Drwy’r bartneriaeth hon, mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cymryd camau rhagweithiol i gynyddu’r gefnogaeth a gynigir i’w dysgwyr drwy raglenni tiwtora unigryw. Rhagfynegir y bydd tua 350 o ddysgwyr yn elwa o’r tiwtora a gynigir gan Equal.

Tra bod ysgolion a cholegau yn dal i deimlo effeithiau Covid-19 a sawl cyfnod clo, mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi gweithredu er mwyn cynnig cymorth rhagweithiol i’w dysgwyr drwy’r bartneriaeth tiwtora hon gydag Equal education Partners. Bydd Equal yn cefnogi anghenion dysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro drwy becynnau tiwtora amrywiol sydd wedi eu dylunio i gefnogi datblygiad dealltwriaeth pwnc a sgiliau arholiad. 

Dywedodd Yusuf Ibrahim, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: ‘Mae ymateb i anghenion dysgwyr yn hollbwysig yma yng NghCAF. Mae effaith y pandemig wedi’n arwain ni i feddwl yn feirniadol am sut rydym yn cefnogi dysgwyr wrth ddysgu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i wneud cynnydd pellach. Rydym wrth ein boddau i gael gweithio gydag Equal Education Partners, sydd yn adnabyddus am gynnig digwyddiadau cyfoethogi safon uchel, megis rhaglen Global Teaching Labs yn ogystal â chefnogi dysgwyr gyda thiwtora ychwanegol. Bydd darparu’r gefnogaeth ychwanegol yma yn cynyddu eu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol heb os. Bydd y gefnogaeth yn adeiladu ar yr addysg arbennig y mae dysgwyr y ei gael o ddydd-i-ddydd, gan roi mwy o hyder iddynt baratoi ar gyfer asesiadau.’

Yn dilyn pandemig Covid-19, mae Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu ei addewid i gefnogi dysgwyr difreintiedig, codi safonau a datblygu cymhelliant dysgwyr, sgiliau astudio annibynnol a llesiant. 

Drwy ffurfio partneriaeth gydweithiol, bydd gwaith tiwtora Equal yn cyfrannu yn sylweddol i gynnydd Coleg Caerdydd a’r Fro yn y tri maes allweddol hyn. 

Bydd pob dysgwr ar ran gwahanol o’u siwrnai mewn addysg a bydd ganddynt anghenion gwahanol yn ogystal â bod angen lefelau gwahanol o gefnogaeth. O’r herwydd, bydd rhaglen diwtora Equal yn cael ei ddarparu i ddysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro drwy dair haen o gefnogaeth tiwtora, pob un wedi ei deilwra i bob dysgwr unigol a’u anghenion. 

Mae’r tri pecyn yn cynnwys:

  1. Tiwtora Uwchraddiol – 5 awr o diwtora ar gyfer dysgwyr sydd angen cywreinio er mwyn cyrraedd eu llawn botensial
  2. Tiwtora Ychwanegol – 10 awr o diwtora ar gyfer dysgwyr sydd angen cefnogaeth sylweddol gyda sgiliau arholiad
  3. Tiwtora Ymyrrol – 20 awr o diwtora ar gyfer dysgwyr sydd angen cefnogaeth angenrheidiol gyda gwybodaeth a sgiliau arholiad

Bydd tîm Tiwtora Equal yn addasu i unrhyw anghenion sydd yn datblygu gan ddysgwyr, gyda’r gallu i gynnig hyblygrwydd ble mae anghenion dysgwyr yn ychwanegol neu yn wahanol i’r hyn a gynigir o fewn y pecynnau, yn ogystal ag ehangu er mwyn cynyddu y gwasanaeth pe bydd angen.

Mae’r mwyafrif o diwtoriaid Equal yn athrawon cymwys a bydd rheolwyr recriwtio profiadol Equal yn sicrhau bod eu addysgwyr mwyaf safonol yn llwyddiannus wrth weithio gydag Equal, gan weithio yn unol ag ymarferion recriwtio diogel a’n proses Recriwtio, Dewis ac Archwilio achrededig. 

Mae Equal ar y ffordd i dreblu faint o diwtora fydd yn cael ei gynnig i ddysgwyr difreintiedig yn 2022/2023 o’i gymharu â’r flwyddyn academaidd flaenorol. 

Dywedodd Neil Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Addysgu a Dysgu: ‘Yn Equal, credwn bod tiwtora yn arf cefnogol y gall ysgolion a cholegau ei ddefnyddio i helpu eu dysgwyr i gau bylchau dysgu, i ddal i fyny ac i adfer eu dysgu wedi dwy flynedd a hanner anodd yn ystod ac ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, rydym hefyd yn credu bod tiwtora yn cefnogi dysgwyr i herio dysgwyr sydd yn perfformio’n dda, gan adael iddynt gywreinio eu daelltwriaeth pwnc a sgiliau arholiad. Rydym yn falch o gefnogi Coleg Caerdydd a’r Fro yn y cynllun unigryw a rhagweithiol hwn o gefnogi eu dysgwyr.” 

Am fwy o wybodaeth, neu i ymholi am becyn tiwtora unigryw ar gyfer eich ysgol neu goleg, cysylltwch â Neil.thomas@equaleducationpartners.com