Ar Ddydd Gwener 26 Chwefror 2021, wnaeth tri hyfforddwr STEM o raglen Global Teaching Labs (GTL) yng Nghymru 2021 gyda Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) Equal Education Partners cyflwyno ar gyfer myfyrwyr TAR Prifysgol Metropolitan Caerdydd fel rhan o’u cynhadledd Fframwaith Cymhwysedd Digidol (DCF). Noddwyd y digwyddiad hwn gan Equal Education Partners ar ran Llywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen GTL yng Nghymru gyda MIT.

 

Mae rhaglen GTL yng Nghymru gyda MIT yn gyfle effeithiol a thrawsffurfiol unigryw, sydd yn dod â hyfforddwyr STEM arbenigol o MIT i ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd staff ar draws Cymru. Trwy’r fenter partneriaethiol hon, nod Llywodraeth Cymru, MIT ac Equal Education Partners yw i gynyddu ymgysylltiad â phynciau STEM trwy archwilio materion y byd go iawn ac i rymuso dysgwyr i ymdrechu i gyflawni eu potensial llawn yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Mewn ymateb i bandemig COVID-19, ym mis Ionawr 2021 gwelwyd rhaglen GTL yng Nghymru gyda MIT addasu i fformat cwbl rithwir. Gweithiodd y 18 hyfforddwr a gymerodd ran o bell, ar draws 8 parth amser, gyda 24 o ysgolion a cholegau a oedd hefyd yn ganolfannau ar gyfer ymgysylltu ag ysgolion eraill, colegau, sefydliadau lleol a rhanbarthol yn y sector Gwyddoniaeth a Thechnoleg, hybiau Rhwydwaith Seren, a sefydliadau eraill. I gael mwy o wybodaeth am raglen GTL yng Nghymru gyda MIT, ewch i https://gtlcymru.online/.

 

Y tri hyfforddwyr wnaeth cyfrannu at gynhadledd DCF oedd Daniela Ganelin, Kanoe Evile a Maria Ascanio Alino. Daniela oedd un o’r hyfforddwyr cyntaf i ddysgu trwy raglen GTL yng Nghymru gyda MIT yn 2019. Mae Daniela yn gyn-athrawes ysgol uwchradd gyda gradd Baglor mewn Cyfrifiadureg a Mathemateg, gradd Meistr mewn Cyfrifiadureg (Crynodiad Deallusrwydd Artiffisial), a thrwydded addysgu gan MIT. Nawr, hi yw Cyfarwyddwr Cwricwlwm Inspirit AI. Eleni, wnaeth Daniela ymuno â thîm rheoli Equal i wneud rhaglen Global Teaching Labs MIT yng Nghymru hyd yn oed yn gryfach. I ddarllen mwy am Daniela, ewch i https://gtlcymru.online/tim. Mae Kanoe Evile yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn MIT sy’n astudio Peirianneg Fiolegol ac Ieithyddiaeth. Mae hi’n dod yn wreiddiol o Hawaii, ac mae’n bwriadu dilyn gyrfa mewn meddygaeth i wella ansawdd a mynediad at iechyd yn ei chymuned gartref ac ardal y Môr Tawel. Mae Maria, o Madrid, hefyd yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn MIT sydd yn astudio Cyfrifiadureg a Pheirianneg. Dechreuodd ei diddordeb mewn addysg pan ddaeth yn fentor i CodeIt ac mae ganddi hefyd profiad o ddysgu Mathemateg, Gwyddoniaeth a Sbaeneg. I ddarllen mwy am Kanoe a Maria, ewch i https://gtlcymru.online/hyfforddwyr2021.

 

“Hoffwn diolch Equal Education am ei ymrwymiad yn ystod y cynhadledd DCF ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda’r myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o MIT y maen nhw wedi’u datblygu a’u cefnogi. Mae’r ystod o waith trawsgwricwlaidd y mae ei gyflwynwyr wedi’i wneud trwy Raglen GTL yng Nghymru gyda MIT wedi bod yn rhagorol. Roedd ein myfyrwyr TAR yn amlwg wedi elwa o’r profiadau hyn ac yn awyddus i archwilio’r gwaith yr oeddent wedi’i gwblhau yn ysgolion Cymru. Nid oes amheuaeth y bydd hyn yn effeithio ar gymhwysiad ein myfyriwr o’r DCF yn ystod eu lleoliad ysgol olaf. Diolch yn fawr.”

Jason Davies, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

 

“Rydym wrth ein bodd bod Equal Education Partners wedi gallu cyfrannu at gynhadledd DCF Prifysgol Metropolitan Caerdydd trwy gael ein hyfforddwyr STEM o MIT i gyflwyno ar y prosiectau cyffrous ac arloesol maen nhw wedi’u gwneud gydag ysgolion ar draws Cymru. Mae wedi bod yn bleser gweithio ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a gweld ei ymrwymiad i ddatblygu athrawon newydd gymhwyso rhagorol a fydd yn ffynnu yn eu gyrfaoedd. Lle bynnag y gallwn gefnogi hyn, bydd Equal Education Partners yn ymdrechu i wneud hynny.”

Liam Rahman, Rheolwr Gyfarwyddwr & Phennaeth Partneriaethau, Equal Education Partners