Fel addysgwr, mae’n bwysig i gadw llygad am gyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygiad.Mae’r blog hwn yn trafod manteision datblygiad proffesiynol a pam bod datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol ar gyfer dy yrfa.
Beth yw Datblygiad Proffesiynol?
Mae’r term datblygiad proffesiynol yn cyfeirio at gyfleoedd y mae pobl yn cymryd rhan ynddynt er mwyn gwella eu sgiliau a’u ymwybyddiaeth, yn ogystal â gwella eu gallu o fewn eu maes arbenigol neu waith.
Enghreifftiau o Ddatblygiad Proffesiynol
Gall datblygiad proffesiynol ddigwydd drwy sawl math o weithgaredd gan gynnwys y canlynol a mwy:
- Rhaglenni hyfforddiant
- Gweithdai
- Cyrsiau a chymwysterau
- Cynadleddau
- Profiadau addysg eraill
Gall enghreifftiau llai ffurfiol o ddatblygiad proffesiynol gynnwys:
- Adolygiadau Cymheiriaid
- Derbyn adborth gan gydweithiwr
- Cysgodi dosbarth neu gyflwyniad gan gydweithiwr
- Siarad gyda chydweithwyr am sgiliau newydd a diweddariadau o fewn y maes
Manteision Datblygiad Proffesiynol
Mae cyfleoedd datblygiad proffesiynol yn hanfodol er mwyn i bobl proffesiynol fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes yn ogystal â chaniatau iddynt ddysgu sgiliau a thechnegau newydd, ac i ehangu ar eu harbenigedd.
Yn aml mae datblygiad proffesiynol yn cael ei weld fel agwedd pwysig ar gyfer gwneud cynnydd mewn gyrfa, a gall hefyd fod yn fanteisiol ar gyfer sefydliadau oherwydd mae’n helpu gweithwyr i fod yn gyfredol ac yn rhagweithiol. Gall datblygiad proffesiynol fod yn eithriadol o werthfawr beth bynnag yw dy sefyllfa, o fod yn gynnar yn dy yrfa i fod yn brofiadol ac yn meddu nifer o sgiliau ond eisiau gwneud cynnydd o fewn dy yrfa.
Pam fod Datblygiad Proffesiynol yn Bwysig i Addysgwyr?
Mae addysgwyr yn gyfrifol am ddysgu a datblygiad plant, pobl ifanc ac oedolion o fewn eu gofal. O ganlyniad, os wyt ti’n dysgu, mae’n hanfodol dy fod yn parhau i ddysgu a datblygu. O fewn y sector addysg mae dysgu proffesiynol yn cyfeirio at y cyfleoedd dysgu a hyfforddiant parhaus y mae staff dysgu, gweinyddwyr ysgol ac unigolion eraill sy’n gweithio o fewn addysg yn cymryd rhan ynddynt er mwyn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y maes.
Mae datblygiad proffesiynol ar gyfer pobl o fewn y proffesiwn addysg yn hanfodol oherwydd mae’n sicrhau dy fod yn gwybod am y dulliau addysgu, canllawiau llywodraeth, technoleg newydd ac arfer da diweddaraf, a gall hefyd helpu i wella sgiliau o fewn meysydd penodol ac arbenigol megis y cwricwlwm newydd, diogelu, neu anghenion dysgu ychwanegol.
Manteision Datblygiad Proffesiynol i’r Ysgol
Mae sicrhau bod eich staff yn parhau eu datblygiad proffesiynol yn allweddol ar gyfer ysgolion, colegau a sefydliadau addysg eraill. Os yw’r staff yn ymwybodol o’r tueddiadau, canllawiau a’r dulliau dysgu diweddaraf yna galli sicrhau bod y dysgwyr dan gyfrifoldeb yr unigolion gorau.
Mae sefydliadau addysg yn falch o’u llwyddiannau ac mae’r gallu i hyrwyddo bod staff yn cael gweithredu’n ymarferol yn ogystal ag ymrwymo i’w dysgu a’u datblygiad proffesiynol eu hunain yn gyfle heb ei ail.
Sut alla i wella fy Natblygiad Proffesiynol?
Mae nifer o ffyrdd y gellir eu archwilio wrth ystyried dysgu proffesiynol a chyfleodd i staff ddatblygu. Os wyt ti’n athro cyflenwi neu’n diwtor neu’n rhywun sydd ddim yn dysgu’n llawn-amser, mae opsiynau ar gael.
Yn Equal Education Partners rydym ni’n frwdfrydig am addysg a chyfleoedd dysgu gydol-oes. Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddi wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, cefnogaeth mentora a hyfforddiant, a chynnwys ar-alw o’n academi ar-lein.
Darllena fwy YMA am y cyrsiau ar-lein am ddim yr ydym ni’n eu cynnig drwy Academi Equal a sut allant dy helpu gyda dy ddatblygiad proffesiynol.
Cofrestra gydag Academi Equal a dechreua ddilyn cyrsiau er mwyn gwella dy ddatblygiad proffesiynol nawr!