Yn dilyn llwyddiant rhaglenni Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren yn 2020 a 2021, mae Llywodraeth Cymru yn gefnogi ehangiad y rhaglen i weithio gyda hyd at 400 o fyfyrwyr Lefel A mwyaf disglair Cymru ym mis Gorffennaf 2022.

Adborth myfyriwr o 2021:

“Cefais gymryd rhan mewn darlithoedd mor ddiddorol am destunnau nad oeddwn i erioed wedi dod ar ei traws o’r blaen! Roedd trafod a dadlau gyda disgyblion eraill wir yn agoriad llygad ac wedi fy ngwthio i feddwl yn gritigol a chyfrannu syniadau. Cefais brofiad gwbl wych ar ddiwedd yr ysgol haf o gyflwyno’m prosiect o flaen arbennigwyr yn y maes gan gynnwys bargyfiethwr a tiwtor perthnasau rhyngwladol”

 

2022 Overview

Yn 2022, bydd Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren yn cael ei darparu ar y cyd gan Coleg yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen a Equal Education Partners, ar ran Academi Seren Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen yn cynnwys pedair ffrwd pwnc, fel y ganlyn:

1. Dyniaethau

2. Mathemateg, ffiseg a gwyoddorau bywyd

3. Meddygaeth a gwyddorau biofeddygol

4. Gwyddorau cymdeithasol a’r gyfraith

Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd wedi’u cyflwyno gan yr academyddion gorau, seminarau & gweithdai wedi’u hwyluso a dysgu gan hyfforddwyr o brifysgolion gorau Cymru, prifysgolion eraill y DU a phrifysgolion byd-eang, tiwtorialau, sesiynau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a gweithgareddau eraill.

 

Cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion diweddar o brifysgolion Cymru, prifysgolion eraill yn y
DU a phrifysgolion byd-eang

Mae Coleg yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen a Equal Education Partners nawr am recriwtio tîm o hyd at 15 hyfforddwyr sy’n cynnwys unigolion cryf eu cymhelliant o brifysgolion gorau Cymru, y DU a ledled y byd, i ddysgu seminarau a chyfrannu at weithgareddau eraill i gyfoethogi rhaglen Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein Seren 2021. Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb wneud cais gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://equaleducation.typeform.com/to/tjeiBuq3 (Cymraeg) neu https://equaleducation.typeform.com/to/QmFTMORx (Saesneg)

 

Manylion y swydd

  • Teitl y Swydd: Hyfforddwr Myfyrwyr Ysgol Haf/Arweinydd Seminar
  • Dyddiadau: 18fed — 29ain o Orffennaf 2022
  • Cyflog: £10.65 yr awr (Cyflog Byw Cenedlaethol ynghyd â thâl gwyliau)
  • Ymrwymiad: 16 awr/wythnos am dair wythnos
  • Cymhwysedd: Mae’r swydd yma ar agor i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a graddedigion diweddar o bob disgyblaeth

(Bydd y cynigion yn amodol ar sicrhau gwiriad DBS llawn)

 

Cyfrifoldebau

  • Paratoi a darparu gwersi a gweithdai sydd yn addas yn academaidd, yn diddorol ac yn ennyn
    brwdfrydedd i gyfrannu at y rhaglen academaidd o fewn un neu fwy o’r pedair ffrwd pwnc sydd
    ar gael fel rhan o’r rhaglen;
  • Cefnogi dysgwyr i ennyn diddordeb ac archwilio cynnwys darlithoedd a gyflwynir gan
    academyddion;
  • Cefnogi dysgwyr i ffurfio eu prosiect ysgol haf (traethodau ysgrifenedig neu gyflwyniadau);
  • Cefnogi’r tîm cyflwyno prosiect i asesu a darparu adborth ar draethodau ysgrifenedig a
    chyflwyniadau;
  • Cyfrannu at gydrannau ychwanegol (anacademaidd) y prosiect e.e. sesiynau gwybodaeth,
    cyngor ac arweiniad, paneli myfyrwyr, teithiau rhithwir prifysgol, mentora ac ati;
  • Cydweithio â hyfforddwyr eraill a thîm cyflawni’r prosiect; a
  • Dyletswyddau perthnasol rhesymol eraill yn ôl yr angen

 

Proses Ymgeisio
Gwnewch gais trwy lenwi’r ffurflen gais canlynol cyn 5yh, 28ain o Chwefror 2022:
https://equaleducation.typeform.com/to/tjeiBuq3 (Cymraeg)
https://equaleducation.typeform.com/to/QmFTMORx (Saesneg)

 

Manylion Cyswllt
Am fwy o wybodaeth am y cyfle yma, cysylltwch gyda Rebecca Martin neu Lois Williams o Equal
Education Partners:

Rebecca Martin
Rheolwr Prosiect
Equal Education Partners
rebecca.martin@equaleducationpartners.com

 

Lois Williams
Rheolwr Prosiect
Equal Education Partners
lois.williams@equaleducationpartners.com

 

+44 1554 777749 / +44 2920 697129