01792 277686 | 01554 777749 | 02920 697129
  • English
  • Beth yw MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru?

    Mae rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru yn rhaglen effeithiol a thrawsffurfiol unigryw, sydd yn dod â hyfforddwyr STEM arbenigol o Massachusetts Institute of Technology (MIT) i ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd staff ar draws Cymru.
    Trwy’r fenter partneriaethiol hon, nod Llywodraeth Cymru, MIT ac Equal Education Partners yw i gynyddu ymgysylltiad â phynciau STEM trwy archwilio materion y byd go iawn ac i rymuso dysgwyr i ymdrechu i gyflawni eu potensial llawn yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
    Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer rhaglen 2025. Ydych chi’n ysgol neu’n goleg yng Nghymru a fyddai’n hoffi gwella ymgysylltiad â phynciau STEM trwy weithio gyda myfyrwyr-hyfforddwyr arbenigol o MIT?
    I wneud cais i raglen 2025, cliciwch yma.

     

    Fideo Rhaglen MIT GTL 2023

     

     

    Trosolwg o raglen MIT GTL 2024

    Yn ogystal â chynnal hyfforddwr o MIT (prifysgol gwyddoniaeth a thechnoleg mwyaf blaenllaw’r byd) i gyflwyno gweithdai a phrosiectau rhyngddisgyblaethol, tiwtora a dosbarthiadau meistr i’ch myfyrwyr, mae prosiect eleni yn cynnig y cyfle i weithio gyda’ch arbenigwr MIT i ddylunio a datblygu’r cwricwlwm yn unol â nodau’r Cwricwlwm newydd.

    Hefyd, byddwn yn ehangu cronfa adnoddau digidol y rhaglen ymhellach ac yn cynnig cyfle unigryw i addysgwyr STEM i gymryd rhan mewn cwrs Dysgu Proffesiynol pwrpasol gyda MIT sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer athrawon yng Nghymru – Arloesi mewn Addysg ac Addysgu Heddiw

    Cliciwch yma i gwrdd â’n carfanau presennol a blaenorol o hyfforddwyr GTL yng Nghymru.

     

    Sesiwn wybodaeth GTL yng Nghymru MIT 2025

    Byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein a chyfle i rwydweithio yn benodol ar gyfer GTL yng Nghymru MIT 2024. Bydd hyn yn digwydd ar ddydd Mercher 2il Hydref am 4yh.

    Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o GTL yng Nghymru MIT i ysgolion a cholegau sy’n newydd i’r prosiect, ac yn hysbysu ysgolion a cholegau blaenorol am ddiweddariadau a disgwyliadau sy’n newydd i 2024.

    Yn ogystal â hyn, bydd Greg Schwanbeck, darlithydd o Raglen Addysg Athrawon Scheller MIT a chreawdwr ac arweinydd y rhaglen bwrpasol Arloesedd mewn Addysg ac Addysgu Heddiw yn ymuno â ni. Bydd Greg yn cyflwyno’r rhaglen Arloesi mewn Addysg ac Addysgu Heddiw ac yn rhoi trosolwg o’r hyn y gallai’r rhai sydd â diddordeb ei ddisgwyl.

    I gofrestru eich diddordeb yn y sesiwn wybodaeth hon, llenwch y ffurflen gyswllt fer yma.


    Cyrhaeddiad yn 2023

    12
    myfyrwyr MIT yn gweithio fel hyfforddwyr GTL yng Nghymru yn 2024
    34
    ysgolion a cholegau a gymerodd ran yn rhaglen GTL yng Nghymru 2024
    3,500+
    dysgwyr ar draws pob un o bedwar rhanbarth Cymru yn gweithio'n uniongyrchol gyda hyfforddwyr MIT GTL yng Nghymru