Gall bod yn addysgwr fod yn swydd anodd, nid peth hawdd yw siapio bywydau dysgwyr! Fodd bynnag, mae’n bwysig dy fod di’n gwybod sut i ymlacio a chymryd hoe er lles dy iechyd meddwl a llesiant. 

Yn y blog hwn, byddwn yn trafod straen o fewn y sector addysg a’n strategaethau gorau i dy helpu i gymryd hoe er mwyn dy iechyd meddwl a llesiant.

 

Photo

Straen o fewn y Sector Addysg: Yn ôl yr ystadegau 

Mae pawb yn profi straen yn eu bywydau pob dydd; o straen lefel isel a all fod yn fuddiol ar gyfer ein cymhelliant, i lefelau uchel o straen all gael effeithiau negyddol ar ein iechyd meddwl a’n llesiant. 

Darganfyddodd National Education Union Cymru gynnydd pryderus yn nifer yr athrawon oedd yn bwriadu gadael y proffesiwn yn eu holiadur cyflwr addysg. Mae 52% o athrawon yn dweud bod eu llwyth gwaith unai yn “amhosibl ei reoli” neu yn “amhosibl ei reoli y rhan fwyaf o’r amser” ac mae dau draean o athrawon yn teimlo dan straen o leiaf 60% o’r amser.

Yn yr un modd, mae Education Support, elusen sydd yn rhoi cymorth iechyd meddwl i bobl o fewn y proffesiwn addysg, wedi cyhoeddi y darganfyddiadau hyn yn eu Dangoseg Llesiant Athrawon blynyddol. Mae’r ddangoseg yn cynnig mewnolwg i iechyd meddwl a llesiant pobl o fewn y proffesiwn addysgu sy’n gweithio ar draws y DU. Cymrodd 3000 o athrawon ran yn yr holiadur yn 2021 a dangosodd y canlyniadau bod 72% o athrawon yn disgrifio eu hunain fel eu bod dan straen, gyda 84% o uwch arweinwyr hefyd yn profi lefelau uchel o straen. 

Mae hyn yn portreadu darlun pryderus gan ddangos bod athrawon yn profi lefelau uchel o straen yn y gwaith. Fodd bynnag, gellir cymryd camau i fod yn fwy meddylgar o straen, gan adael i bobl ddatblygu strategaethau i frwydro straen yn y gweithle.

 

5 Darn o Gyngor i Gefnogi Iechyd Meddwl Athrawon

Tra bod pawb yn rheoli eu iechyd meddwl a llesiant yn wahanol, mae gennym restr o’n pum prif strategaeth i’w defnyddio pan rydych chi’n teimlo wedi eich llethu ac angen cymryd egwyl.

 

1. Gadael y gwaith yn y gwaith

Photograph of a person looking through a thick case of files

Mae pawb yn euog o ddod â’u gwaith gartref gyda nhw bob hyn a hyn. Weithiau gyda llwyth gwaith mawr, mae’n dod yn normal i farcio papurau neu ddarllen adroddiadau gartref. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod gennyt ardaloedd “gwaith” arbennig fel y galli adael yr ardal waith pan rwyt wedi gorffen ac mae’n amser i ymlacio, fel y galli ganolbwyntio ar dy hunan. 

Os wyt yn gweithio o dy gartref, ceisia gael ardal debyg i “swyddfa” ble rwyt yn gweithio a phaid â’i defnyddio ar gyfer gweithgareddau dydd-i-ddydd yn y cartref. Mae gwahanu dy ardaloedd gweithio o dy ardaloedd personol yn y cartref yn enghraifft dda o hyrwyddo gwahaniaeth iach rhwng bywyd gwaith a phersonol.

 

2. Awyr iach

Photograph of two people walking outside among the trees

Gall cymryd egwyl o’r gwaith fod yn gynhyrchiol iawn ar gyfer ein iechyd meddwl a llesiant yn ogystal ag ar gyfer ein gwaith. Yn 2020 cydweithiodd Ned Friedman, Cyfarwyddwr The Arnold Arboretum, gyda Joseph G, Allen a Marc Lipsitch yn Ysgol Iechyd Cyhoeddus Harvard i ysgrifennu erthygl ar gyfer The Washington Post am bwysigrwydd awyr iach a’i effaith ar iechyd meddwl a llesiant pobl. 

Ceisia fynd allan am dro bob dydd neu gwna ryw fath o ymarfer corff yr wyt yn ei fwynhau. Paid â cheisio mynd i’r gampfa os nad wyt ti’n hoffi hynny. Ni fydd gorfodi dy hunan i wneud gweithgaredd nad oes gen ti awydd ei wneud helpu dy gynhyrchedd. Yn lle hynny, canolbwyntia ar weithgaredd yr wyt yn ei mwynhau fel mynd â’r ci am dro, nofio, mynd i wers ioga, neu gyfarfod ffrindiau am baned yn y parc. Bydd unrhyw beth sy’n dy helpu i adael y tŷ yn dy helpu i reoli dy straen. 

 

3. Blaenoriaethu dy gyfrifoldebau

Photograph of a close up shot ofto do list

Mae oriau’r dydd yn brin felly er mwyn gwella’r ffordd rwyt yn rheoli dy lwyth gwaith, sicrha dy fod yn blaenoriaethu y tasgau pwysig sydd angen eu cyflawni gyntaf. Ceisia wneud ymarferiad syml ble rwyt yn cael tri darn o bapur, yna’n llenwi’r tasgau sydd angen eu cyflawni heddiw, tasgau sydd angen eu cyflawni yr wythnos hon, a thasgau all aros. 

Bydd hyn yn dy helpu i reoli dy lwyth gwaith ac i ofyn am gymorth os oes gen ti ormod ar dy blât. Mae systemau trefnu digidol megis Asana yn wych ar gyfer cadw trefn ar bethau personol ac yn y gwaith. 

 

4. Yfed dŵr

 

Photograph of a glass of water

Un o’r pethau symlaf y gallwn ei wneud i reoli ein iechyd meddwl a llesiant yw i sicrhau nad ydym wedi ein dadhydradu. Mae’r British Nutrition Foundation yn nodi bod yfed digon o ddŵr yn hanfodol oherwydd “os ydym wedi ein dadhydradu gall hyn wneud i ni deimlo’n flinedig, achosi cur pen a’i gwneud yn anodd i ganolbwyntio.” 

Mae nifer o fanteision o yfed digon o ddŵr sy’n cynnwys:

  • Llai o gur pen
  • Ansawdd cwsg gwell
  • Gwell hwyliau
  • Mwy o egni
  • Mwy o allu i ganolbwyntio ar yr hyn ydym ni’n gweithio arno

Os wyt ti’n cael trafferth i yfed dŵr plaen ceisia ychwanegu blas ato gyda lemwn neu giwcymbr. Os wyt yn cael trafferth i gofio i yfed dŵr mae apiau ar gael i osod larymau cyson i dy atgoffa i hydradu neu boteli dŵr gydag amseroedd arnynt sydd yn dy annog i yfed wrth i ti edrych arnynt.

 

5. Ymarfer meddwlgarwch

Photograph of a man sat on the floor with his legs crossed meditating with his eyes closes and legs crossed

Gall meddwlgarwch fod yn arf arbennig os yw’n cael ei ddefnyddio’n gywir. Bydd ymarfer meddwlgarwch yn dy alluogi i ddeall yr arwyddion pan fyddi’n dechrau profi straen mewn modd negyddol.

Cofia gymryd amser i weld sut wyt ti dy hunan yn ei wneud, os wyt ti wedi cymryd egwyl yn ddiweddar ac os oes unrhyw beth y galli ei wneud i helpu dy iechyd meddwl a llesiant. Gall ffurfiau eraill o feddwlgarwch gynnwys pethau fel technegau anadlu a myfyrdodau i dy helpu i ymlacio. Darganfyddodd The Yoga World bod 26% o oedolion yn y DU yn myfyrio i wella eu llesiant meddyliol. 

Gall meddwlgarwch hefyd fod mor syml â chysylltu gyda ffrind neu rhywun proffesiynol i siarad am sut wyt ti’n teimlo.

 

Mae’r cynghorion hyn yn berffaith i weithredu arnynt i sicrhau dy fod yn ymateb yn rhagweithiol i dy iechyd meddwl a llesiant a dy fod yn dysgu sut i adnabod pan wyt ti’n cael dy orweithio neu dy lethu, yn hytrach nag ymateb pan wyt ti dan ormod o straen.

 

Cysylltu â Equal Education Partners

Cofia bod ein tîm yn Equal yma i dy gefnogi cymaint ag y gallwn yn dy swydd. Os wyt ti’n edrych am swydd newydd, cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol, neu angen cymorth, rydym wastad yn barod i helpu. 

Cysyllta gyda’n tîm cyfeillgar heddiw!