Cofrestrwch eich lle yn ein gweminar dysgu proffesiynol diweddaraf sy’n canolbwyntio ar addysgu gwyddoniaeth a pheirianneg yma yng Nghymru.
Yn ddiweddar, drwy ymweliad gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a defnwyd gan Equal Education Partners, cwblhaodd dirprwyaeth o bedwar addysgwr o Gymru brofiad trawsnewidiol yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) fel rhan o’r Rhaglen Gwyddoniaeth a Pheirianneg uchel ei pharch i Athrawon (SEPT).
Yn ystod eu hamser yn MIT, cafodd yr addysgwyr hyn eu trochi mewn rhaglen gynhwysfawr a gynlluniwyd i gyfoethogi eu dealltwriaeth o addysg gwyddoniaeth ac addysg beirianneg. O ddarlithoedd dyddiol gan wyddonwyr MIT ar ymchwil flaengar i weithdai ymarferol yn cynnwys methodolegau addysgu arloesol, cawsant wybodaeth amhrisiadwy a sgiliau ymarferol i wella eu harferion addysgu i baratoi ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm Newydd i Gymru a chymhwysedd digidol ar draws pob maes.
Dysgwch fwy am y cynrychiolwyr ac am y rhaglen SEPT
Wrth iddynt ddychwelyd, mae’r cynrychiolwyr yn barod i rannu eu dirnadaeth a’u darganfyddiadau gyda chyd-addysgwyr ledled Cymru. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fod yn rhan o gymuned ddeinamig o addysgwyr sy’n ymroddedig i hyrwyddo addysg STEM a llunio dyfodol dysgu yng Nghymru.
Cynhelir y gweminar am 4yp ar y 25ain o Fehefin, cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle a chychwyn ar daith o dwf a darganfyddiad proffesiynol.
Gallwch hefyd ddarllen adroddiadau myfyrio y cynrychiolwyr yma: