e-Ddysgu a thechnoleg addysg yn Equal Talent Partners
Os ydych chi’n rheolwr prosiect, yn arbenigwr pwnc, yn ddylunydd addysgol neu’n ddatblygwr, bydd ein tîm e-Ddysgu a thechnoleg addysg wrth eu bodd i glywed gennych.
Rydym yn recriwtio’r doniau e-Ddysgu a thechnoleg addysg canlynol:
- Awduron cyrsiau
Datblygwyr - Dylunwyr Cyfarwyddiadol
- Dylunwyr Addysgu
- Rheolwyr Prosiect
- Arbenigwyr pwnc (gan gynnwys ymarferwyr addysgu)
Gweler ein swyddi gwag cyfredol yma.
Cysylltwch â aelod o’n tîm yma.
Ymunwch â’n cronfa talent yma.
Mae cleientiaid e-Ddysgu a thechnoleg addysg yn cynnwys:
- Cwmnïau technoleg addysg
- Llywodraethau (gweinidogaethau addysg)
- Prifysgolion
- Gwasanaethau gwella ysgolion
- Byrddau arholi
- Ysgolion cynradd, uwchradd, ADY ac Annibynnol
- Colegau Addysg Bellach (AB)
- Academïau ac Ymddiriedolaethau Aml-Academi
Os ydych chi’n chwilio am dalent e-Ddysgu neu technoleg addysg, dywedwch wrthym am eich rôl(au) yma.
Un o'r asiantaethau gorau yn Ne Cymru. Mae Equal yn asiantaeth sy'n ymfalchïo ac yn gofalu am ei staff. Mae'r staff wedi helpu'n aruthrol gyda fy mlwyddyn sefydlu ANG trwy ddarparu help a chyngor a chyrsiau datblygiad proffesiynol. Trwy gydol y pandemig, ni allwn ddiolch digon i'r cwmni am ei gefnogaeth. Y peth rwy'n ddiolchgar iawn amdano yw y byddwn i'n cael galwad ffôn bob wythnos - nid o reidrwydd am unrhyw ddiweddariadau - ond sgwrs i sicrhau fy mod i'n iawn. Rwyf wedi argymell Equal i ffrindiau sy'n athrawon cymwys yn ogystal â'r rhai sydd eisiau newid gyrfa gan fy mod yn credu mai hwn yw'r cwmni i ddechrau'r siwrnai honno.
Ffion
Athrawes Newydd Gymhwyso
Rwy'n athrawes gyflenwi ac wedi bod yn gweithio gyda Equal ers fis Tachwedd 2020. Mae holl staff y cwmni yn broffesiynnol a chyfeillgar iawn ac wastad yn hapus am sgwrs. Mae nhw'n gwmni da sydd yn ymdrechu yn galed i ddod o hyd i waith rheolaidd ac yn parchu'r ffaith fod gen i gyfyngiadau weithiau gydag ymrwymiadau teuluol. Byddwn yn bendant yn argymell fod unrhyw un sy'n chwilio am waith cyflenwi yn ymuno gyda Equal.
Catrin
Athrawes Cyflenwi