. Mae’r cyrsiau hyn yn cwmpasu sawl pwnc gwahanol ar gyfer pob math o addysgwyr gan gynnwys Athrawon Newydd Gymhwyso, Cynorthwywyr Addysgu, Tiwtoriaid a gweithwyr addysgu proffesiynol amser llawn. 

Sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso 

Cynigir y cwrs rhad ac am ddim hwn i bob athro newydd gymhwyso (NQT) i’w helpu i ddeall popeth a ddisgwylir ganddynt yn eu blwyddyn gyntaf o addysgu. Mae’r cwrs yn cwmpasu popeth, o broffiliau sefydlu a phwyntiau gweithredu i restrau gwirio a dogfennau defnyddiol. 

Ymarfer Myfyriol 

Yn y cwrs hwn, rydym yn ymdrin â nifer o awgrymiadau ymarferol i addysgwyr fel y gallant ddod fyfyrio mwy o ran eu harferion addysgu. Rydym hefyd yn trafod sut y gall addysgwyr greu cyfrif myEWC a’r ffyrdd gorau o gael mynediad at eu Pasbort Dysgu Proffesiynol (PLP).

Close up of a woman taking notes with other people around her at a table at a professional learning event

Cwricwlwm Newydd i Gymru 

O 1 Medi 2022, cyflwynodd Cymru gwricwlwm newydd a fydd yn disodli cyfnodau allweddol gydag un continwwm dysgu ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc rhwng 3 ac 16 oed. Mae ein cwrs yn rhannu’r cwricwlwm newydd yn ddarnau bach, hawdd eu deall ar gyfer pob addysgwr. 

Sefydlu Tiwtoriaid – Cwrs Byr neu Hir 

Yn Equal Education Partners rydym hefyd yn recriwtio tiwtoriaid rhan-amser i weithio mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru a Lloegr. Mae gennym ddau gwrs ar gael i diwtoriaid, mae un yn gyflwyniad i diwtora gydag Equal i diwtoriaid newydd a’r llall yn gwrs gloywi ar gyfer tiwtoriaid sydd wedi gweithio gyda ni o’r blaen. 

Diogelu 

Mae gan bob addysgwr gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i ddiogelu’r plant, y bobl ifanc a’r oedolion yn eu gofal rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Yn ein cwrs diogelu byddwch yn dysgu am wahanol fathau o gamdriniaeth, adrodd am bryder, a sut orau i drin datgeliadau gan ddysgwyr. 

Darllenwch fwy am ddiogelu yn ein blog YMA

Sticky notes on a table - part of a task during a professional learning course

Darparu Hyfforddiant Ar-lein Effeithiol 

Ydych chi’n wynebu anawsterau wrth geisio cysylltu â myfyrwyr ar-lein? Os felly bydd ein cwrs yn eich galluogi i ddarparu hyfforddiant ar-lein effeithiol. Mae’r cwrs yn ymdrin â pharatoi ar gyfer cyflwyno ar-lein yn ogystal â rheoli’r dechnoleg rydych chi’n ei defnyddio’n gywir. 

Defnyddio Technegau Holi Effeithiol i Hyrwyddo Cynnydd Da 

Sicrhewch eich bod yn gofyn y cwestiynau cywir yn eich ystafell ddosbarth. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall sut i ddefnyddio technegau holi effeithiol i hybu cynnydd da yn eich ystafell ddosbarth. Byddwn hefyd yn darparu strategaethau defnyddiol i chi i gael y gorau o’ch dysgwyr. 

Diwygio’r ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru 

Mae’r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o’r gwaith o ddiwygio deddfwriaeth newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN) yng Nghymru. Yn y cwrs, rydym hefyd yn cyfeirio at adnoddau a hyfforddiant pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu. 

Mae ein holl gyrsiau datblygiad proffesiynol ar gael AM DDIM i holl staff Equal Eduation Partners. Cofrestrwch nawr ar gyfer Academi Equal a dechreuwch ddilyn cyrsiau i hybu eich datblygiad proffesiynol!