Yn 2021, bydd 39 o ddysgwyr Seren o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yn Yale Young Global Scholars (YYGS) trwy Bartneriaeth Seren-YYGS hynod unigryw a ariennir ar y cyd.

Rhaglen cyfoethogi academaidd yw YYGS ar gyfer myfyrwyr ysgol uwchradd rhagorol o bedwar ban byd. Bob haf, mae myfyrwyr o dros 130 o wledydd yn cymryd rhan mewn cwrs rhyngddisgyblaethol dros bythefnos ar gampws hanesyddol Iâl. Ers 2020, mae YYGS wedi’i ddarparu ar-lein o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Mae YYGS yn pwysleisio dull agored, archwiliadol a chydweithredol o ddysgu. Cynlluniwyd y rhaglen i ganiatáu fyfyrwyr i brofi dysgu mewn amrywiaeth o wahanol gyd-destunau prifysgol, o ddarlithoedd mawr i seminarau bach.

Mae myfyrwyr sy’n mynychu YYGS yn cofrestru i un o’r pedwar trac academaidd rhyngddisgyblaethol canlynol:

  • Arloesi mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Llenyddiaeth, Athroniaeth a Diwylliant
  • Gwleidyddiaeth, y Gyfraith ac Economeg
  • Datrys Heriau Byd-eang

Am fwy o wybodaeth am YYGS, ewch i globalscholars.yale.edu