O fewn canllawiau’r cwricwlwm i Gymru mae pedwar diben y dylai cwricwlwm ysgolion a cholegau weithio tuag atynt. O fewn y blog hwn rydym yn trafod y pedwar diben a pham ei bod hi’n bwysig i ddysgwyr eu ymgorffori.
Beth yw’r Pedwar Diben?
Mae canllaw’r cwricwlwm i Gymru wedi ei greu i helpu ysgolion a cholegau ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Wrth ddechrau dylunio eu cwricwlwm dylai ysgolion a cholegau ddefnyddio’r pedward diben fel pwynt cychwynol ac ysbrydoliaeth, gan gefnogi eu disgwyr yn y pen draw i fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- Gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cefnogaeth i ddatblygu pob un o’r pedwar diben.
Dysgwyr Uchelgeisiol, Galluog
Y diben cyntaf yw i ddysgwyr ddatblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau.
Mae arwyddion eraill o ddysgwyr uchelgeisiol, galluog yn cynnwys:
- Gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
- Datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau
- Bod yn ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
- Gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maen nhw’n dysgu amdanyn nhw
- Gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
- Deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
- Defnyddio technolegau digidol yn greadigol i rhannu gwybodaeth, dod o hyd iddi a’i dadansoddi
- Ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol
- Parodrwydd i ddysgu drwy gydol eu bywyd
Cyfrannwyr Mentrus, Creadigol
Mae’r ail ddiben yn cyfleu’r angen i ddysgwyr ddatblygu sgiliau perthnasol er mwyn bod yn gyfrannwyr mentrus, creadigol i gymdeithas.
Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:
- Cysylltu ac chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynnyrch
- Meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
- Adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnyn nhw
- Mentro’n bwyllog
- Arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
- Mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
- Rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa
- Bod yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
Dinasyddion Egwyddorol, Gwybodus
Nôd y trydydd diben yw i blant a phobl ifanc ddatblygu i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd. Mae nodweddion eraill yn cynnwys dysgwyr sy’n:
- Canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
- Trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
- Deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd
- Deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
- Wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
- Parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
- Dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaladwyedd y blaned
Unigolion Iach, Hyderus
Y pedwerydd diben yw i ddysgwyr ddod yn unigolion sy’n iach a hyderus gyda sgiliau i reoli eu bywyd pob dydd mewn modd mor annibynnol â phosibl.
Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu:
- Gwerthoedd sicr a sefydlu eu credoau ysbrydol ac egwyddorol
- Meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
- Cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
- Gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
- Cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
- Gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
- Yr hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
- Ffurfio cydberthnasau cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
- Wynebu heriau ac yn eu goresgyn
- Parodrwydd i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Defnyddio’r Pedwar Diben i Ddatblygu’r Cwricwlwm
Mae’n hanfodol bod ysgolion ac ymarferwyr yn ystyried beth all y pedwar diben ei olygu ar gyfer eu dysgwyr wrth iddynt ddatblygu eu cwricwlwm. Dylai’r cwricwlwm hefyd gefnogi eu dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben a sut y byddant yn helpu dysgwyr i ddatblygu i fod yn oedolion eang eu gallu.
Wrth i ysgolion a cholegau ddatblygu eu cwricwlwm mae’n bwysig bod lleisiau’r dysgwyr yn ganolog i weledigaeth y sefydliad i gefnogi dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben. Dylai mewnbwn y disgyblion fod yn ystyriaeth bwysig drwy gydol datblygiad y cwricwlwm.