Mae twf mewnol Equal Education Partners yn parhau gyda chyflogi Huw Jones, sy’n ymuno â ni fel Cyfarwyddwr Recriwtio. Gyda dros ddau ddegawd o brofiad ym maes recriwtio addysg, mae Huw yn arbenigwr profiadol sy’n barod i arwain cam nesaf twf cyffrous Equal.

Mae Huw yn ymgymryd â rôl ganolog yn goruchwylio holl weithgareddau recriwtio yn Equal. Mae hyn yn cynnwys cefnogi twf pellach ein tim recriwtio yn Abertawe, dan arweiniad Kelly Whiteway, ehangu cyrhaeddiad ein gwasanaeth staffio dros dro i leoliadau newydd, a chyflymu twf ein hadran recriwtio parhaol. Bydd Huw hefyd yn arwain llogi mewnol i dwf pellach ar draws holl feysydd y cwmni.

 

Bydd gwybodaeth helaeth Huw o’r sector a’i ddulliau blaengar yn allweddol i’n cenhadaeth barhaus o gysylltu gweithwyr addysg proffesiynol dawnus â’r ysgolion a’r sefydliadau addysg sydd angen eu harbenigedd.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn rolau yn Equal, neu weithio gydag un o’n hysgolion neu sefydliadau cleient, cysylltwch â Huw heddiw.


 

 

Mae’r tîm cyfan o fewn Equal yn gyffrous i groesawu Huw i’r tîm, yn bennaf oll ein Prif Swyddog Gweithredol, Liam Rahman:

 

“Ar ôl cysylltu â Huw i fesur ei ddiddordeb mewn ymuno â thîm Equal, rydw i’n hynod o hapus ei fod wedi cytuno i ymuno. Mae’n gamp wych arall i’r busnes i ddenu person o’i allu a bydd yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl. Bydd yn chwarae rhan enfawr wrth fynd â’n canghennau recriwtio parhaol a dros dro i’r lefel nesaf, gan osod yr ymgeiswyr gorau mewn rolau ar draws y sector addysg yma yng Nghymru a thu hwnt.

 

Yn ystod y cam nesaf hwn o dwf uchelgeisiol, mae’n hollbwysig bod gennym y cyfuniad cywir o brofiad a sgiliau i reoli ein busnes recriwtio amlochrog, sydd bellach yn rhychwantu lleoliadau ledled Cymru a thu hwnt, yn amrywio o ran mathau o sefydliadau cleient, ac yn cwmpasu lleoliadau dros dro a pharhaol. Mae creu rôl Huw yn dyst i’n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth eithriadol i gleientiaid ac ymgeiswyr.”

 

Ydych chi’n ysgol neu’n gwmni e-ddysgu sy’n edrych i ddod o hyd i’r dalent orau? Cysylltwch i weithio gyda Huw heddiw: