O fewn y canllaw cwricwlwm newydd i Gymru mae tair sgil mandadol trawsgwricwlaidd sydd yn hanfodol i ddysgwyr. Yn y blog hwn, rydym yn trafod pob un o’r sgiliau trawsgwricwlaidd hyn a pham bod rhaid iddynt fod yn ganolog i gwricwlwm yr ysgol neu goleg.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru’n rhestru tair sgil trawsgwricwlaidd sydd yn hollbwysig i bob dysgwr: 

  1. Llythrennedd
  2. Rhifedd
  3. Cymhwysedd Digidol 

Mae’r sgiliau hyn yn fandadol ac yn allweddol gan eu bod yn galluogi dysgwyr i gael mynediad i amrediad eang o gwricwlwm yr ysgol a’r cyfleoedd mae’r cwricwlwm yn ei gynnig, gan eu harfogi gyda sgiliau gydol-oes i’w helpu i gyflawni’r pedwar diben.

Mae sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trosglwyddadwy y gall dysgwyr eu defnyddio yn eu gweithle, gan alluogi iddynt addasu a ffynnu fel oedolion.

A young girl writing with a pencil in a classroom

Y Tair Sgil Trawsgwricwlaidd a Chwricwlwm yr Ysgol 

Mae’n rhaid i ysgolion a sefydliadau addysg eraill sicrhau eu bod wedi datblygu cwricwlwm sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y dair sgil hyn. Mae’n rhaid iddynt hefyd gynnig cyfleoedd i ehangu a defnyddio’r sgiliau hyn ar draws y 6 maes o brofiad a dysgu. 

Mae’n rhaid i ddysgwyr gael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:

  • Ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, ysgrifennu a siarad
  • Allu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go-iawn
  • Fod yn hyderus wrth ddefnyddio nifer o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd

Mae’n hanfodol bod pob aelod o staff yn deall mai nid cyfrifoldeb unigol ymarferwyr mathemategm iaith a chyfrifiadureg yw i ddysgu’r sgiliau hyn, ond yn hytrach, y dylai’r sgiliau hyn fod yn rhan o’r cwricwlwm cyfan, felly, bydd yn gyfrifoldeb ar bob ymarferydd ar draws pob maes i ddatblygu a chryfhau’r sgiliau hyn. 

Fframwaith Sgiliau Trawsgwricwlaidd

Mae dwy fframwaith sy’n cydfynd ac yn unioni â chanllaw’r Cwricwlwm yng Nghymru; 

  1. Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FLR)
  2. Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FCD)

Mae’r ddwy fframwaith yn cynnig canllawiau cefnogol ar gyfer gweithwyr addysg ar draws y 6 maes, gan sicrhau bod digon o gyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau pwysig hyn. Mae’r fframweithiau’n amlinellu agwedd gyffredin i gefnogi sefydliadau addysg a’u staff i sicrhau bod gan bob dysgwr gyfleoedd cyson i ddatblygu a defnyddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd hyn ar draws eu haddysg. 

A young girl reading off an Ipad whilst writing

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd 

Llythrennedd: Trawsieithu

Diffiniad: Y weithred a befformir gan unigolion dwyieithog wrth iddynt gael mynediad i nodweddion ieithyddol gwahanol neu foddau amrywiol o’r hyn a ddisgrifir fel ieithoedd annibynnol, er mwyn cynyddu potensial cyfathrebu. 

Ymhen amser, bydd dysgwyr yn mynd drwy’r camau hyn:

  • Deall gwybodaeth a gyflwynir mewn un iaith a’i gyfleu yn eu geiriau eu hunain mewn un arall
  • Derbyn gwybodaeth mewn un iaith a’i addasu ar gyfer pwrpasau amrywiol mewn un arall
  • Defnyddio sgiliau trawsieithu i gefnogi eu dysgu mewn ieithoedd maent yn eu gwybod a rhai nad ydynt yn eu gwybod 
  • Adnabod cyfleoedd trawsieithu’n annibynnol er mwyn cynyddu dysgu a chyfathrebu 

Close up of students in a lecture with notepads open on their laps

Llythrennedd: Gwrando

Mae nifer o wahanol gamau i wrando y mae’n rhaid i ddysgwyr eu hystyried gan gynnwys:

  1. Gwrando am ystyr
  2. Datblygu geirfa
  3. Gwrando i ddeall
  4. Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

 

Llythrennedd: Darllen

Bydd gan ddysgwyr y canlynol:

  1. Ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig
  2. Strategaethau darllen
  3. Dealltwriaeth, ymateb a dadansoddiad

A teacher within a classroom pointing at a whiteboard and smiling

Llythrennedd: Siarad

Rhennir siarad i nifer o Speaking is divided into many subsections including: 

  1. Eglurder a geirfa
  2. Diben
  3. Siarad cydweithredol
  4. Gofyn cwestiynau

 

Llythrennedd: Ysgrifennu

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y meysydd canlynol: 

  1. Geirfa, sillafu, gramadeg
  2. Cysyllteiriau a chystrawen
  3. Atalnodi
  4. Cynllunio a threfnu ar gyfer gwahanol ddibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destunau
  5. Prawfddarllen, golygu a gwella

Rhifedd: Datblygu hyfedredd mathemategol

Bydd dysgwyr yn deall y syniadau canlynol:

  1. Dealltwiraeth gysyniadol
  2. Rhesymu rhesymegol
  3. Rhuglder
  4. Cymhwysedd strategol
  5. Cyfathrebu â symbolau

 

Rhifedd: Mae deall y system rif yn ein helpu i gynrychioli a chymharu’r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau

Bydd gan ddysgwyr hyder yn:

  1. Y system rif
  2. Perthnasoedd o fewn y system rif
  3. Cyfrifiad
  4. Llythrennedd ariannol

Rhifedd: Mae dysgu am geometreg yn ein helpu i ddeall siapiau, gofod a safle, ac mae dysgu am fesur yn ein helpu i feintoli yn y byd go-iawn 

Bydd dysgwyr yn gallu defnyddio’r syniadau hyn mewn sefyllfaoedd go-iawn: 

  1. Mesur
  2. Siâp a gofod
  3. Safle Position
  4. Ongl

 

Rhifedd: Mae dysgu bod ystadegau yn cynrychioli data a bod tebygolrwydd yn modelu siawns y ein helpu i wneud casgliadau a phenderfyniadau ar sail gwybodaeth 

Bydd dysgwyr yn deall sut i:

  1. Gasglu data
  2. Gynrychioli data
  3. Ddehongli data

 

Gellir dod o hyd i’r fframwaith lawn yma

Numeracy - A young boy solving a maths problem on a whiteboard

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dinasyddiaeth

Bydd dysgwyr yn cael eu paratoi ar gyfer yr agweddau positif a negyddol o fod yn ddinasyddion digidol a byddant yn deall y syniadau canlynol:

  1. Hunaniaeth, delwedd ac enw da
  2. Iechyd a lles
  3. Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth
  4. Ymddygiad ar-lein a bwlio ar-lein

 

Rhyngweithio a chydweithio

Bydd dysgwyr yn craffu ar y dulliau canlynol o gydweithio a rhyngweithio digidol: 

  1. Cyfathrebu
  2. Cydweithredu
  3. Cyfnewid a rhannu gwybodaeth

Cynhyrchu

Bydd dysgwyr yn deall yr elfennau digidol canlynol:

  1. Cyrchu, chwilio a chynllunio cynnwys digidol
  2. Creu cynnwys digidol
  3. Gwerthuso a gwella cynnwys digidol

 

Data a meddwl cyfrifiadurol

Bydd dysgwyr yn deall sut mae data a gwybodaeth yn cysylltu gyda’r byd digidol drwy’r syniadau hyn: 

  1. Datrys problemau a modelu
  2. Llythrennedd gwybodaeth a data

 

Gellir dod o hyd i’r fframwaith lawn yma