Mae rôl athro cyflenwi yn un heriol ac yn un sy’n gofyn am lawer o sgiliau sy’n ychwanegol at rai athro arferol, megis hyblygrwydd, y gallu i feddwl ar eich traed, y gallu i addasu i leoliadau addysgol amrywiol, ac amlbwrpasedd. 

Yn y blog hwn, rydym yn cynnig rhai awgrymiadau i sicrhau eich bod mor broffesiynol â phosibl. 

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Carolyn Rahman, Cyfarwyddwr Equal Education Partners. Mae Carolyn yn athrawes Sbaeneg a Ffrangeg brofiadol a ddefnyddiodd ei phrofiad addysgu a’i gwybodaeth i gynnig awgrymiadau i athrawon cyflenwi yn y blog hwn.

Ein hawgrymiadau da i Athrawon Cyflenwi 

Awgrym un: Cyrraedd yn gynnar 

A male teacher writing on a whiteboard in a classroom

Heb unrhyw amheuaeth, mae argraffiadau cyntaf yn cyfrif. Mae prydlondeb yn agwedd allweddol ar broffesiynoldeb: 

‘Os ydych chi’n gynnar, rydych chi ar amser. 

Os ydych chi ar amser, rydych chi’n hwyr. 

Os ydych chi’n hwyr, rydych chi’n hwyr iawn.’ 

Yn aml bydd disgwyl i chi weithio mewn gwahanol leoliadau. Fe’ch cynghorir i gynllunio’ch taith ymlaen llaw. Ymchwiliwch i leoliad yr ysgol a chyfrifwch yr amser teithio, gan ystyried traffig yn ystod yr oriau brig a pharcio. 

Awgrym dau: Cod Gwisg 

A female teacher helping two students with their work at a table

Gwiriwch y cod gwisg gyda’ch ymgynghorydd recriwtio. Bydd disgwyl i chi fel arfer fod mewn dillad trwsiadus anffurfiol; fodd bynnag, gallai hyn amrywio o ysgol i ysgol a dibynnu ar yr hyn a allai fod yn digwydd yn yr ysgol ar ddiwrnod penodol. 

Awgrym 3: Cyflwyniadau

A male teacher standing in front of a classroom smiling and pointing at one of his pupils

Cyflwynwch eich hun i reolwr cyflenwi’r ysgol, yr athrawon a’r staff cymorth. Bydd hyn yn eich galluogi i feithrin perthnasoedd a chysylltiadau proffesiynol. Bydd dod i adnabod staff yr ysgol yn meithrin ymddiriedaeth a bydd nid yn unig yn gwneud eich diwrnod gwaith yn hapusach ac yn haws, ond gallai hefyd arwain at ragor o waith y dyfodol ac o bosibl rôl barhaol yn yr ysgol. 

Awgrym 4: Dysgwch hyd eithaf eich gallu 

A female teacher showing a book to two students in a classroom

Bydd gan bob ysgol a choleg bolisïau a gweithdrefnau ychydig yn wahanol. Cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’r rheolwr cyflenwi am y rhain, oherwydd gallai’r rhain fod yn wahanol i rai ysgolion eraill yr ydych wedi addysgu ynddynt. 

Byddai’n ddoeth holi am gymhellion ymddygiad da, gweithdrefnau disgyblaeth mewn dosbarthiadau, polisïau a gweithdrefnau diogelu, cofrestri disgyblion, gwybodaeth bwysig am ddisgyblion, ac amserlen/rheolaeth yr ysgol. 

Awgrym 5: Arddangos eich sgiiau addysgu 

A female teacher teaching a class of students chatting to a pupil at the front of the class

Fel aelod newydd o staff, byddwch yn cynnig dull newydd a gwahanol o ddysgu i ddisgyblion. Bydd hyn yn ennyn chwilfrydedd disgyblion a bydd yn gyfle gwych i ennyn eu diddordeb a’u hysgogi. 

Bydd disgwyl i chi addysgu pynciau amrywiol i ddisgyblion. Byddwch yn hyderus yn eich gallu i gyflwyno gwersi ysgogol a diddorol. Mae’r agwedd ymarferol hon yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan ddisgyblion a staff yr ysgol, a bydd yn cynyddu’r cyfleoedd i chi ddychwelyd i’r ysgol yn y dyfodol. 

Gwiriwch a oes gwaith wedi’i adael gan yr athro arferol a blaenoriaethwch y tasgau a osodwyd. Fodd bynnag, bydd gennych adnoddau eich hun wrth law, oherwydd efallai na fydd bob amser yn bosibl i waith gael ei osod ymlaen llaw gan yr ysgol. 

A female teacher helping a young student with an art project

Awgrym 6: Trafod cyn gadael 

Er bod argraffiadau cyntaf yn cyfrif, mae’r rhai olaf yr un mor bwysig. Pan fydd eich diwrnod wedi dod i ben, gwnewch yn siŵr eich bod yn galw am sgwrs gyda’r rheolwr cyflenwi. Dyma ffordd arall o sicrhau bod yr ysgol yn eich cofio a meithrin perthnasoedd. Bydd hefyd yn creu cyfle i chi gyfleu eich bod wedi mwynhau eich diwrnod yn eu hysgol ac y byddech yn hapus i weithio yno eto. Rhowch wybod iddynt os ydych ar gael ar gyfer yr ychydig ddyddiau ac wythnosau nesaf. Gallai hyn eu hysgogi i gynnig gwaith i chi cyn i chi adael yr ysgol.

Male teacher at whiteboard teaching class

Tîm Recriwtio Equal Education Partners 

Mae Equal yn gweithio mewn partneriaeth ag addysgwyr – ysgolion a cholegau, athrawon a chynorthwywyr addysgu – i ddiwallu eu hanghenion recriwtio a chyflogaeth. 

Athrawon a Chynorthwywyr Cynnal Dysgu 

Yn Equal, mae ein tîm recriwtio yn ymroddedig i ddod o hyd i’r rôl berffaith mewn addysg i chi, yn unol â’ch sgiliau, eich profiad a’ch dewisiadau. Rydym yn recriwtio athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu i swyddi dros dro, hirdymor a pharhaol. 

Ysgolion a Cholegau 

Mae Equal yn gweithio mewn partneriaeth â thros gant o ysgolion a cholegau i gefnogi eu gofynion staffio. Mae ein tîm recriwtio yn ymroddedig i baru ymgeiswyr o’r ansawdd uchaf â chyfleoedd addysgu addas. 

Mae Equal Education Partners yn bartner a argymhellir i bob ysgol a choleg yng Nghymru o dan fframwaith recriwtio addysg Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GPC) Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn rhan o fframwaith recriwtio addysg yr Adran Addysg (DfE) yn Lloegr. 

Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr moesegol ac yn cynnig y cyfraddau cyflog uchaf yn y sector addysg. Mae ein hathrawon cyflenwi yn cael eu talu o leiaf £150.70 y diwrnod ac rydym yn talu trwy system Talu Wrth Ennill (PAYE) yn uniongyrchol gan Equal trwy drosglwyddiad BACS. 

I ddechrau ar eich taith fel athro cyflenwi, cysylltwch â’n tîm recriwtio heddiw!