Er bod ein rhaglen Global Teaching Labs yng Nghymru 2023 yn dod i ben ar ddydd Mawrth 31ain o Ionawr, nid dyma’r cyfle olaf i chi ddysgu gan ein carfan 2023 o hyfforddwyr MIT! I ddod â’r rhaglen i ben, byddwn yn cynnal digwyddiad Cyfres Siaradwyr am 5 diwrnod.

Ymunwch â ni am 5 diwrnod o drafodaethau panel gyda’n carfan o hyfforddwyr MIT 2023 sy’n canolbwyntio ar bopeth STEM!

Cewch gyfle i ofyn cwestiynau yn ymwneud â bywyd yn MIT, menywod mewn STEM, y tu hwnt i’r pynciau craidd STEM, a mwy. Mae’r gyfres hon o ddigwyddiadau yn agored i ddysgwyr o bob oed, addysgwyr, rhieni/gofalwyr, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb. 

Bydd pob noson yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol felly sicrhewch eich bod yn cofrestru ar gyfer pob un yr ydych yn dymuno mynychu.

  • Dydd Llun 13eg o Chwefror – Bywyd fel Myfyriwr yn MIT
  • Dydd Mawrth 14eg o Chwefror – Effaith STEM: Pam cymryd rhan mewn STEM?
  • Dydd Mercher 15fed o Chwefror – Merched mewn STEM
  • Dydd Iau 16eg o Chwefror – Y tu hwnt i’r pynciau STEM craidd
  • Dydd Gwener 17eg o Chwefror – Adeiladu Profiad Proffesiynol yn y Brifysgol