Yn y blog hwn byddwn yn trafod gwybodaeth am ddiogelu y dylet fod yn ymwybodol ohono fel addysgwr, gan gynnwys pam bod diogelu’n hanfodol, sut i ddiogelu plant a phobl ifanc, mathau o faterion diogelu a sut all hyfforddiant mewn diogelu dy helpu yn dy swydd.
Beth yw Diogelu?
Mae Deddfwriaeth Cadw Dysgwyr yn Ddiogel Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r cyfreithiau diogelu ac amddiffyn plant y mae’n rhaid eu dilyn gan bob sefydliad addysg yng Nghymru.
Yn y canllawiau, caiff diogelu ei ddisgrifio fel “amddiffyn plant rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.”
Beth yw’r Gwahaniaeth rhwng Diogelu ac Amddiffyn Plant?
Mae diogelu’n wahanol i amddiffyn plant oherwydd mae amddiffyn plant yn canolbwyntio ar amddiffyn plant unigol sy’n dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed, tra bod diogelu’n golygu’r “weithred o hyrwyddo llesiant plant a’u hamddiffyn rhag niwed”.
Mathau o Bryderon a Materion Diogelu
Gallai plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ddioddef nifer o bryderon diogelu amrywiol. Dyma restr o’r pryderon mwyaf cyffredin:
- Camdriniaeth gan gynnwys camdriniaeth gorfforol, emosiynol a rhywiol
- Camdriniaeth rhwng plant neu bobl ifanc o’r un oedran; a gyfeirir ato’n aml fel camdriniaeth rhwng cyfoedion neu gamdriniaeth plentyn i blentyn. Gall pwysau gan gyfoedion gael ei ystyried yn y categori hwn.
- Esgeulustod neu gamdriniaeth
- Bwlio
- Pryderon diogelwch ar-lein megis magu perthnasau amhriodol (“grooming”) neu seibr-fwlio
- Pryderon iechyd meddwl megis gorbryder neu straen
- Iselder, hunanladdiad neu hunan-niweidio
- Anhwylderau bwyta
- Pryderon yn ymwneud â gangiau megis rhedwyr cyffuriau, llinellau sirol neu gogio (“cuckooing”)
- Honiadau yn erbyn disgyblion eraill neu aelodau o staff
- Pryderon am aelodau o staff
- Camdrin sylweddau
- Egsbloetio plant troseddol ac egsbloetio plant yn rhywiol
- Radicaliaeth
10 Categori o Gamdriniaeth
Ymysg pryderon diogelu, mae TES hefyd yn rhestru 10 categori o gamdriniaeth sy’n cynnwys:
- Camdrin corfforol
- Camdrin seicolegol
- Camdrin rhywiol
- Esgeulustod
- Hunan-esgeulustod
- Camdrin ariannol neu faterol
- Camdrin gwahaniaethus
- Camdrin sefydliadol
- Caethwasiaeth fodern
6 Egwyddor Diogelu
Cyflwynwyd chwech egwyddor diogelu yn wreiddiol gan yr Adran Iechyd yn 2011 ond maent bellach yn rhan o’r Ddeddf Ofal.
- Grymuso: Cefnogi unigolion i wneud eu penderfyniadau eu hunain a chydsynio
- Atal: Gweithredu cyn bod niwed yn digwydd
- Cyfranoldeb: ymateb yn y ffordd lleiaf gormesol i’r risg a ymddengys
- Amddiffyn: cefnogi’r sawl sydd mewn angen
- Partneriaeth: rhwng sefydliadau gwahanol o fewn y gymuned
- Atebolrwydd: eglurder mewn polisïau ac ymarferiol diogelu
Beth yw Diogelu Plant?
Yn aml fel addysgwr, rwyt yn y sefyllfa orau i sylwi ar bryderon diogelu. Dy gyfrifoldeb di yw i adrodd unrhyw bryderon sydd gen ti am blentyn neu berson ifanc i’r unigolyn diogelu dynodedig (DSP) o fewn dy sefydliad.
Dylai bod gan bob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant bolisi diogelu yn ogystal â threfniadau diogelu penodol y dylai staff eu dilyn i nodi ac adrodd eu pryderon yn effeithlon. Dylai pob aelod o staff dderbyn hyfforddiant diogelu a dylent fod yn ymwybodol o bolisïau a phrosesau’r sefydliad yn y broses anwytho.
Nid ysgolion yn unig ddylai arddel polisïau diogelu cadarn, mae sefydliadau eraill sydd angen polisi diogelu’n cynnwys: ysbytai, clybiau chwaraeon, sefydliadau a chlybiau gwirfoddol a chymunedol, grwpiau crefyddol, darparwyr sector breifat a chyfleusterau gofal plant eraill y tu allan i ysgolion.
Ymyrraeth Gynnar
Ymyrraeth gynnar yw’r syniad o gael addysgwyr i gymryd “agwedd ragweithiol” tuag at ddiogelu, gan gynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc cyn bod perygl yn codi i’w llesiant neu ddiogelwch. Mae hyn yn groes i “agwedd adweithiol” ble mae’r ymyrraeth yn digwydd pan fo plentyn wedi dioddef o ryw fath o niwed i’w hunain neu eu llesiant.
Ffordd hawdd o hyrwyddo ymyrraeth gynnar yn dy sefydliad yw i adrodd a delio gyda phryderon “bychain” oherwydd gallant ddatblygu i fod yn bryderon diogelu enfawr. Er enghraifft, efallai bod athro yn sylwi bod Sion wedi dod i’r ysgol heb ginio a meddwl dim o’r peth. Fodd bynnag, efallai bod Sion yn mynd heb ginio drwy’r wythnos, sydd yn bryder diogelu. Os nad oes neb yn adrodd bod Sion heb ginio, efallai na fydd y staff yn deall bod hyn yn digwydd yn aml yn hytrach nag unwaith yn unig.
Wrth gofnodi ac adrodd pob math o bryderon “bychain” gallwn weld darlun ehangach o beth sy’n digwydd i’r plentyn hwnnw ac adnabod patrwm. Efallai bod Sion yn mynd heb ginio am ei fod yn anghofus, neu efallai ei fod yn cael ei esgeuluso, neu efallai bod ei deulu’n cael trafferth fforddio bwyd. Naill ffordd, oherwydd bod y pryder wedi ei gofnodi, gall systemau eu rhoi mewn lle i gefnogi Sion yn well.
Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol i ddiogelu oherwydd ei fod yn galluogi addysgwyr i helpu dysgwr yn gynnar cyn cyrraedd pwynt argyfwng. Gall datrys problemau bychan olygu bod rhai mwy ddim yn digwydd ar gyfer y dysgwyr hyn yn y dyfodol.
Diogelu yng Nghymru
Am fwy o wybodaeth am ddiogelu yng Nghymru a deddfwriaeth Cadw Dysgwyr yn Ddiogel gan y llywodraeth, galli ddarllen ein cyfres o flogiau tair rhan sydd yn torri pob adran o’r canllawiau i rannau bychan hawdd i’w deall.
- Cadw Dysgwyr yn Ddiogel: Canllawiau Llywodraeth Cymru Rhan 1
- Cadw Dysgwyr yn Ddiogel: Canllawiau Llywodraeth Cymru Rhan 2
- Cadw Dysgwyr yn Ddiogel: Canllawiau Llywodraeth Cymru Rhan 3
Sut all Hyfforddiant mewn Diogelu dy Helpu yn dy Swydd
Os wyt ti’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, rwyt yn gyfrifol am gadw’r sawl sydd o fewn dy ofal yn ddiogel rhag niwed. Mae ein cwrs diogelu yn Academi Equal yn trafod mathau o gamdriniaeth, adrodd pryder, a sut i ddelio gyda datgeliadau gan ddysgwyr.
Mae’r cwrs hwn wedi ei ddatblygu gan ddau aelod o dîm Equal. Roedd un yn arfer bod yn bennaeth ysgol gynradd gyda sawl blwyddyn o brofiad fel Person Diogelu Dynodedig, ac mae’r llall yn Berson Diogelu Dynodedig ar gyfer Equal ac yn dal i ddysgu mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Mae ein cwrs diogelu yn rhad ac am ddim i holl staff Equal!
Cer i’r cwrs am ddim nawr!