Mae Lois Williams, Uwch Gydymaith Partneriaethau Addysg Uwch Equal, yn disgrifio ei phrofiad fel hyfforddwr yn Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren a manteision bod yn rhan o’r cynllun yn 2023.

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, rydym yn cydweithio gyda Choleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen i gynnal Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren. Mae’r rhaglen hon wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2020, gyda chyfanswm o dros 700 o ddysgwyr mwyaf galluog Cymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen hyd hyn. 

Cefais y fraint o fod yn rhan o’r rhaglen hon o’r dyddiau cynnar pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig yng Ngholeg yr Iesu. Dechreuais drwy fod yn hyfforddwr ar gyfer ffrwd Llenyddiaeth a Ieithoedd Modern, yn ogystal â chydlynnu’r amserlen gyffredinol ar gyfer yr hyfforddwyr eraill. Dyma’r tro cyntaf i mi gyfarfod a thîm Equal, ac yn y pen draw, cymryd y rôl hon wnaeth fy arwain at ddechrau fy ngyrfa yma fel Rheolwr Project, a nawr fel Uwch Gydymaith, wedi i mi gwblhau fy ngradd Meistr.

Gan fy mod wedi profi’r rhaglen fel hyfforddwr a chydlynydd, rydw i’n ymwybodol o pa mor werthfawr gall y profiad fod ar gyfer myfyrwyr prifysgol wrth iddynt archwilio opsiynau gyrfa gwahanol ac ehangu eu sgiliau.

 

Beth yw Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren?

Dylunwyd y rhaglen yn wreiddiol fel ymateb i golled cyfleoedd yn ystod y pandemig. Roedd Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein gyntaf Seren yn ysgol haf bythnefnos o hyd oedd yn cynnig her academaidd ar gyfer dysgwyr medrus oedd i fod i gymryd rhan mewn ysgolion haf preswyl yn UDA drwy rhaglen Seren Llywodraeth Cymru.

Gosododd llwyddiant y peilot yn 2020 lwybr clir i ehangu’r rhaglen yn 2021 i fod ar gyfer hyd at 300 o ddysgwyr, a hyd at 400 yn 2022. Gobeithiwn gynyddu’r nifer hwn eto yn 2023. 

Yn ystod y rhaglen mae dysgwyr yn treulio’r bythefnos yn mynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai wedi eu cyflwyno gan academyddion a hyfforddwyr sy’n fyfyrwyr mewn prifysgolion blaenllaw dros y byd, yn ogystal ag ymchwilio a chwblhau projectau ymchwil a gyflwynir i swyddogion o Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y rhaglen. 

Mae’n brofiad gwych i ddysgwyr blwyddyn 12 ddarganfod arbenigeddau academaidd newydd, magu sgiliau ymchwil annibynnol a chael blas ar sut fath o beth yw astudio ar lefel israddedig. 

 

Beth yw cryfderau’r rhaglen?

I mi, un o gryfderau mwyaf y rhaglen yw’r tîm o hyfforddwyr. Dros y dair mlynedd ddiwethaf rydym wedi recriwtio dros 40 o hyfforddwyr o 18 prifysgol blaenllaw, o bedwar ban byd. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys prifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y DU, Ewrop, UDA ac Asia. Mae ein hyfforddwyr wedi cynrychioli’r sefydliadau canlynol: 

Y DU

  • Coleg y Brenin Llundain
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Birmingham
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Caergrawnt
  • Prifysgol Durham
  • Prifysgol y Frenhines Belfast
  • Prifysgol Manceinion
  • Prifysgol Rhydychen
  • Prifysgol St Andrews

Ewrop

  • École Normale Supérieure, Paris
  • Prifysgol IE, Madrid

UDA

  • Coleg Boston
  • Coleg St John’s, Annapolis
  • MIT
  • Prifysgol Northeastern
  • Prifysgol Florida

Asia

  • Yale-NUS, Singapore

Mae’r ystod eang o sefydliadau, ffocysau acadmaidd a phrofiadau myfyrwyr a arddangosir gan ein tîm o hyfforddwyr yn golgu bod dysgwyr mwyaf disglair Cymru yn magu ymwybyddiaeth o lwybrau academaidd a gyrfa nad ydynt o bosib wedi eu cysidro o’r blaen. Mae mynychu’r rhaglen yn annog dysgwyr i ystyried astudio’n rhyngwladol, i ddarganfod beth sy’n cyffroi eu hangerdd academaidd a hyd yn oed pa yrfaoedd hoffent eu dilyn wedi eu hastudiaethau israddedig.

Fel y dywedodd un dysgwyr yn 2022: ‘Roedd y rhan fwyaf o’r darlithoedd mor ddiddorol ac unigryw, mae’n debygol na fyddwn i wedi clywed am y pynciau hyn os na fuaswn wedi mynychu’r Ysgol Haf.’ 

Mae hefyd yn ffordd arbennig i ddysgwyr ddysgu yn annibynnol, a fydd yn eu paratoi at astudio mewn prifysgol. Mae rhai sesiynau ar gael i’w gwylio ar-alw, sy’n rhoi hyblygrwydd i ddysgwyr i gydbwyso mynychu’r ysgol haf gydag ymrwymiadau pellach.

 

Sut i gymryd rhan yn 2023

Os hoffet ti ddarganfod mwy am y cyfle hwn, neu os oes gen ti ddiddordem mewn cymryd rhan, cysyllta gyda Lois Williams (Uwch Gydymaith ar gyfer Addysg Uwch) neu Rebecca Martin (Uwch Gydymaith ar gyfer Partneriaethau Rhyngwladol) am fwy o wybodaeth. 

Os wyt ti’n meddwl dy fod di’n berson delfrydol i ymuno â thîm hyfforddwyr yr ysgol haf, buasem ni wrth ein boddau yn clywed gen ti. Rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer hyfforddwyr tan 5yh ar y 31ain o Fawrth 2023.