01792 277686 | 01554 777749 | 02920 697129
  • English
  • Mae’r blog hwn yn trafod enghreifftiau gwahanol o ddatblygiad proffesiynol a sut mae cyrsiau Academi Equal – sydd yn rhad ac am ddim – yn gallu dy helpu gyda dy ddatblygiad proffesiynol.

    Beth yw Datblygiad Proffesiynol?

    Mae datblygiad proffesiynol yn golygu sut mae unigolyn yn parhau addysg a hyfforddiant gyrfa er mwyn sicrhau eu bod yn dysgu’r sgiliau a’r tueddiadau diweddaraf fel y gallant ddatblygu eu gyrfa ymhellach. 

    Gall datblygiad proffesiynol ddigwydd ym mhob sector a maes gwaith; yn yr achos hwn, byddwn yn trafod datblygiad proffesiynol o fewn y sector addysg. Mae datblygiad proffesiynol yn hollbwysig ar gyfer addysgwyr er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn addysgwyr gwell, ac o ganlyniad yn cynnig profiad dysgu gwell i’r disgyblion sy’n cael eu haddysgu. 

    Enghreifftiau o Ddatblygiad Proffesiynol

    Gall datblygu proffesiynol ddigwydd drwy sawl math gwahanol o weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol. 

    Gall cyfleoedd datblygu proffesiynol ffurfiol gynnwys: 

    • Cynadleddau
    • Rhaglenni hyfforddiant
    • Gweithdai
    • Cyrsiau ar-lein

    Mae cyfleoedd datblygu proffesiynol anffurfiol yn bodoli hefyd, sy’n cynnwys: 

    • Cysgodi dosbarth cydweithiwr
    • Adborth gan gydweithwyr
    • Gwerthusiadau perfformiad
    • Trafodaethau am ddulliau dysgu newydd a diweddariadau canllawiau

    Er mwyn darllen mwy am ddatblygiad proffesiynol, cymer olwg ar ein blog Manteision Datblygiad Proffesiynol

    Cyfleoedd Datblygiad Proffesiyol gydag Academi Equal 

    Tra bod nifer o sefydliadau addysg yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol ar gyfer eu staff, beth alli di ei wneud os nad oes gen ti swydd dysgu “draddodiadaol” llawn-amser? 

    Yn Equal Education Partners rydym ni’n frwd am gynnig addysg gydol oes a chyfleoedd dysgu. Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddiant byw wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, cefnogaeth mentora a hyfforddiant, a chynnwys ar-alw yn ein academi ar-lein. 

    Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Athrawon

    Mae ein Acaedmi Equal ar-lein yn cynnig amrediad eang o gyrsiau ar-alw am ddim sydd yn trafod nifer o bynciau ar gyfer pob math o addysgwyr o Athrawon Newydd Gymhwyso i addysgwyr llawn-amser proffesiynol. 

    Anwytho Athrawon Newydd Gymhwyso

    Mae’r cwrs hwn am ddim ar gyfer pob athro newydd gymhwyso (ANG) i’w helpu i ddeall yr holl ddisgwyliadau ohonynt yn ystod eu blwyddyn gyntaf o ddysgu. Mae’r cwrs hwn yn trafod popeth o broffiliau sefydlu a phwyntiau gweithredu i restrau gwirio a dogfennau defnyddiol.

    Ymarfer Myfyriol

    Yn y cwrs hwn rydym yn trafod sawl tip ymarferol i addysgwyr fod yn fwy myfyriol yn eu ymarfer dysgu. Rydym hefyd yn mynd i fanylder ar sut all addysgwyr greu cyfrif FyCGA a’r ffyrdd gorau i gael mynediad i’w Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). 

    Y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru

    O Fedi’r 1af 2022, cyflwynodd Cymru gwricwlwm newydd fydd yn cymryd lle cyfnodau a chyfnodau allweddol gydag un cyfnod dysgu parhaus i bob plentyn a pherson ifanc rhwng oedran 3 ac 16. Mae ein cwrs yn torri’r cwricwlwm newydd i ddarnau bach, hawdd i’w deall i bob addysgwr. 

    Cwrs Hir neu Fyr Anwytho Tiwtor

    Yn Equal Education Partners rydym hefyd yn recriwtio tiwtoriaid rhan-amser i weithio mewn ysgolion a cholegau ar draws Cymru a Lloegr. Mae dau gwrs ar gael ar gyfer tiwtoriaid, gydag un yn cynnig cyflwyniad i diwtora yn Equal ar gyfer tiwtoriaid newydd, a chwrs atgoffa i diwtoriaid sydd wedi gweithio gyda ni o’r blaen. 

    Diogelu

    Mae gan addysgwyr gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion o fewn eu gofal yn ddiogel o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Yn ein cwrs diogelu byddi’n dysgu am y mathau o gamdriniaeth, adrodd pryder a sut i ymdrin â datgeliadau gan ddysgwyr. 

    Darllena fwy am ddiogelu yn ein blog YMA

    Tiwtora’n Effeithiol Ar-lein

    Wyt ti’n ei gweld yn heriol i gysylltu gyda dysgwyr ar-lein? Os hynny bydd ein cwrs yn dy alluogi i diwtora’n effeithiol ar-lein. Mae’r cwrs hwn yn trafod paratoi ar gyfer twitora ar-lein yn ogystal â rheoli’r dechnoleg a ddefnyddir yn gywir. 

    Defnyddio Cwestiynu Effeithiol i Annog Cynnydd Da

    Sicrha dy fod yn gofyn y cwestiynau cywir yn y dosbarth. Bydd y cwrs hwn yn dy helpu i ddeall sut i ddefnyddio cwestiynu effeithiol i annog cynnydd da yn dy ddosbarth. Rydym hefyd yn cynnig strategaethau defnyddiol i ti gael dy ddysgwyr yn perfformio ar eu gorau. 

    Diwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru

    Mae’r cwrs hwn yn cynnig trosolwg o ddeddfwriaeth diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Yn y cwrs hwn, rydym hefyd yn cysylltu i’r adnoddau pellach a’r hyfforddiant a gynigir gan Llywodraeth Cymru. 

    Mae ein cyrsiau datblygiad proffesiynol AM DDIM i holl staff Equal Education Partners. Cofrestra gydag Academi Equal nawr a dechrau ddilyn cyrsiau i wella dy ddatblygiad proffesiynol!