Rydym yn cyflwyno gweithwyr proffesiynol dysgu a chymorth addysgu i swyddi cyflenwi dyddiol, tymor byr, hirdymor a pharhaol mewn ysgolion ar draws Cymru, yn Lloegr ac yn rhyngwladol. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion i adeiladu strategaethau Adnoddau Dynol cynaliadwy, gan eu gosod fel cyflogwyr o ddewis i gyflawni eu nodau recriwtio, cadw a datblygu.

Rydym yn cynnig cyfraddau cyflog sy’n arwain y farchnad o’r diwrnod cyntaf ac mae gennym ystod eang o swyddi ar gael trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae ein hymgynghorwyr yn rhagweithiol wrth sicrhau cyfleoedd rhagorol i aelodau tîm sydd o safon uchel ac yn cefnogi cleientiaid ac ymgeiswyr drwyddi draw. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus am ddim.

Cymru

Rydym yn gweithio gyda dros 100 o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), colegau Addysg Bellach (AB) ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ar draws Cymru.

Lloegr

Yn Lloegr, rydym yn gweithio'n un i un gydag ysgolion, academïau a cholegau dethol i ddod o hyd i'r staff addysgu a chymorth addysgu gorau.

Rhyngwladol

Mae ein cynnig rhyngwladol yn dod â gweithwyr proffesiynol addysgu rhyngwladol i addysgu yn y DU ac yn cefnogi ysgolion rhyngwladol ar draws y byd i ddod o hyd i'r athrawon gorau sydd â chymwysterau yn y DU.

Arweinyddiaeth

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion annibynnol ac ymddiriedolaethau aml-academi i ddod o hyd i weithwyr proffesiynol rhagorol ar gyfer swyddi arweinyddiaeth yn ysgolion ar draws y byd.

Pam ddylai addysgwyr weithio gyda Equal?

Pam ddylai cyflogwyr weithio gyda Equal?
Reason 1 Cyfraddau Tâl Ardderchog
  • Isafswm o £27,018 y flwyddyn ar gyfer athrawon cymwys o’r diwrnod cyntaf
  • Telir pob Cynorthwyydd Addysgu uwchlaw’r Cyflog Byw
  • Rydym yn talu’n uniongyrchol trwy gynllun Talu Wrth Ennill (nid ydym yn defnyddio cwmnïau ymbarél costus)
Reason 2 Dysgu Proffesiynol
  • Hyfforddi a mentora ar gael i holl aelodau’r tîm
  • Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi’u hariannu gan Equal Talent Partners
  • Cyfleoedd rhwydweithio a chymorth ar gael i holl aelodau’r tîm
Reason 3 Cefnogaeth Ymroddedig
  • Rydym yn mabwysiadu dull wedi’i bersonoli, gan ddod i adnabod pob aelod o’r tîm
  • Bydd ein Rheolwyr Recriwtio yn eich cefnogi o ddydd i ddydd
  • Rydym bob amser ar gael trwy ein gwasanaeth y tu allan i oriau
Reason 4 Cyfleoedd Eang
  • Rydym yn recriwtio staff addysgu a chymorth addysgu ar gyfer dros 100 o ysgolion a cholegau
  • Rydym wedi ein hargymell gan Lywodraeth Cymru i bob ysgol yng Nghymru
  • Rydym wedi ein hargymell ledled Lloegr gan yr Adran Addysg
Reason 5 Hyblygrwydd
  • Byddwn yn gweithio gyda chi i gyflawni eich amcanion a chyflawni’ch uchelgeisiau proffesiynol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir
  • Gweithiwch gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch – gadewch i ni gwybod eich argaeledd ddiweddaraf ac fe ddown o hyd i waith addas i chi
Reason 6 Dilyniant Gyrfaol
  • Rydym yn rhagweithiol wrth sicrhau swyddi hirdymor a pharhaol i’n staff addysgu a chymorth addysgu
  • Rydym yn galluogi staff addysgu a chymorth addysgu i adeiladu perthnasoedd pwysig ar draws amrywiaeth eang o ysgolion a cholegau

Academi Equal Education Partners

Edrychwch ar ein Academi fewnol i gael manylion am sut gallwn helpu chi i ddatblygu eich gyrfa mewn addysg

Edrychwch ar ein Academi fewnol i gael manylion am sut gallwn helpu chi i ddatblygu eich gyrfa mewn addysg

Academi Equal

Newyddion diweddaraf

Edrychwch ar rai o'n newyddion diweddaraf isod!