Byddai’n danddatganiad i ddweud bod y tîm yma yn Equal wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf!
Gan gefnogi 7 ysgol haf gyda dros 550 o ddysgwyr, mae’r tîm wedi cydweithio’n llwyddiannus â nifer o randdeiliaid mewnol ac allanol i ddosbarthu cyfleoedd academaidd anhygoel i ddysgwyr o bob rhan o Gymru. Gan hybu ein hymrwymiad i ddarparu profiadau addysgol trawsnewidiol tra hefyd yn cefnogi rhaglen Seren y Llywodraeth Cymru, rydym yn hynod falch o fod yn ran o ddatblygiad academaidd a phersonol pob dysgwr. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am yr hyn y mae’r dysgwyr o bob rhan o Gymru wedi bod yn ei wneud yn ystod pob un o’r pedair ysgol haf sydd eisoes wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf!
Ysgol Haf Meddygaeth Seren Prifysgol Caerdydd
Yn ystod yr ysgol haf hon, cafodd y dysgwyr y cyfle i fynychu sesiynau clinigol tra’n derbyn hyfforddiant arbenigol gan weithwyr meddygol proffesiynol. Ymhellach, roedd y dysgwyr yn ffodus i glywed gan academyddion profiadol o Brifysgol Caerdydd trwy gydol nifer o weithdai a darlithoedd.
Ar ben hynny, cynnigwyd gyfleoedd dysgu ehangach yn seiliedig ar sgiliau sy’n canolbwyntio ar gyfathrebu effeithiol o fewn y berthynas rhwng y meddyg a’r claf. Mae rôl gydweithredol gref Equal ar Ysgol Haf Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn nodweddiadol o’n hymrwymiad i wella canlyniadau addysgol ledled Cymru.
Ysgol Haf Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth
O ddarlithoedd ar ‘Theatr y Gorthrymedig’ Augusto Boal i seminarau ar farddoniaeth y dosbarth gweithiol, mae Ysgol Haf Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth wedi darparu nifer o brofiadau i ddysgwyr Seren a fydd yn hybu eu ceisiadau prifysgol tra’n cefnogi eu taith academaidd ehangach.
Trwy annog ymgysylltu â materion cyfoes cymhleth, bu’r Ysgol Haf yn galluogi’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol tra’n dosbarthu cyfleoedd sydd efo’r potensial i gael eu trafod drwy’r datganiad personol a cyfweliadau prifysgol.
Ysgol Haf Breswyl Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth
Drwy gydol eu hamser yn Ysgol Haf Breswyl Aberystwyth, gwahoddwyd y dysgwyr i fynychu sesiynau ar ystod o bynciau, o seminarau ar anatomeg ceffylau i sesiynau ar sgiliau clinigol anifeiliaid. Buont hefyd yn ddigon ffodus i gael y cyfle i drafod rhai o’r materion dybryd sy’n wynebu’r sector yng Nghymru gyda Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.
O brofi gofal milfeddygol ymarferol trwy ymweliadau fferm i ymgysylltu ag uwch academyddion ar strwythurau anatomegol, mae’n amlwg fod y dysgwyr wedi mwynhau eu hamser yn cael blas ar fywyd fel myfyriwr milfeddygol yn Aberystwyth!
Ysgol Haf Ar-lein Rhyngwladol Seren
Bellach yn ei hwythnos olaf, mae Ysgol Haf Ar-lein Ryngwladol Seren yn cyflwyno darlithoedd a seminarau ar draws ystod o bynciau tra hefyd yn darparu arweiniad prifysgol a chymorth ymgeisio i ddysgwyr. Gan gynnig sesiynnau ar draws nifer o bynciau gwahanol, gan gynnwys meddygaeth, y gyfraith, mathemateg, a’r dyniaethau, mae’r Ysgol Haf Ar-lein Ryngwladol hefyd yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr fynychu sesiynau tiwtorial personol er mwyn hybu eu rhagolygon academaidd hirdymor trwy ddarparu adborth manwl ar eu gwaith. O ddarlithoedd ar y berthynas rhwng malaria a chlefyd y cryman-gelloedd i seminarau ar y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina, mae dysgwyr wedi bod yn ymgysylltu’n eang â’n hyfforddwyr arbenigol, gan ganiatáu iddynt ddatblygu’r sgiliau sy’n parhau i fod yn hanfodol trwy gydol y broses ymgeisio i brifysgol.
Yma yn Equal, rydym yn benderfynol o ddarparu cyfleoedd heb eu hail i ddysgwyr o bob rhan o Gymru drwy eu cysylltu â phrofiadau addysg o ansawdd uchel. Mae ein rôl gydweithredol drwy gydol yr ysgolion haf hyn yn enghraifft o’r ymrwymiad hwn i ddarparu safonau addysgol uchel tra’n hybu rhagolygon academaidd hirdymor dysgwyr. Edrychwn ymlaen at gefnogi’r ysgolion haf sy’n weddill dros yr wythnosau nesaf ac i barhau â’n hymgyrch i ddarparu cyfleoedd addysgol effeithiol i ddysgwyr ledled Cymru.
Gweithio gyda Equal
Eisiau gwybod mwy am ein partneriaethau Ysgolion Haf neu cysylltwch â’r tîm i weld sut y gallant gefnogi eich rhaglen, cysylltwch â ni heddiw: