Isafswm cyfradd tâl newydd ar gyfer athrawon cyflenwi cymwys!
Mae Equal Education Partners yn cael ei argymell gan gytundeb fframwaith newydd Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaehtol ar gyfer staff cyflenwi yng Nghymru ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol.
Rydym wedi ymrwymo i dalu’r isafswm cyfradd tâl uwch newydd o £138.56 y dydd (cynllun Talu Wrth Ennill yn cael ei dalu yn misol) ar gyfer athrawon cyflenwi o fis Hydref 2020. Mae hyn yn hanfodol ac yn unol â pholisi cyflog teg Llywodraeth Cymru ar gyfer athrawon cyflenwi.
Rydym yn cysylltu’n agos â’n hysgolion, y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion i hyrwyddo hyn i sicrhau bod y codiad cyflog hwn yn effeithiol ac yn cael ei weithredu’n llawn.