Fel darlithydd AB yng Nghymru, byddwch yn deall pwysigrwydd datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd cryf yn eich myfyrwyr ar draws yr holl bynciau. Yn dilyn ein cydweithrediad tîm Partneriaethau diweddaraf, a ariannwyd gan Taith, rydym yn gyffrous i gyflwyno Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr, hwb adnoddau wedi’i gynllunio i gyfoethogi eich dulliau addysgu a gwella canlyniadau dysgwyr.


Nodau ac amcanion Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr

Mae’r fenter hon yn darparu offer a mewnwelediadau gwerthfawr i’ch helpu i arwain eich myfyrwyr tuag at lwyddiant yn eu gwaith ysgrifennu academaidd a gwaith ymchwil, gwella perfformiad yn eu cymwysterau Bagloriaeth Cymru a phrosiect estynedig i baratoi dysgwyr yn well ar gyfer Addysg Uwch, datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a chefnogi dysgu annibynnol.

 

Ymweliad symudedd â Phrifysgol Fflorida

Trwy gydweithio ag arbenigwr blaenllaw yn Rhaglen Ysgrifennu Prifysgol Fflorida (UF), Dr Matthew Jones, treuliodd y ddirprwyaeth gyfanswm o 5 diwrnod ar ymweliad symudedd ag UF.

Ar yr ymweliad cydweithredol, gweithiodd y ddirprwyaeth o Gymru gyda Dr Matthew Jones a’i gydweithwyr yn Rhaglen Ysgrifennu UF i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Trafodaethau datrys problemau ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu dysgwyr Cymraeg o ran ysgrifennu academaidd;
  • Dealltwriaeth gyd-destunol o waith Rhaglen Ysgrifennu’r Brifysgol;
  • Technegau, dulliau a strwythurau arfer gorau ar gyfer gwella ysgrifennu academaidd ymhlith dysgwyr;
  • Datblygiad adnoddau; a
  • Cynllunio gweithdai

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Rhaglen Ysgrifennu UF 

 

Ar ôl i’r ddirprwyaeth ddychwelyd, hwylusodd Equal weithdy undydd i rannu’r syniadau a’r hyn a ddysgwyd gyda’r gymuned addysgu ehangach.

Cawsom adborth anhygoel o’r gweithdy am ei fewnwelediadau ymarferol, gweithgareddau ymarferol, ac awyrgylch cydweithredol. Rhannwyd strategaethau effeithiol, a dangosodd y cynrychiolwyr sut i integreiddio’r adnoddau newydd i wahanol gwricwla. Gadawodd y cyfranogwyr y gweithdy wedi’u harfogi â thechnegau ymarferol i wella eu haddysgu ysgrifennu academaidd, gan wneud y gweithdy yn llwyddiant ysgubol!

 

Effaith barhaol

Gadawodd yr ymweliad symudedd effaith barhaol ar y ddirprwyaeth. Gan fyfyrio ar ei brofiad, dywedodd Andrew Bond o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr:

“Roedd yn ysbrydoledig. Mae’r ymweliad wedi fy nghyffroi a’r ffordd yr wyf wedi gweld ysgrifennu academaidd ac ymchwil. Mae’r daith wedi dangos rhywfaint o’r potensial i mi o ran addysgu a dysgu. Cawsom fynediad llawn i staff a myfyrwyr. Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu ymgolli’n llwyr yn y rhaglen am yr wythnos i ddeall y cyd-destun, y cynnwys a’r strwythurau.”

 

Tynnodd Emma Williams o Goleg Caerdydd a’r Fro sylw at ei phrofiad o arsylwi gwersi trwy gydol yr ymweliad symudedd:

“Ehangodd fy nealltwriaeth o sut y gallai rhaglen cymorth ysgrifennu ganolog fod o gymorth ar lefel drawsgwricwlaidd, ochr yn ochr ag addysgu prif gymwysterau.”

 

Ychwanegodd Michelle Griffiths o Goleg Sir Benfro:

“Mae gallu gweld yr haenau i’r rhaglen a’r prosesau meddwl y tu ôl iddi wedi atgyfnerthu’r angen i gynllunio’r cwricwlwm yn feddylgar. Fel ymarferwr sydd erioed wedi mentro y tu allan i Gymru ar gyfer DPP, fe wnaeth hyn fy adfywio fel gweithiwr proffesiynol.”

 

Ymunwch â chymuned Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr

Nawr, mae’r profiadau a’r mewnwelediadau hyn ar flaenau eich bysedd trwy Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr. Mae’r platfform yn cynnig cyfoeth o adnoddau a ddatblygwyd o’r cydweithrediad llwyddiannus hwn.

P’un a ydych chi’n chwilio am gynlluniau gwersi, canllawiau ac awgrymiadau adolygu cymheiriaid a llawer mwy Ysgrifennwch Yma, Ysgrifennwch Nawr yw eich canolbwynt!

Ydych chi wedi defnyddio’r adnoddau gyda’ch myfyrwyr i gyflawni canlyniadau gwych? Rhannwch hwn gyda ni! Gallwch naill ai anfon e-bost at y tîm neu ein tagio mewn post ar y cyfryngau cymdeithasol – rydym wrth ein bodd â’r adborth!

 

Beth yw Taith

Taith yw prif fenter cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru, gan feithrin cyfleoedd trawsnewidiol i unigolion gymryd rhan mewn dysgu, astudio a gwirfoddoli ar draws y byd.

 

Edrych ymlaen

Yn dilyn profiad hynod lwyddiannus i bawb a gymerodd ran trwy’r prosiect Taith Llwybr 2 hwn, mae Equal Education Partners yn edrych ymlaen at weithio gyda Taith eto i gysylltu dysgwyr ac addysgwyr yng Nghymru â sefydliadau ac arbenigwyr blaenllaw ar draws y byd.

 

Ydych chi am fod y cyntaf i wybod am ein prosiectau yn y dyfodol? Cysylltwch â’r tîm heddiw