Yn y blog hwn, rydym yn trafod rhaglen llwyddiannus Global Teaching Labs yng Nghymru 2023 a ddarparwyd yn bersonol ym mis Ionawr 2023.

Ym mis Ionawr 2023, gwelsom raglen bersonol Global Teaching Labs yng Nghymru yn dychwelyd ar ôl dwy flynedd o ddarparu’r rhaglen ar-lein oherwydd y pandemig byd-eang.

 

Beth yw rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru?

Mae rhaglen Global Teaching Labs yng Nghymru Mentrau Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ryngwladol MIT (MISTI) yn rhaglen effeithiol a thrawsnewidiol unigryw, sy’n dod â hyfforddwyr STEM arbenigol o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd staff ar draws Cymru.

Trwy’r fenter bartneriaeth hon, nod Llywodraeth Cymru, MIT a Equal Educaiton Partners yw gwella ymgysylltiad â phynciau STEM trwy archwilio materion byd go iawn a grymuso dysgwyr i ymdrechu i wireddu’u potensial yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Am ragor o wybodaeth am raglen Global Teaching Labs yng Nghymru, cliciwch yma.

 

MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru 2023

Rhwng Dydd Sadwrn 7fed o Ionawr a Dydd Sul 8fed o Ionawr, cyrhaeddodd ein 12 hyfforddwr Global Teaching Labs yng Nghymru – sy’n fyfyrwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) – yng Nghaerdydd cyn teithio ar draws Cymru at eu teuluoedd cynnal i ddechrau eu mis o gyflwyno cwricwla STEM pwrpasol yn eu hysgolion a cholegau cynnal a lleoliadau ar y cyd.

Yn ystod mis Ionawr 2023, bu ein 12 myfyriwr MIT yn gweithio ar draws 13 o brif ysgolion a cholegau cynnal ac 20 o ysgolion a cholegau lleoliadau ar y cyd. Roedd yr ysgolion cynradd lleol a’r ysgolion sy’n bwydo’r ysgolion a’r colegau a oedd yn cynnal y rhaglen hefyd wedi elwa o’r rhaglen mewn rhai achosion.

 

Yr ysgolion a’r colegau cynnal yn rhaglen Global Teaching Labs yng Nghymru 2023:

  • Ysgol Alun
  • Coleg Penybont
  • Ysgol Bro Dinefwr
  • Ysgol Gyfun Caerlleon
  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
  • Ysgol Garth Olwg
  • Ysgol Uwchradd Llanidloes
  • Ysgol Llanilltud Fawr
  • Coleg Sir Benfro
  • Ysgol Pentrehafod
  • Coleg Catholig Dewi Sant
  • Ysgol Gymuned Tonyrefail

 

Yr ysgolion a cholegau a rannodd lleoliad ar gyfer rhaglen Global Teaching Labs yng Nghymru 2023:

  • Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath
  • Ysgol Bae Baglan
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bishop Childs
  • Ysgol Bro Carmel
  • Ysgol Bro Gwaun
  • Ysgol Uwchradd Cathays
  • Ysgol Catholig Crist y Gair
  • Ysgol Gynradd Coed Glas
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen
  • Coleg Gŵyr
  • Ysgol Gyfun Gŵyr
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Ysgol Harri Tudur
  • Ysgol Gynradd Herbert Thompson
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las
  • Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd
  • Ysgol Gyfun Aberdaugleddau
  • Ysgol Penrhyn Dewi CIW School
  • Ysgol Gyfun Radur
  • Ysgol Gyfun Treorci

Roedd y ffordd yr oedd pob hyfforddwr yn gweithio ym mhob ysgol a choleg yn amrywio rhwng pob sefydliad, fodd bynnag, ym mhob lleoliad, gwelsom lu o wersi, gweithdai a phrosiectau rhyngddisgyblaethol STEM diddorol yn ogystal â sesiynau gwybodaeth, dosbarthiadau meistr a sesiynau archwilio prifysgol.

 

Arddangos Cymru, ei diwylliant, ei hanes a’i hunaniaeth unigryw

Dros bob penwythnos yn ystod y mis, trefnodd ein tîm Partneriaethau galendr o weithgareddau cymdeithasol ar gyfer yr hyfforddwyr Global Teaching Labs er mwyn iddynt deithio o gwmpas a phrofi Cymru. Roedd y teithiau penwythnos hyn yn cynnwys ymweliadau â:

  • Gêm rygbi y Scarlets
  • Gêm bêl-droed Dinas Abertawe
  • Mwmbwls (gyda stop am hufen iâ Joe’s!)
  • Tyddewi (gyda chinio tafarn traddodiadol yn Solfach)
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Castell Caerdydd
  • Bae Caerdydd

Yn amser eu hunain, cymerodd yr ysgolion, colegau a’r teuluoedd cynnal eu myfyrwyr i’w dangos o gwmpas eu hardaloedd lleol. Roedd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys cymryd rhan mewn côr meibion Cymreig, gwylio gig cerddoriaeth Gymraeg, taith i Ddinbych-y-pysgod, heicio ar draws Gogledd Cymru, gweithio ar fferm deuluol ac ymweld â nifer fawr o gestyll!

 

Astudiaeth achos

“Aeth Global Teaching Labs yng Nghymru y tu hwnt i’m disgwyliadau. Dysgais mewn ysgol uwchradd yn y canolbarth, ac arhosais gyda theulu mewn tref fechan o’r enw Llanidloes. Nid yn unig mwynheais addysgu pynciau sy’n agos ac yn annwyl i’m calon fel datblygu’r we, roboteg, a dylunio a gweithgynhyrchu, ond cefais hefyd ddealltwriaeth ddyfnach o’r meysydd hynny ac addysgu o ganlyniad. Roedd y myfyrwyr mor barchus a pharod i dderbyn y sgiliau roeddwn yn eu dysgu, a mwynheais eu hamlygu i gyfleoedd addysg uwch beth bynnag eu cefndir. Cefais gyfle i brofi anturiaethau ymarferol fel bwydo defaid i fyny ar y bryniau wedi eu gorchuddio gan eira, teithio i lannau Aberystwyth, a heicio i fyny’r Hafren gyda ffrindiau newydd. Cefais fy amgylchynu gan gylch mor gefnogol o athrawon a ffrindiau, ac ni allaf aros i ailgysylltu â’r perthnasoedd hyn yn y dyfodol.”

Christina Chen, hyfforddwraig Global Teaching Labs yng Nghymru 2023

 

Sut i gymryd rhan ym mis Ionawr 2024

Am ragor o wybodaeth am raglen MISTI Global Teaching Labs yngs Nghymru, ewch i https://gtlcymru.online/ neu e-bostiwch Rebecca Martin (Uwch Gydymaith Partneriaethau Rhyngwladol) ar rebecca.martin@equaleducationpartners.com

Bydd ceisiadau i ysgolion a cholegau i gymryd rhan yn rhaglen Global Teaching Labs yng Nghymru 2024 yn agor ym mis Medi 2023.