Mae nifer o fanteision o fod yn diwtor. Yn y blog hwn byddwn yn rhestru’r manteision ac yn egluro pam ddylet ti diwtora gyda ni yn Equal Education Partners.
Beth yw Tiwtora
Tiwtora yw’r broses ble mae addysgwr yn rhoi cyfarwyddyd i unai dysgwyr unigol neu grŵp o ddysgwyr mewn pwnc penodol. Gall tiwtora gymryd lle mewn lleoliadau amrywiol o ddosbarthiadau i fod ar-lein a gall gael ei ddarparu gan athrawon, cyfoedion neu diwtoriaid proffesiynol.
Nôd tiwtora yw i gefnogi dysgwyr i wella eu sgiliau mewn pwnc penodol. Tra bod tiwtora wedi cael ei weld yn draddodiadol fel ffordd effeithiol o ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr sydd yn cael trafferthion neu angen dal fyny gyda maes academaidd neu bwnc penodol, gall hefyd fod yn ffordd effeithiol iawn i gynnig lefel uwch o ddealltwriaeth o bwnc ar gyfer y rheiny sydd eisiau rhagori.
Anghenion bod yn Diwtor gydag Equal Education Partners
I fod yn gymwys i fod yn diwtor gydag Equal Education Partners, mae’n rhaid i ti:
- Gael Statws Athro Cymwysiedig (SAC) neu brofiad perthnasol fel Tiwtor Preifat, CALU, Cymhorthydd Addysg, neu Oruchwyliwr Cyflenwi
- Gael o leiaf blwyddyn o brofiad dysgu (gyda phrofiad perthnasol yn dysgu dysgwyr Lefel A a/neu TGAU)
- Gael profiad o ddysgu neu marcio ar gyfer amryw o fyrddau arholi neu frwdfrydedd i ddysgu manylebau arholiad newydd ar gyfer y rôl
- Fod yn hyblyg i diwtora yn ystod y dydd ac yn gynnar gyda’r nos
Manteision bod yn Diwtor gydag Equal Education Partners
Mae tiwtora yn lwybr gyrfa sydd gan nifer o fanteision gwych ac unigryw na ellir eu cael mewn swyddi eraill o fewn y sector addysg.
Hyblygrwydd
Mae tiwtora yn dy alluogi i weithio o gwmpas unrhyw ymrwymiadau eraill megis astudio neu deulu. Galli hefyd gael yr opsiwn o diwtora wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, sydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd yn dy amserlen.
Datblygiad Proffesiynol
Gall tiwtora dy helpu i ddatblygu dy sgiliau dysgu a dulliau cyfathrebu drwy weithio gyda dysgwyr yn unigol neu mewn grwpiau bychain. Galli hefyd ddatblygu dealltwriaeth ehangach o’r pwnc wyt ti’n ei diwtora a dysgu i addasu dy arddull dysgu yn seiliedig ar faint o gefnogaeth sydd ei angen ar bob dysgwr. Yn Equal rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd a chyrsiau datblygiad proffesiynol am ddim i’n staff!
Cymer olwg ar y cyrsiau anwytho tiwtoriad hir neu fyr sydd ar gael i’r rheiny sy’n newydd i diwtora neu sydd angen eu hatgoffa.
Cyfleoedd Rhwydweithio
Mae tiwtora’n rhoi’r cyfle i ti weithio mewn ysgolion a cholegau gwahanol ac i gyfarfod dysgwyr o gefndiroedd amrywiol. Gall hyn arwain at gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr a dy alluogi i ddatblygu mwy o gysylltiadau proffesiynol ar gyfer dysgwyr ac ysgolion neu golegau sy’n chwilio am diwtoriaid.
Boddhad Personol
Gall tiwtora gael effaith eithriadol o gadarnhaol ar y dysgwyr yr wyt yn eu cefnogi. Fel tiwtor, cei llawer o foddhad personol o dy waith wrth helpu dysgwyr i wella eu graddau ac i fagu eu hyder.
Cefnogaeth
Os wyt ti’n tiwtora ar gyfer sefydliad fel Equal Education Partners, mae llawer o dasgau gweinyddol yn cael eu gwneud drosot, felly galli ganolbwyntio ar wella bywydau’r dysgwyr wyt ti’n eu tiwtora. O ddechrau blwyddyn academaidd 2022/2023 newidiodd rheoliadau tiwtoriaid ac erbyn hyn mae ein tiwtoriaid yn cael eu contractio drwy Equal Education Partners ac yn cael eu cyflogi ar system PAYE.
Bydd ein tîm tiwtora hefyd ar gael i dy gefnogi bob cam o’r ffordd.
Tiwtora gydag Equal
Oes gen ti ddiddordeb mewn tiwtora, neu wyt ti’n diwtor sy’n chwilio am asiantaeth i ymuno â hi? Yn Equal Education Partners, ar ben cynnig pecynnau tiwtora pwrpasol i ysgolion a cholegau, mae gennym hefyd nifer o gyfleoedd i diwtoriaid sy’n chwilio am waith.
Un fantais o diwtora gydag Equal yw’r ffaith bod gennym ddiddordeb mawr yn dy brofiadau a dy ddatblygiad proffesiynol. Mae pob un o’n tiwtoriaid yn unigolion pwysig sy’n gwneud gwaith yr ydym yn ei werthfawrogi, rwyt yn golygu mwy na rhif i ni. Byddwn yn sicrhau dy fod yn cael dy gefnogi ac yn cael yr hyfforddiant perthnasol yn ogystal â chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd i wella dy sgiliau tiwtora.
Bydd gweithio gyda ni yn osgoi’r straen o fod yn diwtor annibynnol oherwydd gallwn ni ofalu am yr ochr weinyddol o diwtora gan roi’r cyfle i ti ganolbwyntio ar y peth pwysicaf sef annog dysgwyr i ddatblygu sgiliau o dan dy arweiniad gofalus.
Cysyllta gyda ni nawr i ddod yn diwtor gydag Equal Education Partners!