Mae Equal Education Partners yn falch o gyhoeddi partneriaeth farchnata newydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i hyrwyddo’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen rhifedd Multiply a ariennir gan Lywodraeth y DU.

Pontio’r bwlch gwybodaeth mathemateg

Mae’r rhaglen rhifedd Multiply yn fenter drawsnewidiol sydd â’r nod o wella sgiliau rhifedd ar draws y Deyrnas Unedig, gan rymuso oedolion 19 oed a hŷn, a allai fod wedi wynebu heriau gyda sgiliau rhifedd yn flaenorol ac nad oes ganddynt radd C mewn TGAU mathemateg (neu gyfwerth).

Gyda chefnogaeth y partneriaid darparu, Tydfil Training, Cyngor ar Bopeth Merthyr, a thîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor, mae Equal yn hyrwyddo’r gyfres o gyrsiau hygyrch a rhad ac am ddim i gymuned leol Merthyr Tudful, gan amlygu manteision gwybodaeth dda am rifedd a meithrin diwylliant o ddysgu gydol oes.

Mae’r cyrsiau i gyd wedi’u cynllunio i fagu hyder gyda rhifedd, gan roi cymorth a chymwysiadau ymarferol o fathemateg mewn meysydd fel cefnogi gwaith cartref eu plant, rheoli cyllid y cartref, a datblygu eu gyrfaoedd yn effeithiol.

 

Dyma oedd gan Owen Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr, i’w ddweud:

“Rwyf yn hynod o hapus bod Equal wedi sicrhau’r gwaith i hyrwyddo’r rhaglen Multiply ar draws Merthyr Tudful. Rydym yn ymdrechu i gael effaith gadarnhaol gyda’n holl bartneriaethau, ac nid yw’r gwaith hwn yn ddim gwahanol. Ochr yn ochr â’r Cyngor, Tydfil Training a Chyngor ar Bopeth Merthyr gallwn ni darparu gwasanaeth rhagorol i bobl ardal Merthyr.

Marchnata a Digidol yw’r adran ddiweddaraf o fewn Equal, gan adeiladu ar dros 12 mlynedd o gefnogi’r sector addysg. Mae sicrhau’r contract hwn yn dyst i arbenigedd a gwaith caled y rhai sy’n rhan o’r tîm. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid i ddarparu gwasanaeth marchnata eithriadol sydd yn y pen draw o fudd i bobl Merthyr Tudful.”

 

Chwilio am bartner i gefnogi eich anghenion marchnata? Cysylltwch â’r tîm heddiw: