Mae Deddfwriaeth Cadw Dysgwyr yn Ddiogel Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r cyfreithiau diogelu ac amddiffyn plant y mae’n rhaid eu dilyn gan bob ysgol, coleg, bwrdd llywodraethu ac awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r blog hwn yn trafod adrannau 5, 6, 7 ac 8 o’r ddeddfwriaeth.
Canllaw Cadw Dysgwyr yn Ddiogel
Mae’r canllaw yn amlinellu’r canlynol ar gyfer ysgolion a cholegau:
- Beth sy’n rhaid ei wneud gan mai dyna’r gyfraith; a
- Beth ddylent ei wneud oherwydd ei fod yn rhan o’r canllaw hwn.
Rhennir fersiwn gryno’r canllawiau i wyth adran:
- Ynghylch diogelu yng Nghymru
- Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Diogelu
- Ymateb i Bryderon
- Diogelu mewn amgylchiadau penodol Safeguarding in specific circumstances
- Cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd, trais rhywiol ac arferion diwylliannol niweidiol
- Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein
- Cydlyniant Cymunedol
- Arferion Recriwtio Staff Mwy Diogel
Dyma drydedd rhan o gyfres tair rhan o flogiau am y Canllaw Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar adrannau 4, 5, 6, 7 ac 8 yn y canllaw. Darllena Rhan 1 YMA a rhan 2 YMA.
Diogelu mewn amgylchiadau penodol
Mae’n hollbwysig bod pawb sy’n gweithio o fewn y sefydliad yn gwybod sut i adnabod arwyddion bod plentyn mewn perygl o niwed, esgeulustod neu gamdriniaeth fel y gallant ddilyn polisi a gweithdrefn ddiogelu’r sefydliad er mwyn lleisio eu pryderon.
Dyma holl Ganllawiau Ymarfer Cymru:
- Diogelu plant rhag Camfanteisio Troseddol ar Blant (CCE)
- Diogelu plant rhag esgeulustod plant
- Diogelu plant rhag Camfanteisio Rhywiol ar Blant (CSE)
- Diogelu plant sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig
- Diogelu plant rhag arferion niweidiol sy’n ymwneud â thraddodiad, diwylliant, crefydd neu ofergoel
- Diogelu plant lle mae pryderon am Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (HSB)
- Diogelu plant sy’n mynd ar goll o gartref neu ofal
- Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein
- Diogelu plant y gellir eu masnachu
- Plant ar eu Pen eu hunain yn Ceisio Lloches (UASC)
Mae Cadw Dysgwyr yn Ddiogel hefyd yn rhestru achosion diogelu gwahanol yn ogystal â’r canllawiau y dylai ysgolion a cholegau gyfeirio atynt yn ystod yr amgylchiadau hynny. Mae’r rhestr yn cynnwys:
- Camdrin cyfoedion ac ymddygiad rhywiol niweidiol
- Delweddau camdrin plant a’r rhyngrwyd
- Plant ar goll o gartref neu ofal
- Bwlio
- Trosedd casineb
- Cynhwysiant a chymorth i ddisgyblion
- Plant yn colli addysg
- Plant mewn gofal
- Camddefnyddio sylweddau
- HUnanladdiad a hunan-niwed
- Cyswllt corfforol â disgyblion, gan gynnwys ataliaeth
Mae gan dudalennau 13, 14 a 15 o Cadw Dysgwyr yn Ddiogel restr lawn o ddolenni ac adnoddau ar gael i helpu diogelu plant ym mhob un o’r amgylchiadau hyn.
Camdrin domestig, trais ar sail rhywedd, trais rhywiol ac arferion diwylliannol niweidiol
Camdrin Domestig
Mae gan Llywodraeth Cymru nifer o ganllawiau i helpu addysgwyr wella eu dealltwriaeth o gamdrin domestig gan gynnwys:
- Strategaeth Genedlaethol a Fframwaith Cyflawni Traws-Lywodraethol
- Canllaw Ymarfer Da: Dull Addysg Gyfan o ymdrin â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru
- Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – Arweiniad i Lywodraethwyr.
Mae’n hollbwysig bod ysgolion a cholegau’n trafod camdrin domestig i helpu plant a phobl ifanc ei adnabod fel ymddygiad amhriodol. Os oes gan athrawon neu staff bryderon bod plentyn neu eu teulu’n profi camdrin domestig, dylent gysylltu gyda’r DSP yn syth.
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) a Phriodas Dan Orfod
Dylai staff ac athrawon fod yn ymwybodol y gellir mynd â merched dramor ar gyfer FGM a bod yn ymwybodol o arwyddion anffurfio organau cenhedlu benywod. Gweler y canllawiau canlynol:
- Canllawiau statudol aml-asiantaethol ar anffurfio organau cenhedlu benywod
- Adrodd gorfodol ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod — gwybodaeth weithdrefnol
Ceir cyngor cam-wrth-gam ar gael ar gyfer achosion o briodas dan orfod yn y Canllawiau ymarfer aml-asiantaethol: Ymdrin ag achosion o Briodas dan Orfod
Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein
Mae ardal Cadw’n Ddiogel Ar-lein ar Hwb, sy’n cynnwys offerynnau ac adnoddau ar-lein i gefnogi ysgolion a cholegau i cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein. Mae adnoddau eraill yn cynnwys:
Ffrydio gwersi’n fyw
Gellir darganfod cyngor ac arweiniad ar gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel wrth ffrydio gwersi’n fyw yma:
Rhannu delweddau
Gall rhannu delweddau achosi embaras, bwlio ac egsbloetio’r sawl sydd yn y delweddau. Mae arweiniad a chyngor ar gael ar:
- Secstio: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu dysgwyr
- Diogelwch Ar-lein: Pum cwestiwn allweddol i gyrff llywodraethu
- Adrodd am Gynnwys Niweidiol
- Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein Gweithwyr Proffesiynol (POSH)
- Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb
Mae Childline wedi datblygu offeryn adrodd a thynnu sydd yn galluogi pobl ifanc i adrodd delwedd a’i ddileu oddi ar y rhyngrwyd.
Cydlyniant Cymunedol
Rhoi’r gorau i radicaleiddio
Mae rhoi’r gorau i radicaleiddio plant a phobl ifanc yn rhan o ddiogelu. Dylai ysgolion a cholegau fod yn ymwybodol bod nifer o ffactorau all ddylanwadu ar ddiddordebau plentyn bregus a bod newidiadau penodol mewn ymddygiad y gellir eu hadnabod. Pan fo ideolegau’n dod i’r amlwg dylid cysylltu gyda’r DSP.
Mae’n hanfodol bod pob polisi diogelu’n cynnwys radicaleiddio ac eithafiaeth. Ceir arweiniad pellach gan:
- Canllawiau ar Ddyletswydd Atal: ar gyfer Cymru a Lloegr
- Canllawiau ar ddyletswydd atal: ar gyfer sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a Lloegr
- Gwrthsafiad a Pharch: Datblygu cydlyniant cymunedol — dealltwriaeth gyffredin i ysgolion a’u cymunedau
- Creu Cymunedau Dysgu Diogel
Y Ffurflen Atgyfeirio
Os yw’r DSP yn meddwl bod plentyn mewn perygl o gael eu radicaleiddio, dylent ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Atal Cymru Gyfan.
Arferion Recriwtio Staff Mwy Diogel
Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i bob aelod o staff dysgu a staff cefnogol gael eu cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) os ydynt yn un o’r categorïau cofrestru. Mae’n rhaid i sefydliadau addysg wirio hyn cyn eu bod yn cyflogi unrhyw un.
Athrawon Cyflenwi
Annogir ysgolion a cholegau i ddefnyddio asiantaethau cyflenwi sydd ar fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Mae’n rhaid i statws DBS athrawon cyflenwi gael eu gwirio gan yr asiantaeth a’r ysgol neu goleg, ac ni ddylai’r naill na’r llall gymryd yn ganiataol bod gwiriad wedi ei wneud gan y sefydliad arall. Mae’n rhaid i staff cyflenwi gael eu cofrestru gyda’r CGA.
Chwythu’r Chwiban
Dylai bod gan pob corff llywodraethu bolisi chwythu’r chwiban. Gellir dod o hyd i arweiniad gan:
- Gweithdrefnau ar gyfer Chwythu’r Chwiban mewn ysgolion a Pholisi Enghreifftiol
- Llinell gymorth chwythu’r chwiban NSPCC
Mae’r fersiwn gryno lawn o ganllaw Cadw Dysgwyr yn Ddiogel ar gael yma.
Darllena Rhan 1 a 2 o’r gyfres.