Mae Deddfwriaeth Cadw Dysgwyr yn Ddiogel Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r cyfreithiau diogelu ac amddiffyn plant y mae’n rhaid eu dilyn gan bob ysgol, coleg, bwrdd llywodraethu ac awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r blog hwn yn trafod adrannau 1 a 2 o’r ddeddfwriaeth.

Diogelu yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu, i fod yn actif, ac i fyw bywydau iach a hapus. Er mwyn gwneud hyn mae ganddynt gyfreithiau diogelu a systemau cryf i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag niwed. Mae diogelu’n cyfeirio at cadw plant yn ddiogel rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Galli ddarganfod mwy yn ein Blog Diogelu. 

Mae gan sefydliadau yng Nghymru megis awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau ddyletswydd cyfreithiol i ddiogelu’r dysgwyr yn eu gofal ac i hyrwyddo eu llesiant. Mae sefydliadau addysg a’r sawl sy’n gweithio ynddynt mewn sefyllfa arbennig ar gyfer cefnogi plant ac adnabod arwyddion o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed posibl. 

Mae’r canllaw yn amlinellu’r canlynol ar gyfer ysgolion a cholegau: 

  • Beth sy’n rhaid ei wneud gan mai dyna’r gyfraith; a
  • Beth ddylent ei wneud oherwydd ei fod yn rhan o’r canllaw hwn. 

Canllaw Cadw Dysgwyr yn Ddiogel

Rhennir fersiwn gryno’r canllawiau i wyth adran: 

  1. Ynghylch diogelu yng Nghymru
  2. Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Diogelu
  3. Ymateb i Bryderon
  4. Diogelu mewn amgylchiadau penodol Safeguarding in specific circumstances
  5. Cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd, trais rhywiol ac arferion diwylliannol niweidiol
  6. Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein
  7. Cydlyniant Cymunedol
  8. Arferion Recriwtio Staff Mwy Diogel

Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar adrannau 1a 2 yn y canllaw.

A female teacher teaching a young student by his desk in a classroom

Ynghylch Diogelu yng Nghymru

Mae’r adran hon yn trafod y cyfrifoldeb sydd gan bob ysgol a choleg i: 

  • Leihau risgiau 
  • Weithredu i gadw plant yn ddiogel
  • Ddilyn y gyfraith
  • Ddilyn holl bolisïau, canllawiau a gweithrefnau lleol a chenedlaethol
  • Feddu ar eu polisïau a gweithrefnau diogelu eu hunain
  • Fod yn ymwybodol o anghenion diogelu yn eu hardal

Arolygir pob ysgol a choleg yng Nghymru gan Estyn, ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) mewn rhai achosion. Mae arolygwyr yn craffu ar sut mae’r sefydliad yn cadw pobl yn ddiogel ac yn gwirio eu polisi diogelu.

 

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Diogelu

Mae gan y canllaw gyfrifoldebau gwahanol ar gyfer pob sefydliad. Ar gyfer pwrpasau’r blog hwn byddwn yn canolbwyntio ar ysgolion a cholegau.

Cyrff Llywodraethu

Cyfrifoldeb cyrff Llywodraethu yw i: 

  • Sicrhau bod gan yr ysgol neu goleg bolisïau a gweithdrefnau diogelu 
  • Gynnal gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer staff a gwirfoddolwyr newydd 
  • Sicrhau bod pob aelod o staff wedi derbyn yr hyfforddiant diogelu diweddaraf
  • Sicrhau bod pob aelod o staff dros-dro yn ymwybodol o bolisïau diogelu’r sefydliad
  • Sicrhau bod yr Unigolyn Diogelu Dynodedig (DSP), y llywodraethwr dynodedig a chadeirydd y llywodraethwyr yn gweithio gyda’r Bwrdd Diogelu Plant a gwasanaethau eraill.

Dylai bod gan sefydliadau megis ysgolion a cholegau lywodraethwr dynodedig ar gyfer diogelu sy’n cymryd cyfrifoldeb dros amddiffyn plant. Mae’n hanfodol bod gan bob aelod o’r corff llywodraethu hyfforddiant diogelu ac amddiffyn plant o fewn eu tymor cyntaf a dylent gwblhau’r modiwlau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

A female teacher standing at the front of her classroom holding a whiteboard marker

Prif Athrawon, Penaethiaid, ac Arweinwyr

Mae’n rhaid i brif athrawon, penaethiaid ac arweinwyr sicrhau bod yr holl athrawon, staff a gwirfoddolwyr yn: 

  • Dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu’r sefydliad 
  • Derbyn adnoddau i gadw plant yn ddiogel 
  • Derbyn hyfforddiant diogelu 
  • Ymwybodol sut i godi pryder am blentyn yn y ffyrdd priodol 
  • Ymwybodol pwy yw’r DSP (Unigolyn Diogelu Dynodedig) a sut i gysylltu â nhw

Mae’n hollbwysig bod yr arweinwyr yn:

  • Hyrwyddo cyfathrebu agored rhwng staff a dysgwyr
  • Sicrhau bod mwy nag un DSP ar gael os yw maint yr ysgol ei angen
  • Sicrhau bod gan y DSP yr holl adnoddau a chefnogaeth sydd ei angen arnynt
  • Rhoi amser i’r DSP gymryd rhan mewn cyfarfodydd diogelu a helpu i wasanaethau eraill asesu anghenion plentyn

 

Unigolyn Diogelu Dynodedig (DSP)

Mae’n hanfodol bod pawb yn deall mai swyddogaeth y DSP yw i gadw plant yn ddiogel, i roi cyngor i ac i gefnogi staff gydag unrhyw gwestiynau diogelu sydd ganddynt; fodd bynnag, NID yw eu swyddogaeth yn cynnwys archwilio honiadau o gamdriniaeth. 

Mae’n rhaid i’r DSP:

  • Fod yn uwch aelod o staff, i allu gwneud penderfyniadau neu weithredu
  • Gael yr hyfforddiant diogelu mwyaf diweddar
  • Fod ar gael i drafod unrhyw bryderon
  • Wybod sut i adnabod arwyddion o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed, gan gynnwys camdriniaeth ar-lein
  • Wybod sut i adrodd pryderon i’r awdurdod lleol neu’r heddlu
  • Ddiweddaru’r prif athro gyda phob pryder amddiffyn plant

Dylai’r DSP: 

  • Gyfathrebu gyda dysgwyr a staff
  • Fod â’r wybodaeth ddiweddaraf am achosion neu bryderon cyfredol
  • Gael o leiaf un dirprwy i’w cefnogi
  • Weithio gyda gwasanaethau eraill fel eu bod yn ymwybodol o’r risgiau yn eu hardal
  • Wirio polisi ac ymarfer yr ysgol neu goleg o leiaf unwaith y flwyddyn
  • Sicrhau bod gan y staff, dysgwyr a’u teuluoedd yr holl wybodaeth sydd ei angen arnynt, mewn ffordd y byddant yn ei ddeall

A teacher reading to her class with pupils sat on the floor around her

Pob Athro, Staff a Gwirfoddolwr

Dylai pob athro, staff a gwirfoddolwr sy’n gweithio mewn sefydliad addysg: 

  • Ddeall polisi diogelu’r sefydliad
  • Dderbyn anwythiad a hyffroddiant atgoffa sy’n trafod diogelu
  • Ddeall achosion camdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o niwed
  • Allu adnabod arwyddion camdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o niwed
  • Wybod beth i’w wneud os oes ganddynt bryderon

Mae’n rhaid i bob aelod o staff dderbyn hyfforddiant gloywi ar ddiogelu bob dwy flynyedd, ac mae’n ddyletswydd i’r DSP gadw cofnod o holl hyfforddiant diogelu staff.

 

Partneriaethau Addysg Cychwynnol Athrawon

Yn aml mae ysgolion a cholegau’n paru gyda phrifysgolion ac yn derbyn athrawon sy’n fyfyrwyr. Dyma gyfres o gamau i sicrhau bod y myfyrwyr hyn yn ddiogel i weithio gyda phlant a phobl ifanc gan gynnwys:

  • Sicrhau bod gan athrawon sy’n fyfyrwyr gefnogaeth ar gyfer eu llesiant 
  • Datblygu arferion gweithio da ynghylch diogelu 
  • Bod yn ymwybodol o’r holl gyfreithiau a chanllawiau ynghylch diogelu

A group of children colouring at their desks within the classroom

Perchnogion Ysgolion Annibynnol

Mae’n rhaid i berchnogion ysgolion annibynnol sydd ddim yn brif athrawon: 

  • Gyfathrebu’n rheolaidd gyda’r prif athro
  • Fod â’r wybodaeth ddiweddaraf am bob mater diogelu.

Mae’n rhaid i ysgolion sydd yn cynnig llety i ddysgwyr gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae’r ysgolion hyn yn cael eu arolygu gan AGC ac Estyn.

 

Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith 

Mae’n rhaid i’r darparwyr hyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn ddiogel. Dylent:

  • Wirio bod pob aelod o staff yn ddiogel i weithio gyda phlant gan gynnwys cynnal gwiriadau Gwasnaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • Rhoi arweiniad ar ddiogelu
  • Gael prif swyddog diogelu dynodedig
  • Sicrhau bod pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant diogelu a chefnogaeth pan fo’i angen 

 

Contractwyr

Mae’n rhaid i unrhyw gontractiwr sy’n gweithio mewn ysgol neu goleg gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). 

Gallant ddefnyddio: 

 

Mae’r fersiwn gryno lawn o ganllaw Cadw Dysgwyr yn Ddiogel ar gael yma

Darllena Rhan 2 o’r gyfres YMA a darllena Rhan 3 o’r gyfres YMA.