O’r 1af o Fedi 2022, cyflwynodd Cymru gwricwlwm newydd fydd yn cymryd lle cyfnodau a chyfnodau allweddol gydag un cyfnod dysgu parhaus ar gyfer yr holl plant a phobl ifanc rhwng oedrannau 3 ac 16. 

Yn y blog hwn byddwn yn ystyried cyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru yn ogystal â’r amserlen ddisgwyliedig gan Llywodraeth Cymru.

A girl with a raised arm in a classroom to ask a question

Cyflwyniad

Pwrpas canllaw y Cwricwlwm i Gymru yw i helpu ysgolion ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain ac i alluogi eu dysgwyr i ddatblygu tuag at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm: 

  1. Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  2. Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  3. Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  4. Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Yn ogystal ag ysgolion, mae’r canllaw hefyd yn berthnasol i: 

  • Lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
  • Unedau cyfeirio disgyblion (UCD)
  • Y sawl sy’n gyfrifol am ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (AHY/EOTAS) mewn lleoliadau eraill, gan eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o’r Fframwaith Cwricwlwm yng Nghymru  

Mae’r canllaw yn amlinellu’r canlynol:

  • Yr anghenion ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 ac 16, i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn ymgymryd â’r un dysgu craidd gydag ymagwedd gyson ar gyfer pob dysgwr
  • Canllawiau i ysgolion ar sut i ddatblygu eu cwricwlwm
  • Disgwyliadau ynghylch trefniadau asesu i gefnogi cynnydd dysgwyr

electronics in the classroom - a close up of a circuit board

Gweledigaeth ar gyfer cwricwlwm pob ysgol

Mae Hwb yn nodi maigwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol” a “Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol.” 

Mae’r canllaw yn ddatganiad clir o beth sy’n bwysig pan yn darparu addysg eang a chytbwys. Mae’r pedwar diben a sonnir amdanynt uchod yn dynodi’r weledigaeth gyfan ar gyfer pob plentyn a phobl ifanc. Mae’r rhain yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer pob aelod o’r gymdeithas ac mae Hwb yn gobeithio y bydd y pedwar diben yn helpu i: 

  • Hyrwyddo lles unigol a chenedlaethol
  • Daclo anwybodaeth a chamwybodaeth
  • Annog ymgysylltu beirniadol a dinesig. 

Dylai bod datblygiad y cwricwlwm wrth galon pob ymdrech i wella safonau pob un a chyfrannu i nodau’r genedl fel nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

A child writing on a workbook at her desk

Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru

Mae canllaw y Cwricwlwm i Gymru’n ffurfio rhan o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith) sy’n cynnwys gofynion y cwricwlwm fel a nodir yn y ddeddfwriaeth ac ystod eang o ganllawiau cefnogol.

Pwrpas y canllaw yw i helpu ysgolion ddylunio eu cwricwlwm eu hunain, mae’n cynnig gwybodaeth i ysgolion ar y pynciau canlynol: 

  • Gofynion cyfreithiol
  • Gwybodaeth ar sut i ddatblygu cwricwlwm ysgol
  • Eglurhad o ddibenion ac egwyddorion asesu

A woman picking out a book in a library

Dull integredig o ddysgu ac addysgu

Anelir y Fframwaith at ymarferwyr er mwyn iddynt ddatblygu dull mwy integredig o ddysgu. Mae chwe Maes Dysgu a Phrofiad: 

  1. Y Celfyddydau mynegiannol
  2. Iechyd a lles
  3. Y Dyniaethau
  4. Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  5. Mathemateg a rhifedd
  6. Gwyddoniaeth a thechnoleg

Diben y chwe maes yw i ddod â disgyblaethau cyfarwydd ynghyd ac annog cysylltiadau ystyrlon rhyngddynt, gan helpu i annog cydweithio a chynllunio, dysgu ac addysgu trawsddysgyblaethol. 

Yn ddelfrydol, bydd y dysgu trawsddisgyblaethol hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth ddyfnach a dealltwriaeth mwy soffistigedig wrth iddynt ddysgu, gan arwain at werthfawrogiad o sut mae eu dysgu’n cyfrannu i’w bywydau. Dylai athrawon gefnogi cynnydd dysgwyr drwy amrywiaeth o asesiadau i ddeall ble mae’r dysgwr yn sefyll yn well, a beth sydd rhaid iddynt ei wneud nesaf. 

Two women working on a laptop together in a classroom

Dylunio Cwricwlwm Ysgol

Un o brif nodweddion y Fframwaith yw’r gofyn i ysgolion ddylunio eu cwricwlwm eu hunain a gwneud trefniadau asesu. Mae hyn yn seiliedig ar y dealltwriaeth bod: 

  • Dysgu ac addysgu o safon uchel yn cael eu galluogi drwy arweiniaeth 
  • Ysgolion ac ymarferwyr yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau am anghenion eu dysgwyr gan gynnwys y pynciau a’r gweithgareddau all gefnogi eu dysgu orau
  • Ystyr dysgu yn eithriadol o bwysig ac mae amrediad eang o bynciau, gweithgareddau dysgu a ffyrdd o gaffael gwybodaeth yn werthfawr i addysg dysgwyr 
  • Gwir angen arloesi a chreadigrwydd yn ystod y broses o ddysgu
  • Angen trwydded ar ymarferwyr i gyfuno dysgu ystyrlon o’r chwe maes, a’r syniadau a disgyblaethau gwahanol. 

Felly, nid yw’r Fframwaith yn pennu rhestr lawn o bynciau neu weithgareddau penodol, ond mae’n gosod y sylfeini ar gyfer hanfod dysgu. Gan gyfeirio at y canllawiau a’r adnoddau a ddarperir, mae’n rhaid i ysgolion benderfynu pa brofiadau penodol, gwybodaeth a sgiliau fydd yn cefnogi eu dysgu. 

Mae hefyd yn bwysig i nodi bod rhan o Fframwaith y Cwricwlwm yng Nghymru yn cynnwys Datganiadau O’r Hyn Sy’n Bwysig ar gyfer pob un o’r chwe maes o ddysgu a phrofiad. Gellir darllen mwy yng Nghod Datganiadau O’r Hyn Sy’n Bwysig y Cwricwlwm yng Nghymru, sydd yn amlinellu 27 o ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad sydd yn cynnig sylfaen i gwricwlwm pob ysgol.

A young female student writing next to an ipad

Amserlen

Mae’n bwysig nodi bod Pandemig Covid-19 2020 a’r cyfnodau clo wedi newid amserlen wreiddiol cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Rydym bellach yn gweithio yn ôl yr amserlen hon. 

2021-2022: paratoi a chwmpasu

  • Ymgysylltu gydag ystod eang o ysgolion i ddeall lefelau gwahanol o barodrwydd
  • Diweddaru amcangyfrifon cost, datblygu a thargedu canllawiau hanfodol a hyrwyddo ymgysylltiad eang gydag ysgolion
  • Adeiladu ar wersi o bandemig Covid-19 a chau ysgolion

2022-2026: Tymor byr i ganolig

  • 1af Medi – y cwricwlwm newydd yn dechrau gyda phob ysgol yng Nghymru yn gorfod cyflwyno eu cwricwlwm i ddysgwyr hyd at ac yn cynnwys blwyddyn 7
  • Ysgolion uwchradd yn cyflwyno eu cwricwlwm flwyddyn-wrth-flwyddyn gyda blwyddyn 8 yn 2023 a blwyddyn 11 yn 2026
  • Cyhoeddiadau ‘Cyflwr y Genedl’ yn amlygu’r llwyddiannau hyd hyn ac adrodd ar gynnydd cyffredinol yn ogystal â heriau a chyfleoedd ar gyfer gwella
  • 2025/2026 y criw cyntaf o ddysgwyr yn cwblhau blwyddyn 9
  • Ystyried a myfyrio ar flynyddoedd cyntaf y cwricwlwm newydd
  • Ystyried i ba raddau mae’r dysgwyr yn ymgorffori’r pedwar diben

2026 ymlaen: tymor canolig i hir 

  • 2026 rhannu gwersi o’r cyfnod cyntaf o’r weithrediad
  • Effeithiau’n dod i’r amlwg ar lefel genedlaethol
  • Ysgolion uwchradd yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd
  • 2027/2028 dysgwyr cyntaf yn cwblhau blwyddyn 11, adolygu eu profiadau