01792 277686 | 01554 777749 | 02920 697129
  • English
  • O fewn canllawiau’r cwricwlwm i Gymru mae pedwar diben y dylai cwricwlwm ysgolion a cholegau weithio tuag atynt. O fewn y blog hwn rydym yn trafod y pedwar diben a pham ei bod hi’n bwysig i ddysgwyr eu ymgorffori. 

    A woman teaching online over video link showing the students a book

    Beth yw’r Pedwar Diben?

    Mae canllaw’r cwricwlwm i Gymru wedi ei greu i helpu ysgolion a cholegau ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Wrth ddechrau dylunio eu cwricwlwm dylai ysgolion a cholegau ddefnyddio’r pedward diben fel pwynt cychwynol ac ysbrydoliaeth, gan gefnogi eu disgwyr yn y pen draw i fod yn:

    1. Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
    2. Gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
    3. Ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
    4. Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

    Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cefnogaeth i ddatblygu pob un o’r pedwar diben.

    Close up of a line of graduating students with their graduation caps visible

    Dysgwyr Uchelgeisiol, Galluog

    Y diben cyntaf yw i ddysgwyr ddatblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau. 

    Mae arwyddion eraill o ddysgwyr uchelgeisiol, galluog yn cynnwys: 

    • Gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
    • Datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau
    • Bod yn ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
    • Gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
    • Gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maen nhw’n dysgu amdanyn nhw
    • Gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
    • Deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
    • Defnyddio technolegau digidol yn greadigol i rhannu gwybodaeth, dod o hyd iddi a’i dadansoddi
    • Ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol
    • Parodrwydd i ddysgu drwy gydol eu bywyd

    A row of school children going for a walk in the sunshine with colourful backpacks and hats

    Cyfrannwyr Mentrus, Creadigol 

    Mae’r ail ddiben yn cyfleu’r angen i ddysgwyr ddatblygu sgiliau perthnasol er mwyn bod yn gyfrannwyr mentrus, creadigol i gymdeithas.

    Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

    • Cysylltu ac chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynnyrch
    • Meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
    • Adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnyn nhw
    • Mentro’n bwyllog
    • Arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
    • Mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
    • Rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa
    • Bod yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith

    A woman in a headscarf smiling

    Dinasyddion Egwyddorol, Gwybodus

    Nôd y trydydd diben yw i blant a phobl ifanc ddatblygu i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd. Mae nodweddion eraill yn cynnwys dysgwyr sy’n: 

    • Canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
    • Trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
    • Deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd
    • Deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
    • Wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
    • Parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
    • Dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaladwyedd y blaned

    A father teaching his daughter to ride a bike

    Unigolion Iach, Hyderus   

    Y pedwerydd diben yw i ddysgwyr ddod yn unigolion sy’n iach a hyderus gyda sgiliau i reoli eu bywyd pob dydd mewn modd mor annibynnol â phosibl. 

    Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu:

    • Gwerthoedd sicr a sefydlu eu credoau ysbrydol ac egwyddorol
    • Meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
    • Cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
    • Gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
    • Cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
    • Gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
    • Yr hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
    • Ffurfio cydberthnasau cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
    • Wynebu heriau ac yn eu goresgyn
    • Parodrwydd i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

    Close up of a girl writing with her teacher next to her assisting

    Defnyddio’r Pedwar Diben i Ddatblygu’r Cwricwlwm

    Mae’n hanfodol bod ysgolion ac ymarferwyr yn ystyried beth all y pedwar diben ei olygu ar gyfer eu dysgwyr wrth iddynt ddatblygu eu cwricwlwm. Dylai’r cwricwlwm hefyd gefnogi eu dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben a sut y byddant yn helpu dysgwyr i ddatblygu i fod yn oedolion eang eu gallu.

    Wrth i ysgolion a cholegau ddatblygu eu cwricwlwm mae’n bwysig bod lleisiau’r dysgwyr yn ganolog i weledigaeth y sefydliad i gefnogi dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben. Dylai mewnbwn y disgyblion fod yn ystyriaeth bwysig drwy gydol datblygiad y cwricwlwm.