01792 277686 | 01554 777749 | 02920 697129
  • English
  • Fel cyflogwr moesegol a chwmni â chymhelliant cymdeithasol, mae Equal wedi ymrwymo i drin ein holl weithwyr a dysgwyr yn deg, i sicrhau bod ein holl waith yn cael ei wneud gyda gwir ymdeimlad o bwrpas ac i sicrhau bod gan bopeth a wnawn effaith gadarnhaol bendant, gan gyfrannu’n sylweddol at y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt ac at genedlaethau’r dyfodol.

     

    Rydym yn cael effaith gadarnhaol sylweddol trwy recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr proffesiynol addysgu rhagorol a thrwy alluogi dysgwyr i gael mynediad at gyfleoedd i ddatblygu heb eu hail.

    Hefyd, mae’r mentrau canlynol yn ategu ein hymrwymiadau yn hynny o beth:
    1. Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol
    2. Cyflogwr Cyflog Byw
    3. Peilot Graddfeydd Moesegol Cymru ESC International
    4. Partneriaethau addysg uwch gyda phrifysgolion sy’n arwain y byd
    5. Nawdd ar gyfer mentrau ysgolion
    6. Diwrnod gwirfoddoli taledig i holl staff mewnol y swyddfa yn flynyddol – Community TeamWorks
    7. Mentrau codi arian – Boreau coffi ac ati