Yn y blog yma, rydym yn dadansoddi’r wybodaeth a rannwyd yn ein hail sesiwn dysgu proffesiynol personol am ddiwygio’r ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru a phrofiadau Ysgol Gynradd Cwm Glas o roi’r dddeddfwriaeth newydd ar waith.

Pam diwygio’r ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol? 

Mae diwygio’r ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN) yn fframwaith statudol sydd wedi disodli’r system anghenion addysgol arbennig (SEN) a’r system ar gyfer cefnogi pobl ifanc ag anhawsterau a/neu anableddau dysgu (LDD).

Gyda’r fframwaith yma, mae Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod pob dysgwr rhwng 0-25 oed sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau a chyflawni hyd eithaf eu gallu. 

I gael mwy o wybodaeth darllenwch ran 1 o’n cyfres o flogiau: Diwygio’r ddarpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol: Beth mae’r newidiadau yn ei olygu i addysgwyr yng Nghymru.

A young child sat at her desk in the classroom working

Beth oedd y Sesiwn Dysgu Proffesiynol yn ei olygu 

Mae pawb sy’n gweithio mewn lleoliad ysgol/coleg yn gyfrifol am anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r sesiwn hon yn rhoi enghraifft o sut mae diwygio’r ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol wedi’i roi ar waith yn Ysgol Gynradd Cwm Glas, Abertawe. 

Bydd Cwm Glas yn rhannu eu profiad o roi’r ddeddfwriaeth ar waith yn eu hysgol nhw. Roedd hyn yn cynnwys enghrefftiau o systemau a phrosesau, cynlluniau datblygu unigol (IDPs), darpariaeth blynyddoedd cynnar a chreu ystafelloedd dosbarth tawel fel cynnig cyffredinol. 

 

Trosolygon allweddol 

Gwnaeth Rebecca Evans, Dirprwy Bennaeth a Chydlynydd ADY yn Ysgol Gynradd Cwm Glas, Abertawe, drafod y pwyntiau canlynol: 

  • Awgrymiadau ar sut i ddatblygu awyrgylch ystafell ddosbarth cynhwysol 
  • Diffiniadau o wahanol fathau o ddarpariaeth: darpariaeth gyffredinol, darpariaeth wedi’i thargedu a darpariaeth arbenigol 
  • Pwysigrwydd darpariaeth gyffredinol 
  • Strategaethau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn y meysydd canlynol: gwybyddiaeth a dysgu; cyfathrebu a rhyngweithio, corfforol a synhwyraidd, ac emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol 
  • Enghraifft o ddarpariaeth dysgu ychwanegol yn Ysgol Gynradd Cwm Glas: ‘Little Acorns’ 

Global Teaching Labs student participating in classroom activity

Cyrsiau Dysgu Proffesiynol Ar-Lein sydd ar gael 

A wnaethoch chi golli’r cyfle i ymuno â’n sesiwn dysgu proffesiynol cyntaf yn esbonio’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth? Peidiwch â phoeni! Gallwch ddal i fyny trwy gwblhau ein cwrs e-ddysgu Diwygio ADY ar Academi Equal Education Partners!