Dyfarnwyd Equal Education Partners yn llwyddiannus i fframwaith newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu staff i ysgolion ar draws Cymru!

Rydym wedi llwyddo i ennill lle fel darparwr argymelledig ar draws pob un o 22 o awdurdodau Awdurdod Addysg Lleol Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu gweithio gyda llawer mwy o ysgolion a gweithwyr addysgu proffesiynol ar draws Cymru. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol sylweddol i ysgolion, gweithwyr proffesiynol addysgu a darparwyr recriwtio addysg cwbl gydymffurfiol ac achrededig yng Nghymru.

Trwy’r fframwaith newydd, ni fydd ysgolion ac athrawon bellach yn cael eu hannog yn gryf gan awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i weithio’n gyfan gwbl gydag un darparwr, ond yn hytrach rhoddir dewis iddynt o ddarparwyr achrededig i weithio gyda nhw, gan gynnwys Equal Education Partners.

Rydym yn optimistaidd bydd hyn yn gael effaith gadarnhaol sylweddol yn y ffyrdd a ganlyn:

  1. Rhoi gwir ddewis i ysgolion o ddarparwyr achrededig sy’n cydymffurfio i weithio gyda nhw
  2. Gwella tâl ac amodau athrawon cyflenwi
  3. Codi safonau addysgu a dysgu mewn ysgolion
  4. Gwella safonau fetio a chydymffurfiaeth staff cyflenwi ar draws Cymru
  5. Cefnogi cadw unigolion rhagorol yn y proffesiwn addysgu

Byddwn yn postio mwy o wybodaeth am y fframwaith newydd a’r hyn mae’n golygu i weithwyr proffesiynol addysgu ac ysgolion dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Os hoffech chi drafod beth mae hyn yn golygu i chi, cysylltwch â ni dros y ffôn neu e-bost.

O ganlyniad i hyn a datblygiadau cyffrous eraill, mae’r haf hwn yn amser cyffrous i ymuno â Equal yn ein timau swyddfa a dysgu! Cysylltwch â ni ar 01554 777749 i gael mwy o wybodaeth am ymuno ag Equal Talent Partners!