O fewn y canllaw cwricwlwm newydd i Gymru mae tair sgil mandadol trawsgwricwlaidd sydd yn hanfodol i ddysgwyr. Yn y blog hwn, rydym yn trafod pob un o’r sgiliau trawsgwricwlaidd hyn a pham bod rhaid iddynt fod yn ganolog i gwricwlwm yr ysgol neu goleg.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru’n rhestru tair sgil trawsgwricwlaidd sydd yn hollbwysig i bob dysgwr:
- Llythrennedd
- Rhifedd
- Cymhwysedd Digidol
Mae’r sgiliau hyn yn fandadol ac yn allweddol gan eu bod yn galluogi dysgwyr i gael mynediad i amrediad eang o gwricwlwm yr ysgol a’r cyfleoedd mae’r cwricwlwm yn ei gynnig, gan eu harfogi gyda sgiliau gydol-oes i’w helpu i gyflawni’r pedwar diben.
Mae sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trosglwyddadwy y gall dysgwyr eu defnyddio yn eu gweithle, gan alluogi iddynt addasu a ffynnu fel oedolion.
Y Tair Sgil Trawsgwricwlaidd a Chwricwlwm yr Ysgol
Mae’n rhaid i ysgolion a sefydliadau addysg eraill sicrhau eu bod wedi datblygu cwricwlwm sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y dair sgil hyn. Mae’n rhaid iddynt hefyd gynnig cyfleoedd i ehangu a defnyddio’r sgiliau hyn ar draws y 6 maes o brofiad a dysgu.
Mae’n rhaid i ddysgwyr gael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:
- Ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, ysgrifennu a siarad
- Allu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go-iawn
- Fod yn hyderus wrth ddefnyddio nifer o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd
Mae’n hanfodol bod pob aelod o staff yn deall mai nid cyfrifoldeb unigol ymarferwyr mathemategm iaith a chyfrifiadureg yw i ddysgu’r sgiliau hyn, ond yn hytrach, y dylai’r sgiliau hyn fod yn rhan o’r cwricwlwm cyfan, felly, bydd yn gyfrifoldeb ar bob ymarferydd ar draws pob maes i ddatblygu a chryfhau’r sgiliau hyn.
Fframwaith Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Mae dwy fframwaith sy’n cydfynd ac yn unioni â chanllaw’r Cwricwlwm yng Nghymru;
- Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FLR)
- Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FCD)
Mae’r ddwy fframwaith yn cynnig canllawiau cefnogol ar gyfer gweithwyr addysg ar draws y 6 maes, gan sicrhau bod digon o gyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau pwysig hyn. Mae’r fframweithiau’n amlinellu agwedd gyffredin i gefnogi sefydliadau addysg a’u staff i sicrhau bod gan bob dysgwr gyfleoedd cyson i ddatblygu a defnyddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd hyn ar draws eu haddysg.
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Llythrennedd: Trawsieithu
Diffiniad: Y weithred a befformir gan unigolion dwyieithog wrth iddynt gael mynediad i nodweddion ieithyddol gwahanol neu foddau amrywiol o’r hyn a ddisgrifir fel ieithoedd annibynnol, er mwyn cynyddu potensial cyfathrebu.
Ymhen amser, bydd dysgwyr yn mynd drwy’r camau hyn:
- Deall gwybodaeth a gyflwynir mewn un iaith a’i gyfleu yn eu geiriau eu hunain mewn un arall
- Derbyn gwybodaeth mewn un iaith a’i addasu ar gyfer pwrpasau amrywiol mewn un arall
- Defnyddio sgiliau trawsieithu i gefnogi eu dysgu mewn ieithoedd maent yn eu gwybod a rhai nad ydynt yn eu gwybod
- Adnabod cyfleoedd trawsieithu’n annibynnol er mwyn cynyddu dysgu a chyfathrebu
Llythrennedd: Gwrando
Mae nifer o wahanol gamau i wrando y mae’n rhaid i ddysgwyr eu hystyried gan gynnwys:
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Llythrennedd: Darllen
Bydd gan ddysgwyr y canlynol:
- Ymwybyddiaeth ffonolegol a ffonemig
- Strategaethau darllen
- Dealltwriaeth, ymateb a dadansoddiad
Llythrennedd: Siarad
Rhennir siarad i nifer o Speaking is divided into many subsections including:
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Llythrennedd: Ysgrifennu
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y meysydd canlynol:
- Geirfa, sillafu, gramadeg
- Cysyllteiriau a chystrawen
- Atalnodi
- Cynllunio a threfnu ar gyfer gwahanol ddibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destunau
- Prawfddarllen, golygu a gwella
Rhifedd: Datblygu hyfedredd mathemategol
Bydd dysgwyr yn deall y syniadau canlynol:
- Dealltwiraeth gysyniadol
- Rhesymu rhesymegol
- Rhuglder
- Cymhwysedd strategol
- Cyfathrebu â symbolau
Rhifedd: Mae deall y system rif yn ein helpu i gynrychioli a chymharu’r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau
Bydd gan ddysgwyr hyder yn:
- Y system rif
- Perthnasoedd o fewn y system rif
- Cyfrifiad
- Llythrennedd ariannol
Rhifedd: Mae dysgu am geometreg yn ein helpu i ddeall siapiau, gofod a safle, ac mae dysgu am fesur yn ein helpu i feintoli yn y byd go-iawn
Bydd dysgwyr yn gallu defnyddio’r syniadau hyn mewn sefyllfaoedd go-iawn:
- Mesur
- Siâp a gofod
- Safle Position
- Ongl
Rhifedd: Mae dysgu bod ystadegau yn cynrychioli data a bod tebygolrwydd yn modelu siawns y ein helpu i wneud casgliadau a phenderfyniadau ar sail gwybodaeth
Bydd dysgwyr yn deall sut i:
- Gasglu data
- Gynrychioli data
- Ddehongli data
Gellir dod o hyd i’r fframwaith lawn yma.
Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Dinasyddiaeth
Bydd dysgwyr yn cael eu paratoi ar gyfer yr agweddau positif a negyddol o fod yn ddinasyddion digidol a byddant yn deall y syniadau canlynol:
- Hunaniaeth, delwedd ac enw da
- Iechyd a lles
- Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth
- Ymddygiad ar-lein a bwlio ar-lein
Rhyngweithio a chydweithio
Bydd dysgwyr yn craffu ar y dulliau canlynol o gydweithio a rhyngweithio digidol:
- Cyfathrebu
- Cydweithredu
- Cyfnewid a rhannu gwybodaeth
Cynhyrchu
Bydd dysgwyr yn deall yr elfennau digidol canlynol:
- Cyrchu, chwilio a chynllunio cynnwys digidol
- Creu cynnwys digidol
- Gwerthuso a gwella cynnwys digidol
Data a meddwl cyfrifiadurol
Bydd dysgwyr yn deall sut mae data a gwybodaeth yn cysylltu gyda’r byd digidol drwy’r syniadau hyn:
- Datrys problemau a modelu
- Llythrennedd gwybodaeth a data
Gellir dod o hyd i’r fframwaith lawn yma.