Ym mis Tachwedd cynhaliodd ein tîm Dysgu Proffesiynol ddwy sesiwn wyneb-yn-wyneb ar Ddiwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.

Roedd y sesiynau hyn dan arweiniad Neil Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Addysgu a Dysgu, a Lindsey Dawson, Uwch Gysylltydd STEM a Dysgu Proffesiynol, yn llwyddiannus dros ben yn ôl y staff a fynychodd y sesiynau. 

Roedd y sesiwn yn “Rhannu gwybodaeth hollol ddefnyddiol am ddiwygiad ADY a sut mae’n wahanol i o’r blaen.”

Cafodd y sesiynau eu hanelu at yr holl staff addysgu a chymorthyddion dysgu sydd yn gweithio gydag Equal mewn unrhyw ffordd. Canolbwynt y sesiynau oedd deall beth all newidiadau y Diwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol ei olygu ar gyfer pob unigolyn yn eu cyd-destun dysgu hwy.

Cyflwynodd Lindsey a Neil elfennau allweddol o’r ddogfennaeth newydd a gwnaethant egluro sut y bydd yn effeithio athrawon a chymorthyddion dysgu yng Nghymru ynghlwm â’r Cwricwlwm Newydd. Wedi hyn, croesawodd y sawl a fynychodd y cyfle i gydweithio a rhannu eu profiadau. 

Dywedodd Lindsey Dawson, Uwch Gysylltydd STEM a Dysgu Proffesiynol: “Roedd y sesiwn yn trafod Diwygiad ADY newydd yng Nghymru a chafodd y staff wybodaeth allweddol am newidiadau mewn deddfwriaeth yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar effaith hyn ar eu gwaith o ddydd-i-ddydd mewn ysgolion, colegau neu unedau cyfeirio disgyblion. Heb yr hyfforddiant hwn, gall fod yn anodd i staff cyflenwi dderbyn gwybodaeth am yr fath newidiadau, yn enwedig os ydynt ar leoliadau byr-dymor. Gobeithiwn bod staff cyflenwi yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gydag unrhyw newidiadau mewn addysg drwy’r hyfforddiant yr ydym yn ei gynnig, a dyma un enghraifft yn unig o hynny.”

Cynhaliwyd y ddwy sesiwn yn Ysgol Gynradd Cwm Glas Colwyn Ave ar ddydd Mawrth 8fed Tachwedd ac yn Swyddfa Llanelli Equal dydd Iau 10fed Tachwedd.

I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd dysgu proffesiynol Equal, cysylltwch â Lindsey.dawson@equaleducationpartners.com