01792 277686 | 01554 777749 | 02920 697129
  • English
  • Mae Equal Talent Partners yn ymgynghoriaeth recriwtio a hyfforddi addysg flaenllaw sy’n gweithio gydag ysgolion ac yn ffurfio partneriaethau Addysg Uwch arloesol ar draws Cymru, yn Lloegr ac yn rhyngwladol. Rydym yn galluogi sefydliadau addysg i ddenu, cadw a datblygu’r doniau addysgu gorau a darparu cyfleoedd heb eu hail i ddysgwyr dyfu. Rydym yn gwneud hyn trwy ein gwaith ar draws recriwtio addysg, hyfforddi athrawon, ymgynghori yn y sector cyhoeddus & rheoli prosiectau a thrwy ffurfio partneriaethau addysg uwch effeithiol yn rhyngwladol. Rydym yn cyfuno ein harbenigedd ni ac arbenigedd ein partneriaid â phŵer technoleg i gysylltu pobl ac i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol addysg a dysgwyr i ddatblygu eu hunain trwy ymgymryd â heriau newydd bob dydd!

    Ein gweledigaeth a’n cenhadaeth

    • Cysylltu gweithwyr proffesiynol addysgu rhagorol â’r cyfleoedd gorau.

     

    • Darparu staff o ansawdd uchel trwy recriwtio diogel a chydymffurfiol i ysgolion.

     

    • Cyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu.

     

    • Bod yn bartner cefnogol i bawb ac i wasanaethu fel estyniad i swyddfa’r ysgol.

     

    • I ddarparu cyfleoedd heb eu hail i ddysgwr.

    Pam yr ydym ni’n gwneud yr hyn rydym yn ei wneud?

    • Galluogi sefydliadau addysg i ddenu, cadw a datblygu’r dalent addysgu gorau.

     

    • Ehangu’r ystod o gyfleoedd o ansawdd ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysgu ansawdd uchel.

     

    • Cyflwyno cyfleoedd datblygiadol effeithiol ar gyfer twf proffesiynol a phersonol.

     

    • Darparu cyfleoedd trawsnewidiol heb eu hail i ddysgwyr.

     

    • I’w gwneud yn haws rhedeg ysgolion a sefydliadau llwyddiannus.

    Ein gwerthoedd a’n hymrwymiadau

    Rydym wedi ymrwymo i fod yn:

    • Uchelgeisiol ar eich rhan
      Gefnogol i’ch anghenion
    • Deallgar o’ch cyflawniadau a’ch nodau
    • Teg a moesegol yn ein gwaith
    • Yn benderfynol o ragori ar holl ddisgwyliadau

    Beth yr ydym yn ddarparu?

    • Gweithwyr proffesiynol rhagorol, wedi’u fetio yn llawn ar gyfer cyflenwi bob dydd, swyddi tymor hir a pharhaol.
    • Cyfleoedd i weithwyr proffesiynol addysgu ddatblygu eu gyrfaoedd a chyflawni eu nodau.
    • Profiadau addysgol heb eu hail i ddysgwyr.
    • Cyfleoedd hyfforddi ar gyfer datblygiad proffesiynol a thwf personol i weithwyr proffesiynol addysgu a dysgwyr.
    • Estyniad o swyddfa’r ysgol i helpu ysgolion i gyflawni eu nodau.
    • Cefnogaeth ymroddedig i’n holl bartneriaid.
    • Cynhwysoldeb ac awydd i ehangu ein cyrhaeddiad a’n perthnasoedd.

    Ein cleientiaid a’n partneriaid

    Mwy am ein cleientiaid a’n partneriaid: