Mae llawer o gyfleoedd cyflogaeth o fewn y sector addysg. P’un a ydych yn athro newydd gymhwyso, yn awyddus i roi hwb i’ch gyrfa neu’n athro profiadol, efallai mai bod yn athro cyflenwi yw’r llwybr gyrfa perffaith i chi. Mae’r blog hwn yn ymdrin â rhai o fanteision dewis bod yn athro cyflenwi yng Nghymru.

Beth a olygir wrth Athro Cyflenwi? 

Mae athrawon cyflenwi yn hynod o bwysig gan eu bod yn caniatáu i ddysgwyr barhau i ddysgu tra bo staff amser llawn yn absennol. Mae athrawon cyflenwi yn camu i rôl yr athro arferol, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i ddysgu, i wneud cynnydd a’u bod yn datblygu eu sgiliau er gwaethaf absenoldebau staff. 

Mae athrawon cyflenwi yn gymysgedd amrywiol, o athrawon newydd gymhwyso a gweithwyr addysgu proffesiynol profiadol, sy’n gweithio’n llawn amser, neu’n rhan-amser, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymddeol yn rhannol ond sy’n parhau i rannu eu sgiliau a’u gwybodaeth. 

Mae gwaith cyflenwi yn eich cadw ar flaenau eich traed, oherwydd efallai y byddwch mewn ysgol wahanol bob dydd, yn addysgu ystod eang o bynciau, i grwpiau blwyddyn gwahanol. Mae hyn yn golygu bod athrawon cyflenwi yn hynod fedrus a hyblyg, yn gorfod addasu i newid, ac yn gallu meithrin

cydberthynas â myfyrwyr yn gyflym. Mae athrawon cyflenwi yn sicrhau parhad o ran cyflwyno gwersi lefel uchel i addysgu ac ysbrydoli dysgwyr a’u cadw ar eu llwybr dysgu. 

A teacher holding books standing in front of her whiteboard in a classroom

Addysgu yng Nghymru 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y gweithlu o athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o fywyd ysgolion, a bod athrawon cyflenwi yn rhan allweddol o’r gweithlu addysg. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod athrawon cyflenwi yn athrawon o’r radd flaenaf, a hynny er mwyn sicrhau bod safonau addysg yn 

cael eu cynnal o fewn ysgolion. O’r herwydd mae’n hanfodol sicrhau bod gan athrawon cyflenwi fynediad at yr un cyfleoedd datblygu proffesiynol ag athrawon arferol. 

Mae gwahanol ganllawiau a chymorth ar gael ar gyfer athrawon cyflenwi ar Hwb, gan gynnwys gwybodaeth am ddatblygiad proffesiynol, cyflogi athrawon cyflenwi, eich hawliau fel gweithiwr asiangaeth, eich cyfrif Hwb ar gyfer Athrawon Cyflenwi, diogelu a hefyd lawer o adnoddau eraill gwerthfawr a fydd yn diwallu eich anghenion ac yn eich cynorthwyo i barhau i ddatblygu. 

A teacher helping a student with a project

Manteision bod yn Athro Cyflenwi 

Mae nifer o fanteision ynghlwm wrth fod yn athro cyflenwi, gan gynnwys:

Hyblygrwydd 

Mae gwaith cyflenwi yn cynnig hyblygrwydd i athrawon. Mae athro cyflenwi yn elwa ar y gallu i weithio naill ai’n amser llawn neu’n rhan-amser. Mae gwaith cyflenwi yn darparu’r opsiwn i weithio tra’n ymgymryd â’ch ymrwymiadau eraill, fel cyfrifoldebau teuluol, mathau eraill o waith, astudiaethau, neu eich hobïau a’ch prosiectau angerdd. 

A female teacher standing in front of her class teaching

Amrywiaeth 

Yr hyn sy’n wahanol rhwng athrawon cyflenwi ac athrawon arferol yw’r amrywiaeth y gall athrawon cyflenwi ei chynnig. Gall pob diwrnod fel athro cyflenwi fod yn wahanol, o wahanol ysgolion i wahanol bynciau a grwpiau blwyddyn. Mae’r amrywiaeth hon yn galluogi gweithwyr addysgu proffesiynol i brofi gwahanol leoliadau, trefniadau rheoli ac arddulliau addysgu. 

Datblygiad proffesiynol

Yn ogystal â’r amrywiaeth sydd ynghlwm wrth weithio mewn gwahanol leoliadau a chyda gwahanol staff a disgyblion, mae gwaith cyflenwi hefyd yn creu cyfleoedd gwych i weithwyr addysgu proffesiynol wella eu datblygiad proffesiynol ymhellach. 

Mae gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau addysg yn rhoi cyfle i rannu a datblygu arfer dda. Yn ddi-os, byddwch yn cyflwyno ac yn rhannu sgiliau, dulliau a thechnegau newydd i’ch cydweithwyr yn ogystal â dysgu a datblygu sgiliau a thechnegau newydd gan y rhai rydych yn gweithio gyda nhw. 

Mae’r mewnwelediad unigryw ac amrywiol a gewch o weithio mewn llawer o wahanol leoliadau, yn eich gosod ar wahân, gan fod gennych weledigaeth a gwybodaeth ehangach o’r gwahanol ysgolion a mwy o fynediad at lu o sgiliau a thechnegau addysgu. 

A lecturer standing with his students at a blackboard working out a complicated problem together

Profiad Dysgu 

Ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, gwaith cyflenwi yw’r ffordd berffaith o adeiladu’ch sgiliau’n gyflym. Mae gweithio ar draws gwahanol leoliadau yn profi eich gallu i addasu i amgylcheddau newydd ac yn rhoi mewnwelediad pwysig i chi o sut mae gwahanol ysgolion a cholegau yn gweithredu. 

Ffocws ar Addysgu 

Mae gwaith cyflenwi yn ffordd wych o ganolbwyntio ar eich sgiliau addysgu. Mae gwaith cyflenwi hefyd yn eich galluogi i ymgysylltu â disgyblion a chyfrannu’n gadarnhaol at eu llwybr dysgu. Mae cynorthwyo disgyblion hapus ac uchel eu cymhelliant i gyflawni cynnydd yn bleser. Nid oes gwobr fwy i athro! 

Two teachers in front a row of pupils presenting colourful images

Gweithio gyda Equal Education Partners 

Yn Equal, mae ein tîm recriwtio yn ymroddedig i ddod o hyd i’r rôl berffaith mewn addysg i chi, yn unol â’ch sgiliau, eich profiad a’ch dewisiadau. Rydym yn recriwtio athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu i swyddi dros dro, hirdymor a pharhaol. 

Cysylltwch â’n tîm recriwtio a dechreuwch eich gyrfa fel athro cyflenwi gyda Equal!