Mae cefnogi myfyrwyr LHDTC+ mewn ysgolion yn agwedd hollbwysig ar greu amgylchedd dysgu cynhwysol a diogel. Fel addysgwyr, mae gennych gyfle unigryw i feithrin derbyniad, dealltwriaeth a pharch yn eich ystafelloedd dosbarth.
Bydd ein blog yn darparu awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu chi i greu gofod diogel ar gyfer myfyrwyr LHDTC+. P’un a ydych am wneud eich cynnwys addysgu yn fwy cynhwysol, darparu awyrgylch croesawgar yn yr ystafell ddosbarth, neu fynd i’r afael â heriau penodol, rydym yma i’ch arwain gyda chyngor a strategaethau i’w datblygu.
Addysgwch eich hun a’r rhai o’ch cwmpas
Er mwyn deall yn iawn y problemau y mae myfyrwyr LHDTC+ yn eu hwynebu yn yr ysgol, bydd angen i addysgwyr ddysgu am hunaniaethau, profiadau a heriau LHDTC+ yn y byd heddiw.
Grym yw gwybodaeth, ac mae derbyn yr angen i chwilio am adnoddau yn fan cychwyn gwych. Dewch o hyd i gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol yn eich dealltwriaeth o heriau LHDTC+, fel mynychu gweithdai neu fuddsoddi rhywfaint o ddyraniad hyfforddiant mewn adnoddau ar-lein. Mae ein Prif Swyddog Gweithredol, Liam Rahman, yn argymell canllaw Stonewall ar gefnogi plant a phobl ifanc LHDTC+.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod ein tueddiadau ein hunain a mynd i’r afael â nhw. Byddwch yn ymwybodol o sut rydych chi’n rhyngweithio â’ch myfyrwyr LHDTC+ a byddwch yn agored i ddysgu sut i addasu.
Ewch i’r afael â bwlio a gwahaniaethu yn yr ysgol
Ewch i’r afael â sylwadau ac ymddygiad gwahaniaethol tuag at gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd. Bydd hyn nid yn unig yn dangos y polisi dim goddefgarwch a gymerir gan yr ysgol, ond bydd yn rhoi sicrwydd i’ch myfyrwyr LHDTC+ eu bod yn cael eu cydnabod gan staff a chyfoedion.
Adolygwch bolisïau gwrth-fwlio eich ysgol a sicrhewch fod disgwyliadau clir yn cael eu gosod ar gyfer y ffordd y caiff y gymuned LHDTC+ ei thrin. Gall athrawon gefnogi myfyrwyr LHDTC+ yn yr ysgol trwy sicrhau bod y polisïau hyn yn cael eu gweithredu.
Defnyddiwch iaith a chynnwys cynhwysol
Bydd ymgorffori iaith gynhwysol LHDTC+ yn eich addysgu yn annog ymdeimlad o berthyn ymhlith myfyrwyr LHDTC+. Mae rhai ffyrdd y gallech chi wneud hyn wedi’u rhestru isod.
Themâu a chymeriadau LHDTC+ – gwnewch yn siŵr bod y gymuned LHDTC+ yn cael ei chynrychioli yn y llenyddiaeth a’r adnoddau rydych chi’n eu darparu i fyfyrwyr. Bydd cael themâu a chymeriadau gweladwy yn grymuso myfyrwyr LHDTC+ i deimlo eu bod yn cael eu gweld a gwybod bod eu profiadau’n cael eu rhannu. Mae pecyn hyfforddi ac addysgu LHDTC+ ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ar gael drwy The Proud Trust.
Cynhwysiant mewn ACRh – mae’r angen i gynnwys profiadau LHDTC+ mewn ACRh fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru yn hollbwysig. Mae trafod hyn yn agored o fewn addysg rhyw a pherthynas y myfyrwyr yn ffordd hollbwysig o hybu dealltwriaeth a pharch at ei gilydd.
Darparwch fynediad i adnoddau a rhwydweithiau
Gall cefnogi myfyrwyr LHDTC+ fynd ymhellach na’r ystafell ddosbarth. Mae sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o leoedd y gallant fynd i siarad y tu allan i’r ysgol neu deulu a ffrindiau i helpu i ofalu am les eich dysgwyr.
Rydym wedi rhestru rhai enghreifftiau o adnoddau a rhwydweithiau y gallwch eu rhoi i’ch myfyrwyr LHDTC+.
Llinellau cymorth LHDTC+: Mae llinell gymorth genedlaethol Switchboard yn cael ei gweithredu gan wirfoddolwyr LHDTC+ ac yn darparu lle diogel i unrhyw un drafod sut maen nhw’n teimlo, gan gynnwys rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd, iechyd rhywiol, a lles emosiynol. Maent yn darparu sgyrsiau ar-lein a llinell ffôn yn dibynnu ar yr hyn sy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus i’r unigolyn.
Mae Academi Equal hefyd yn darparu cwrs manwl i athrawon ar ddiogelu myfyrwyr yn yr ysgol.
Cyngor a chefnogaeth ar gyfer teulu a ffrindiau: Sicrhewch fod adnoddau fel FFLAG ar gael i rieni a gwarcheidwaid i’w cefnogi i annog ymdeimlad o berthyn a diogelwch. Gallant chwarae rhan hanfodol wrth greu mannau diogel ar gyfer eu hanwyliaid. Gall gweithredoedd fel defnyddio rhagenwau cywir, gwrando heb farn, ac addysgu eu hunain yn weithredol am faterion LHDTC+ gael effaith sylweddol.
Mae cefnogi myfyrwyr LHDTC+ mewn ysgolion yn ymdrech barhaus sy’n gofyn am empathi, dealltwriaeth a mesurau rhagweithiol. Trwy roi iaith gynhwysol ar waith, ymgorffori cynnwys amrywiol yn eich cwricwlwm, a meithrin amgylchedd ystafell ddosbarth agored a derbyniol, gallwch wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau eich myfyrwyr.
Mae pob cam bach a gymerwch tuag at gynhwysiant yn helpu i greu gofod mwy diogel a mwy croesawgar i bob myfyriwr. Gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu, a’i rymuso i fod yn nhw eu hunain.
Yn Equal Education Partners, rydym yn cydnabod pwysigrwydd modelau rôl LHDTC+ i bobl ifanc. Rydym wedi ymrwymo i alluogi ysgolion i wella cynhwysiant yn eu hystafelloedd dosbarth a’u hystafell athrawon trwy gefnogi aelodau staff LHDTC+ i gael mynediad i’r proffesiwn addysg a ffynnu ynddo. Edrychwch ar ein swyddi sydd ar gael ac ymunwch â thîm Equal heddiw.
Mis Balchder Hapus!