Mae Equal Education Partners yn hynod o falch o dderbyn cymeradwyaeth trwy fenter Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg, menter sy’n cydnabyddu ymrwymiad cwmnïau i greu cynllun datblygu’r Gymraeg.
Sefydlwyd y Cynnig Cymraeg gan y Comisiynydd yn 2020 fel cydnabyddiaeth i sefydliadau nad ydynt yn dod o dan y Safonau ffurfiol y Comisiynydd i ddangos eu hymrwymiad i’r Gymraeg a’u bod yn barod i’w ddefnyddio.
Mae hyn yn gam pwysig o’n hymrwymiad parhaus i’r iaith Gymraeg ac yn ei ddefnydd dyddiol yma yn Equal yn fewnol gyda’n staff ac i’n gwaith ehangach. Drwy groesawu staff y Comisiynydd i edrych ar ein prosesau mewnol, rydym wedi derbyn cymeradwyaeth allanol i gefnogi ein strategaeth sydd wedi bod wrth wraidd y cwmni ers ei sefydliad yn 2011.
Ymatebodd Carolyn Treharne, Cyfarwyddwr Gweithredol y Grŵp EEP i’r gymeradwyaeth:
‘Pan ddechreuwyd y cwmni, ‘roedd yn naturiol i siarad ein mamiaith ymysg ein gilydd yn y swyddfa a hefyd i gleientiaid ac i’n cydweithwyr.
Wrth i’r busnes dyfu, roeddwn am daro’r un nod wrth weithio mewn ardaloedd newydd ar draws Cymru.
Mae’r ffaith ein bod heddiw yn gweithio ar draws cyfandiroedd gyda phobl o bob ban y byd yn golygu ein bod yn gallu trosglwyddo a dangos gwir ddarlun o Gymru fel gwlad sydd yn unigryw yn ei hiaith a’i diwylliant; a hefyd dathlu gwahaniaethau ac uno a chroesawu pobl o wahanol wledydd a diwylliannau.
Mae’r gymeradwyaeth yma gan y Comisiynydd yn cadarnhau’r gwaith caled sydd wedi mynd i mewn i greu’r awyrgylch bositif, Gymreig sydd yn bodoli o fewn Equal. Hoffwn ymestyn diolch mawr i Rebecca Booker am ei holl waith caled i sicrhau’r gymeradwyaeth yma i’r cwmni.’
Byddwn yn ogystal yn cefnogi Wythnos y Cynnig Cymraeg rhwng 13eg – 17eg o Fai – gwyliwch allan am ein negeseuon ar draws ein cyfryngau cymdeithasol.