Mae Deddfwriaeth Cadw Dysgwyr yn Ddiogel Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r cyfreithiau diogelu ac amddiffyn plant y mae’n rhaid eu dilyn gan bob ysgol, coleg, bwrdd llywodraethu ac awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r blog hwn yn trafod adrannau 3 a 4 o’r ddeddfwriaeth.
Canllaw Cadw Dysgwyr yn Ddiogel
Mae’r canllaw yn amlinellu’r canlynol ar gyfer ysgolion a cholegau:
- Beth sy’n rhaid ei wneud gan mai dyna’r gyfraith; a
- Beth ddylent ei wneud oherwydd ei fod yn rhan o’r canllaw hwn.
Canllaw Cadw Dysgwyr yn Ddiogel
Rhennir fersiwn gryno’r canllawiau i wyth adran:
- Ynghylch diogelu yng Nghymru
- Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Diogelu
- Ymateb i Bryderon
- Diogelu mewn amgylchiadau penodol Safeguarding in specific circumstances
- Cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd, trais rhywiol ac arferion diwylliannol niweidiol
- Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein
- Cydlyniant Cymunedol
- Arferion Recriwtio Staff Mwy Diogel
Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar adrannau 3 a 4 yn y canllaw.
Ymateb i Bryderon
Mae’n hanfodol i bawb weithio gyda’i gilydd mewn sefydliad i ddiogelu dysgwyr ac i ymateb i bryderon mewn ffordd briodol. Dylai pob ysgol a choleg:
- Weithio gydag awdurdodau lleol, yr heddlu, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill
- Gael camau clir ar gyfer gwneud atgyfeiriadau a rhannu gwybodaeth
- Gwneud atgyfeiriadau’n gyflym fel bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt.
Dylai’r Unigolyn Diogelu Dynodedig (DSP):
- Helpu staff gyda’u cwestiynau a phryderon diogelu
- Weithio’n agos gyda gwasanaethau eraill
- Sicrhau bod pawb yn ymwybodol o Weithdrefnau Diogelu Cymru
Gwybodaeth
Dylai’r broses anwytho ar gyfer staff gynnwys yr holl bolisïau a gweithdrefnau diogelu. Yn ystod yr anwythiad dylai pob aelod o staff:
- Dderbyn gwybodaeth am eu DSP a sut i gysylltu gyda nhw
- Fod yn ymwybodol o’r arwyddion o gamdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o niwed
- Siarad gyda’r DSP os oes ganddynt bryderon
- Wybod y gallant gysylltu gyda thîm gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os oes ei angen
- Weithredu er lles gorau’r plentyn ar bob cyfrif
Yr Ymateb Cywir i Bryderon Diogelu
Dylai pob pryder ynghylch dysgwr gael eu rhannu gyda’r DSP ac os ydynt yn cyrraedd y trothwy niwed yna caiff yr adroddiad ei rannu gyda’r gwasanaethau priodol.
Mae’n rhaid i bob darn o wybodaeth ac adroddiadau:
- Fod yn gywir, cryno a chlir
- Gael eu cadw’n gyfrinachol a’u rhannu yn y ffyrdd cywir yn unig.
Cael Cyngor
Dylai bod gan bob sefydliad addysg system addas ar gyfer adrodd, cofnodi a rheoli pryferon diogelu. Dylai staff fynd at y DSP os oes ganddynt unrhyw gwestiynau diogelu neu os ydynt angen unrhyw gyngor.
Ymchwiliadau
Mae’n rhaid i ymchwiliadau i bryderon am aelodau o staff gael eu hadrodd i’r awdurdod lleol neu’r heddlu.
Gwrando ar y Plentyn
Dylai ysgolion a cholegau wneud eu gorau i fod yn llefydd diogel i ddysgwyr gael siarad am bethau sy’n eu heffeithio. Dylai staff:
- Annog plant i siarad am eu pryderon
- Rannu gwybodaeth glir am linellau cymorth ac chynlluniau cefnogaeth cyfoedion
Mae’n bosibl na fyddai plant eisiau siarad gyda DSP am eu problemau bob amser; yn lle hyn, gallant siarad gydag aelod o staff. Os yw hyn yn digwydd, dylai’r aelod o staff:
- Ysgrifennu adroddiad llawn o’r sgwrs cyn gynted â phosibl gan gynnwys yr amser, dyddiad llawn, lleoliad, amgylchiadau’r cyfarfod, pwy oedd yn bresennol
- Bod yn glir am y ffeithiau, argraffiadau, honiadau a barn
- Nodi unrhyw weithredoedd neu sylwadau/cyngor a roddwyd
- Arwyddo, dyddio a rhoi amser ar yr adroddiad
- Cysylltu gyda’r DSP ar unwaith
Cynnwys Rhieni neu Ofalwyr
Dylai rhieni a gofalwyr ddeall dyletswydd ysgolion a cholegau i ddiogelu dysgwyr. Mae’n rhaid i ddiogelwch y plentyn ddod yn gyntaf; felly, os yn briodol, dylid trafod unrhyw bryderon gyda’r teulu, os nad yw hynny’n ddiogel, dylid cysylltu gyda’r DSP a fydd yn gweithio gyda gwasanaethau eraill a’r heddlu i benderfynu beth sy’n digwydd nesaf.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Dylai pob ysgol a choleg:
- Ddeall y gall plant gydag anghenion dysgu ychwanegol fod mewn mwy o berygl o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed
- Ddeall y rhwystrau y gallant eu gwynebu, yn enwedig gyda chyfathrebu
- Ddarparu unrhyw gefnogaeth angenrheidiol ychwanegol i’w cefnogi
Diwylliant a Chredoau
Dylai pob ysgol a choleg:
- Ddod i ddeall diwylliant a chredoau’r teuluoedd yn eu cymuned
- Ymdrin â materion sensitif fel anffurfio organnau rhywiol (FGM) a phriodas dan orfod
Profiadau yn y Gorffennol
Dylai staff fod yn ymwybodol bod profiadau o gamdriniaeth ac esgeulustod yn y gorffennol yn gallu gwneud plant yn fwy bregus.
Pryderon Uniongyrchol
Mae’n rhaid i ysgolion a cholegau ddweud wrth yr awdurdod lleol os ydynt yn credu bod plentyn mewn perygl difrifol. Yn yr un modd, os oes unrhyw bryderon uniongyrchol am ddiogelwch plentyn, mae’n rhaid cysylltu gyda’r heddlu yn syth.
Rhoi Gwybod am Bryderon i’r Gwasnaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu
Mae’n rhaid i’r DSP benderfynu os ydynt am adrodd pryder i’r gwasanaethau cymdeithasol a/neu’r heddlu. Mae’n rhaid i’r adroddiad:
- Fod yn ysgrifenedig
- Gynnwys yr holl wybodaeth sylfaenol gan gynnwys achos y pryder
- Gael ei anfon o fewn 24 awr
Os yw adroddiad yn cael ei wneud wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn, mae’n rhaid iddo gael ei gadarnhau’n ysgrifenedig o fewn 24 awr. Y tu allan i oriau gwaith, mae’n rhaid i adroddiadau gael eu gwneud i wasanaeth dyletswydd brys y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu. Dylai’r DSP:
- Rannu’r adroddiad gyda’r aelod o staff perthnasol a’r prif athro neu bennaeth
- Egluro beth sy’n digwydd, pam bod adroddiad wedi ei dderbyn a phwy sy’n gweithredu
Rhannu Gwybodaeth
Mae’n bwysig bod gwybodaeth yn cael ei rannu’n gywir i sicrhau’r canlyniadau gorau. Dyletswydd y DSP yw i wneud penderfyniadau am ba wybodaeth i’w rannu gyda pha wasanaeth.
Dyletswydd Cyfrinachedd
Ar brydiau, pan fo hynny er lles y plentyn, mae’n rhaid rhannu gwybodaeth gyfrinachol. Os oes rhaid i hyn ddigwydd dylai’r ysgol neu goleg:
- Cefnogi’r plentyn
- Dweud wrth y plentyn, cyn belled nad yw’n eu rhoi mewn mwy o berygl
- Sicrhau bod unrhyw benderfyniad yn cael ei gofnodi
Cadw Cofnodion
Mae’n rhaid i’r DSP:
- Gadw cofnodion ysgrifenedig manwl a chywir o bryderon diogelu mewn lle diogel
- Cadw cofnodion yn gyfrinachol ac ar wahan i gofnodion dysgwyr eraill
- Yrru copi i ysgol neu goleg newydd y plentyn pan maent yn symud
- Wybod pa mor hir y dylai cofnodion gael eu cadw wedi i’r plentyn adael y sefydliad
Mae’r fersiwn gryno lawn o ganllaw Cadw Dysgwyr yn Ddiogel ar gael yma.
Darllena rhan 1 a 3 o’r gyfres o flogiau.